Gemau'r Gymanwlad 2018

Oddi ar Wicipedia
21in Gemau'r Gymanwlad
Campau19
Seremoni agoriadol4 Ebrill
Seremoni cau14 Ebrill
Agorwyd yn swyddogol ganY Tywysog Siarl, Tywysog Cymru
XX XXII  >
Gemau'r Gymanwlad 2018
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad aml-chwaraeon Edit this on Wikidata
Dyddiad2018 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd4 Ebrill 2018 Edit this on Wikidata
Daeth i ben15 Ebrill 2018 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadGold Coast Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthQueensland Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.gc2018.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gemau'r Gymanwlad 2018 oedd yr unfed tro ar hugain i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Arfordir Aur, Queensland, Awstralia oedd cartref y Gemau gafodd eu cynnal rhwng 4 - 15 Ebrill 2018. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Cyfarfod Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Basseterre, Sant Kitts-Nevis ym mis Tachwedd 2011 gyda Dinas Gold Coast yn ennill y bleidlais gyda 43 pleidlais a 27 pleidlais i Hambantota, Sri Lanca a ddaeth yn ail.

Dyma oedd y pumed tro i Awstralia gynnal Gemau'r Gymanwlad.

Uchafbwyntiau'r Gemau[golygu | golygu cod]

Flora Duffy o Bermuda gipiodd fedal aur cyntaf y Gemau yn y Triathlon i ferched. Dyma oedd medal aur cyntaf Bermuda yng Ngemau'r Gymanwlad ers i Nick Saunders gipio aur yn y naid uchel yn Auckland ym 1990[1][2].

Llwyddodd Fanwatw, Ynysoedd Cook, Ynysoedd Solomon, Dominica, Ynysoedd Morwynol Prydain a Sant Lwsia i ennill medal am y tro cyntaf yn hanes Gemau'r Gymanwlad.

Daeth medalau Fanwatw, Dominica, Ynysoedd Morwynol Prydain a Sant Lwsia yn yr athletau wrth i Kyron McMaster ennill aur yn y 400m dros y clwydi i'r Ynysoedd Morwynol Prydain[3] a cipiodd Levern Spencer o Sant Lwsia yr aur yn y naid uchel[4]. Cafwyd medalau efydd i Friana Kwevira o Fanwatw yn y gwaywffon T36[5], Thea Lafond o Dominica yn y naid driphlyg i ferched[6].

Llwyddodd Aidan Zittersteijn a Taiki Paniani o Ynysoedd Cook i drechu'r pâr o Malta er mwyn ennill medal efydd yng nghystadleuaeth parau bowlio lawnt a cipiodd Jenly Wini fedal efydd yng nghategori 58 kg codi pwysau i Ynysoedd Solomon[7].

Y codwr pwysau o Seland Newydd, David Liti, gafodd ei urddo â Gwobr David Dixon yn ystod y Seremoni Cloi.[8].

Chwaraeon[golygu | golygu cod]

Dychwelodd Pêl-fasged i'r gemau ar draul Jiwdo gyda Rygbi Saith-bob-ochr a Pel-foli Traeth yn cael eu cyflwyno am y tro cyntaf[9]

Timau yn cystadlu[golygu | golygu cod]

Roedd pob un o 71 o wledydd y Gymanwlad yn gyrru tîm i Gemau'r Gymanwlad, 2018 gyda Gambia yn dychwelyd i'r Gymanwlad ym mis Mawrth 2018[10] ond ni fu y Maldives yn cystadlu ar ôl gadael y Gymanwlad yn 2016[11].

Tabl medalau[golygu | golygu cod]

Roedd 275 o wahanol gampau yn y Gemau a llwyddodd 43 o wledydd gwahanol i gipio medal gyda'r tîm cartref, Awstralia, yn gorffen ar frig y tabl medalau[12]

 Safle  CGA Aur Arian Efydd Cyfanswm
1  Awstralia* 80 59 59 198
2 Baner Lloegr Lloegr 45 45 46 136
3  India 26 20 20 66
4  Canada 15 40 27 82
5  Seland Newydd 15 16 15 46
6 Baner De Affrica De Affrica 13 11 13 37
7  Cymru 10 12 14 36
8 Baner Yr Alban Yr Alban 9 13 22 44
9 Baner Nigeria Nigeria 9 9 6 24
10 Baner Cyprus Cyprus 8 1 5 14
11 Baner Jamaica Jamaica 7 9 11 27
12 Baner Maleisia Maleisia 7 5 12 24
13 Baner Singapôr Singapôr 5 2 2 9
14 Baner Cenia Cenia 4 7 6 17
15 Baner Wganda Wganda 3 1 2 6
16 Baner Botswana Botswana 3 1 1 5
17 Baner Samoa Samoa 2 3 0 5
18 Baner Trinidad a Tobago Trinidad a Tobago 2 1 0 3
19 Baner Namibia Namibia 2 0 0 2
20 Baner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon 1 7 4 12
21 Baner Nodyn:Alias gwlad Bahamas Bahamas 1 3 0 4
22 Baner Papua Gini Newydd Papua Gini Newydd 1 2 0 3
23 Baner Ffiji Ffiji 1 1 2 4
24  Pacistan 1 0 4 5
25 Baner Grenada Grenada 1 0 1 2
26 Baner Bermiwda Bermiwda 1 0 0 1
Baner Gaiana Gaiana 1 0 0 1
Ynysoedd Morwynol Prydain 1 0 0 1
Sant Liwsia 1 0 0 1
30 Baner Bangladesh Bangladesh 0 2 0 2
31 Baner Sri Lanca Sri Lanca 0 1 5 6
32 Baner Camerŵn Camerŵn 0 1 2 3
33 Baner Dominica Dominica 0 1 1 2
34 Ynys Manaw 0 1 0 1
Baner Mawrisiws Mawrisiws 0 1 0 1
Baner Nawrw Nawrw 0 1 0 1
37 Baner Malta Malta 0 0 2 2
Baner Fanwatw Fanwatw 0 0 2 2
39 Ynysoedd Cook 0 0 1 1
Baner Ghana Ghana 0 0 1 1
Ynys Norfolk 0 0 1 1
Baner Seychelles Seychelles 0 0 1 1
Baner Ynysoedd Solomon Ynysoedd Solomon 0 0 1 1
Cyfanswm (43 o wledydd) 275 276 289 840

Medalau'r Cymry[golygu | golygu cod]

Llwyddodd athletwyr Cymru i ennill 36 o fedalau - 10 medal aur, 12 medal arian a 14 medal efydd - cyfanswm medalau sydd gystal â'r nifer uchaf erioed o'r Gemau yn Glasgow yn 2014, ond yr adeg hynny dim ond pum medal aur gafodd y tîm. Gyda 10 medal aur yn cael eu hennill yn 2018, mae'r Gemau yn cael eu hystyried fel y Gemau gorau erioed i Gymru[13].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Flora Duffy of Bermuda wins 1st Commonwealth Games gold". The Washington Post. 2018-04-04.[dolen marw]
  2. "Bermuda Gold medals Auckland 1990". Commonwealth Games Federation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-25. Cyrchwyd 2018-04-06.
  3. "A year after Hurricane Irma, Kyron McMaster wins BVI's first Commonwealth medal". CNN. 2018-04-12.
  4. "Levern Spencer wins gold at Commonwealth Games". St Lucia Times. 2018-04-14.[dolen marw]
  5. "Simbine stuns Blake to win Commonwealth Games 100 metres". Insidethegames.biz. 2018-4-09. Check date values in: |date= (help)
  6. "Thea Lafond wins bronze for Dominica at Commonwealth Games". Dominica News Online. 2018-0410. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-04-11. Cyrchwyd 2018-04-14. Check date values in: |date= (help)
  7. "Cook Islands, Solomon Islands and Vanuatu win medals at games". Asia Pacific report.
  8. "David Liti recieves the David Dixon Award for outstanding sporting spirit". Stuff.co.nz. 2018-04-15.
  9. "Beach volleyball to be played at the 2018 Gold Coast Commonwealth Games". 2016-03-08. Unknown parameter |published= ignored (help)
  10. "Gambia to compete at Gold Coast 2018 after readmitted as CGF member". 2018-03-31. Unknown parameter |published= ignored (help)
  11. "Maldives set to miss Gold Coast 2018 after resigning from Commonwealth". 2016-10-14. Unknown parameter |published= ignored (help)
  12. "Official medal table". GC2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-04-24. Cyrchwyd 2018-04-15.
  13. "Cymu yn gorffen yn y seithfed safle ar yr Arfordir Aur". BBC Cymru Fyw. 2018-04-15.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Rhagflaenydd:
Glasgow
Gemau'r Gymanwlad
Arfordir Aur
Olynydd:
Birmingham