Gemau'r Gymanwlad 2022

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
22in Gemau'r Gymanwlad
Dinas Birmingham, Lloegr
Seremoni agoriadol 27 Gorffennaf
Seremoni cau 7 Awst
XXI XXIII  >

Gemau'r Gymanwlad 2022 fydd yr ail dro ar hugain i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Bydd y gemau yn cael eu cynnal yn Birmingham, Lloegr[1]. Dyma fydd y trydydd tro i'r Gemau cael eu cynnal yn Lloegr.

Roedd y gemau i fod i'w cynnal yn Durban, De Affrica ond ym mis Chwefror 2017 cyhoeddwyd na fyddai'r ddinas yn gallu cynnal y Gemau wedi'r cwbwl oherwydd problemau ariannol[2] ac ym mis Mawrth 2017 agorwyd y broses o geisio dod o hyd i leoliad newydd ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2022[3]

Mae disgwyl i'r Gemau cael eu cynnal rhwng 27 Gorffennaf a 7 Awst 2022 gyda'r Seremoni Agoriadol yn digwydd 10 mlynedd i'r diwrnod wedi Seremoni Agoriadol y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym mis Ionawr 2018 cyhoeddwyd na fyddai saethu yn rhan o'r Gemau yn 2022 - y tro cyntaf ers Gemau'r Gymanwlad 1970 i'r gamp peidio a chael ei chynnwys[4][5].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Commonwealth Games: Birmingham announced as host of 2022 event". BBC Sport. 2017-12-21.
  2. "Commonwealth Games 2022: Durban 'may drop out as host'". BBC News. 2017-02-28.
  3. "Durban stripped of 2022 Commonwealth Games". The Sydney Morning Herald. 2017-03-14.
  4. "Optional Sports at 2022 Commonwealth Games". Around the Rings. 2018-01-18. http://aroundtherings.com/site/A__62549/Title__Optional-Sports-at-2022-Commonwealth-Games/292/Articles.
  5. "Birmingham 2022: Shooting dropped from Commonwealth Games". BBC. 2018-01-19. https://www.bbc.com/sport/shooting/42753120.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhagflaenydd:
Arfordir Aur
Gemau'r Gymanwlad
Birmingham
Olynydd:
I'w gadarnhau