Gemau'r Gymanwlad 1998
| Enghraifft o: | digwyddiad aml-chwaraeon |
|---|---|
| Dyddiad | 1998 |
| Dechreuwyd | 11 Medi 1998 |
| Daeth i ben | 21 Medi 1998 |
| Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
| Lleoliad | Kuala Lumpur, National Stadium, Bukit Jalil |
| Yn cynnwys | badminton at the 1998 Commonwealth Games, squash at the 1998 Commonwealth Games |
| Rhanbarth | Maleisia, Kuala Lumpur |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02sm4x |
| 16eg Gemau'r Gymanwlad | |||
|---|---|---|---|
![]() | |||
| Seremoni agoriadol | 11 Medi | ||
| Seremoni cau | 21 Medi | ||
| Agorwyd yn swyddogol gan | Prif Weinidog Maleisia Mahathir Mohamad | ||
| |||
Gemau'r Gymanwlad 1998 oedd yr unfed tro ar bymtheg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Kuala Lumpur, Maleisia, oedd cartref y Gemau rhwng 11 - 21 Medi a dyma'r tro cyntaf i'r Gemau ymweld ag Asia. Llwyddodd Kuala Lumpur i ennill yr hawl i gynnal y Gemau yn ystod Gemau Olympaidd 1992 yn Barcelona gan sicrhau 40 pleidlais gydag Adelaide, Awstralia yn sicrhau 25. Roedd Gemau'r Gymanwlad wedi eu beirniadu yn dilyn y penderfyniad i wrthod ceisiadau New Dehli i gynnal Gemau 1990 a 1994 gan arwain at lywodraeth Canada'n nodi bod angen i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal ym mhob rhan o'r Gymanwlad ac nid i'w cyfyngu i'r gwledydd traddodiadol fel Lloegr, Awstralia, Seland Newydd a Chanada.[1]
Cafwyd campau i dimau am y tro cyntaf yn y Gemau gyda Chriced, Hoci, Pêl-rwyd a Rygbi Saith-bob-ochr yn ogystal â Bowlio Deg a Sboncen a chafwyd athletwyr o Ciribati a Twfalw am y tro cyntaf yn ogystal â dwy wlad oedd wedi ymuno â'r Gymanwlad er nad oeddent yn gyn-diriogaethau Prydeinig; Camerŵn a Mosambic.
Uchafbwyntiau'r Gemau
[golygu | golygu cod]Cafodd Mosambic ddechrau delfrydol i'w Gemau cyntaf wrth i Maria Mutola ac Argentina Paulino gipio'r fedal aur ac arian yn ras yr 800m i ferched a dathlodd Camerŵn eu hymddangosiad cyntaf yn y gemau gyda thair medal arian a thair medal efydd. Cipiodd Lesotho a Mawrisiws eu medalau aur cyntaf yn hanes y Gemau wrth i Thabiso Paul Moqhal ennill y Marathon i Lesotho gyda Richard Sunee yn dod yn fuddugol yn y sgwâr bocsio i Mawrisiws.
Gyda champau i dimau yn ymddangos am y tro cyntaf, cafwyd medal aur i dîm criced De Affrica, Crysau Duon Seland Newydd oedd yn fuddugol yn y rygbi saith-pob-ochr tra bo Awstralia'n fuddugol yn y pêl-rwyd yn ogystal â chystadlaethau hoci'r dynion a'r merched.
Ar y trac Athletau llwyddodd Atto Boldon o Trinidad a Tobago i dorri record y Gymanwlad yn y 100m i ddynion wrth ennill y fedal aur mewn 9.88 eiliad gyda Frankie Fredericks o Namibia, gasglodd y fedal arian, hefyd yn torri 10 eiliad wrth orffen mewn amser o 9.96 eiliad. Obadele Thompson o Barbados gafodd yr efydd gydag amser o 10.00 eiliad ar ei ben.[2]
Torrodd Iwan Thomas o Gymru record 400m y Gymanwlad wrth ennill y fedal aur mewn amser o 44.52 eiliad gan ychwanegu pencampwriaeth y Gymanwlad i'w fedal aur o Bencampwriaethau'r Byd a Phencampwriaethau Ewrop.[3]
Casglodd Bradley Wiggins o Loegr medal cyntaf ei yrfa beicio wrth gasglu'r fedal arian fel aelod o dîm ras yn erbyn y cloc Lloegr ac yn y pwll nofio gwnaeth Ian Thorpe o Awstralia ei ymddangosiad cyntaf yn y Gemau wrth gasglu pedair medal aur yn y 200m dull rhydd, 400m dull rhydd, 4x100m dull rhydd a 4x200m dull rhydd.
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]|
|
Timau yn cystadlu
[golygu | golygu cod]Cafwyd 70 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, 1998 gyda Camerŵn, Namibia, Montserrat a Mosambic yn ymddangos am y tro cyntaf.
Tabl Medalau
[golygu | golygu cod]| Safle | Cenedl | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
|---|---|---|---|---|---|
| 1 | 82 | 61 | 57 | 200 | |
| 2 | 36 | 47 | 52 | 135 | |
| 3 | 30 | 31 | 40 | 101 | |
| 4 | 10 | 14 | 12 | 36 | |
| 5 | 9 | 11 | 14 | 34 | |
| 6 | 8 | 6 | 20 | 34 | |
| 7 | 7 | 10 | 8 | 25 | |
| 8 | 7 | 5 | 4 | 16 | |
| 9 | 4 | 2 | 0 | 6 | |
| 10 | 3 | 4 | 8 | 15 | |
| 11 | 3 | 2 | 7 | 12 | |
| 12 | 3 | 0 | 0 | 3 | |
| 13 | 2 | 1 | 1 | 4 | |
| 14 | 2 | 0 | 3 | 5 | |
| 15 | 1 | 1 | 3 | 5 | |
| 16 | 1 | 1 | 2 | 4 | |
| 17 | 1 | 1 | 1 | 3 | |
| 1 | 1 | 1 | 3 | ||
| 1 | 1 | 1 | 3 | ||
| 20 | 1 | 1 | 0 | 2 | |
| 1 | 1 | 0 | 2 | ||
| 22 | 1 | 0 | 2 | 3 | |
| 23 | 1 | 0 | 0 | 1 | |
| 24 | 0 | 3 | 3 | 6 | |
| 25 | 0 | 2 | 1 | 3 | |
| 26 | 0 | 2 | 0 | 2 | |
| 27 | 0 | 1 | 1 | 2 | |
| 28 | 0 | 1 | 0 | 1 | |
| 0 | 1 | 0 | 1 | ||
| 0 | 1 | 0 | 1 | ||
| 0 | 1 | 0 | 1 | ||
| 32 | 0 | 0 | 1 | 1 | |
| 0 | 0 | 1 | 1 | ||
| 0 | 0 | 1 | 1 | ||
| Cyfanswm | 215 | 215 | 245 | 675 | |
Medalau'r Cymry
[golygu | golygu cod]Roedd 105 aelod yn nhîm Cymru.
| Medal | Enw | Cystadleuaeth | |
|---|---|---|---|
| Aur | Iwan Thomas | Athletau | 400m |
| Aur | Kelly Morgan | Badminton | Senglau |
| Aur | Desmond Davies | Saethu | Skeet |
| Arian | Christian Malcolm | Athletau | 200m |
| Arian | David Morgan | Codi Pwysau | 77 kg (Cipiad) |
| Arian | William Thomas a Robert Weale |
Bowlio Lawnt | Parau |
| Arian | John Price | Bowlio Lawnt | Senglau |
| Efydd | Iwan Thomas Jamie Baulch Paul Gray a Doug Turner |
Athletau | 4 x 400m |
| Efydd | Shaun Pickering | Athletau | Taflu Pwysau |
| Efydd | Kevin Evans | Bocsio | 91 kg |
| Efydd | Rita Jones ac Anne Sutherland |
Bowlio Lawnt | Parau |
| Efydd | Mark Anstey David Wilkins Neil Rees ac Ian Slade |
Bowlio Lawnt | Pedwarawd |
| Efydd | Tony Morgan | Codi Pwysau | 69 kg (Cipiad) |
| Efydd | Christopher Hockley a David Davies |
Saethu | Reiffl bôr llawn |
| Efydd | Alex Gough | Sboncen | Senglau |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.academia.edu/932294/The_Bidding_Games_The_Games_Behind_Malaysias_Bid_to_Host_the_XVIth_Commonwealth_Games
- ↑ http://www.thecgf.com/sports/results.asp[dolen farw]
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-01. Cyrchwyd 2013-09-26.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
| Rhagflaenydd: Victoria |
Gemau'r Gymanwlad Lleoliad y Gemau |
Olynydd: Manceinion |
