Bradley Wiggins

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Bradley Wiggins
2015 UEC Track Elite European Championships 158.JPG
Bradley Wiggins (2015)
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnBradley M Wiggins
LlysenwWiggo
Dyddiad geni (1980-04-28) 28 Ebrill 1980 (42 oed)
Manylion timau
DisgyblaethTrac a Ffordd
RôlReidiwr
Math seiclwrTreial Amser / Pursuit / Dygnwch
Tîm(au) Proffesiynol
2002–2003
2004–2005
2006–2007
2008
La Francaise des Jeux
Crédit Agricole
Cofidis
Team High Road
Prif gampau
Cycling World Champion Rainbow Stripes.png Pencampwr y Byd x6
Baner Prydain Fawr Pencampwr Prydain
Gold medal olympic.svg Gemau Olympaidd
Silver medal olympic.svg Gemau Olympaidd
Bronze medal olympic.svg Gemau Olympaidd x2
Silver medal blank.svg Gemau'r Gymanwlad x2
Golygwyd ddiwethaf ar
16 Medi 2007

Seiclwr proffesiynol Seisnig ydy Syr Bradley Marc Wiggins, CBE (ganwyd 28 Ebrill 1980, Ghent, Gwlad Belg). Mae'n arbenigo mewn seiclo trac a ffordd. Enillodd dair medal ar y trac yn Gemau Olympaidd yr Haf Athen 2004. Yn Gorffennaf 2012 enillodd Wiggins y Tour de France, y seiclwr cyntaf Seisnig i ennill y Tour.

Ganed Bradley yn fab i seiclwr proffesiynol Awstralaidd, Gary Wiggins, ond gwahanodd ei rieni ac aeth i fyw efo'i fam i Maida Vale, Llundain. Yn dilyn gyrfa ei dad, dechreuodd seiclo yn ifanc, gan rasio yn Velodrome Herne Hill, de Llundain yn 12 oed.[1]

Yng Ngemau Olympaidd Sydney yn 2000, enillodd Wiggins y fedal efydd yn y pursuit tîm. Yng Ngemau Olympaidd Athen 2004, enillodd y fedal aur yn y pursuit unigol, 4 km, arian yn y pursuit tîm ac efydd yn y Madison gyda Rob Hayles.

Yn 2001 arwyddodd Wiggins gytundeb gyda thîm proffesiynol ffordd Linda McCartney Racing Team cyn iddo ddod i ben yn gynnar yn 2001.[2] Yn 2002 a 2003, reidiodd dros dîm proffesiynol Ffrengig La Francaise des Jeux; yn 2004 a 2005, dros dîm proffesiynol Ffrengig Crédit Agricole, a reidiodd yn Giro d'Italia 2005. Symudodd i dîm Ffrengig Cofidis yn 2006, a chystadleuodd yn Tour de France 2006 a 2007.

Yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd a argraffwyd 31 Rhagfyr 2004, gwnaethwyd ef yn OBE i gydnabod ei wasanaeth i chwaraeon.

Dychwelodd Wiggins i reidio trac yng nghymal Manceinion Cwpan y Byd Trac, UCI a Phencampwriaethau'r Byd yn 2007, gan ennill y pursuit tîm a'r pursuit unigol. Dilynodd y buddugoliaethau yma gan ennill stage prologue y Critérium du Dauphiné Libéré.

Reidiodd Tour de France 2007 dros dîm Cofidis; ond tynnwyd hwy allan o'r gystadleuaeth wedi i aelod arall o'r tîm, Cristian Moreni, brofi'n bositif mewn prawf cyffuriau.[3]

Yn 2008, ail-adroddodd Wiggins ei gampau o Bencampwriaethau'r Byd 2007 gan gipio'r aur yn y Pursuit unigol, gan greu Record y Byd newydd yn y broses. Cipiodd yr aur yn y Madison yn ogystal.

Priododd Bradley, Catherine Cathy Cockram, ym Manceinion yn Nhachwedd 2004, ac mae ganddynt ddau o blant, Ben ac Isabelle.

Yn Rhagfyr 2012, enillodd Wiggins y Wobr "Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC".

Canlyniadau[golygu | golygu cod y dudalen]

1998
1af Cycling World Champion Rainbow Stripes.png Pursuit 2 km, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI Iau
1999
1af Baner Prydain Fawr Madison (gyda Rob Hayles), Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
3ydd Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2000
2il Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI (gyda Chris Newton, Paul Manning a Bryan Steel)
3ydd Bronze medal olympic.svg Pursuit Tîm, Gemau Olympaidd (gyda Jon Clay, Rob Hayles, Paul Manning, Bryan Steel & Chris Newton)
3ydd Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2001
2il Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
2002
2il Silver medal blank.svg Pursuit 4 km, Gemau'r Gymanwlad
2il Silver medal blank.svg Pursuit Tîm, Gemau'r Gymanwlad
3ydd Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
2003
1af Cycling World Champion Rainbow Stripes.png Pursuit 4 km, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
2il Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Cymal 1 ITT, Tour de l'Avenir
Chwe Diwrnod Ghent
2004
1af Gold medal olympic.svg Pursuit 4 km, Gemau Olympaidd
2il Silver medal olympic.svg Pursuit Tîm, Gemau Olympaidd (gyda Steve Cummings, Paul Manning & Rob Hayles)
3ydd Bronze medal olympic.svg Madison, Gemau Olympaidd (gyda Rob Hayles)
2005
1af Cymal 2 ITT, Circuit de Lorraine
1af Cymal 8, Tour de l'Avenir
2007
1af Cycling World Champion Rainbow Stripes.png Pursuit 4 km, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Cycling World Champion Rainbow Stripes.png Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI (gyda Ed Clancy, Geraint Thomas & Paul Manning)
1af Pursuit Tîm, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd Trac, UCI 2006/2007, (gyda Ed Clancy, Rob Hayles & Paul Manning)
1af Prologue, Critérium du Dauphiné Libéré
1af Cymal 1 ITT, Pedward Diwrnod Dunkirk
1af Cymal 4 ITT, Tour du Poitou-Charentes et de la Vienne
Gwobr Combativity, Cymal 6, Tour de France
2008
1af Cycling World Champion Rainbow Stripes.png Madison, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Cycling World Champion Rainbow Stripes.png Pursuit 4 km, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Cycling World Champion Rainbow Stripes.png Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI (gyda Ed Clancy, Geraint Thomas & Paul Manning)
2009
4ydd Tour de France

Dyfyniadau[golygu | golygu cod y dudalen]

"Most people were too drunk to notice me" Sylwad ar ei brofiad o ymarfer ar gyfer cymal Llundain o'r Tour de France yn hwyr yn y nos.

"It is nice to be recognised for actually achieving something in life as opposed to spending seven weeks in a house on TV with a load of other muppets." Wrth gyfeirio at Big Brother, ar ôl gorffen yn bedwerydd yn Prologue Tour de France.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: