Tour de France 1903
Canlyniad Terfynol | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Tour de France 1903 oedd y Tour de France cyntaf erioed, a sefydlwyd a'i noddwyd gan bapur newydd L'Auto.
Ysbrydolwyd y Tour gan lenyddiaeth, yn arbennig gan nofel Tour de France par Deux Enfants, ynddi mae dau fachgen yn teithio ogwmpas ffrainc. Cynnigwyd y syniad o'r ras gan y newyddiadurwr, Géo Lefèvre i'w olygydd, Henri Desgrange, a chafodd ei drafod yng nghafi, Café de Madrid, neu yn ôl rhai Taverne Zimmer (mae'r caffi wedi newid ei henw sawl gwaith), ym Mharis ar 20 Tachwedd 1902, datganwyd y ras yn gyhoeddus y mis Ionawr canlynol. Rhedwyd y ras er mwyn hybu gwerthiant y papur newydd.
Dechreuodd Tour 1903 gyda chymal Montgeron-Villeneuve-Saint-Georges, route de Corbeil ar 1 Gorffennaf, a gorffennodd gyda cymal Vile-d'Avray, restaurant du Père ar 19 Gorffennaf. Dim ond chwe cymal oedd yn y ras i gymharu a tua ugain yn y Tour yn y 21fed ganrif. ROedd y cymalau'n hir, y hiraf oedd rhwng Nantes a Paris - 471 kilomedr, y byrraf oedd rhwng Toulouse a Bordeaux - 268 kilomedr, i gymharu a chymalau Tour de France 2004, a oedd ar gyfertaledd, yn 171 kilomedr yr un. Dechreuodd chwe deg reidiwr ond dim ond 21 orffennodd. Enillodd yr enillydd 3 mil o ffranciau (tua 26,500 Euro yn arian heddiw).
Fel y journal organisateur, Géo Lefèvre oedd llywydd, beirniad a cheidwad amser y ras; Henri Desgrange oedd y directeur-général, er, ni ddilynodd y ras.
NId oedd unrhyw dimau yn y ras, roedd y reidwyr i gyd yn cystadlu yn unigol. Talwyd 10 ffranc gan pob reidiwr er mwyn cael rasio (tua 87.5 euro heddiw gyda chwyddiant yn ôl Geoffrey Wheatcroft).
Roedd y cymalau, ar gyfartaledd, yn 400 kilomedr o hyd, yn aml yn para i'r nos ac yn cymryd 24 awr iw cyflawni.
- Montgeron: Cymerodd y cymal cyntaf 27 awr a 47 munud iw gyflawni gyda'r reidwyr yn seiclo drwy'r nos. Maurice Garin enillodd y cymal hwn gyda Emile Pagie yn ail munud yn ddiweddarach a Léon Georget yn drydydd. Ni orffenodd Hippolyte Aucouturier y cymal, ond caniatawyd ef i deithio ar y trên i ddechrau'r ail gymal.
- Cymal 2: Lyon - Marseilles.
- Cymal 3: Dechreuodd ar 8 Gorffennaf o Marseilles - Toulouse. Dim ond 32 o'r 60 reidiwr oedd ar ôl yn y ras erbyn hyn. Enillwyd y cymal gan Eugène Brange, Julien Lootens, Maurice Garin a Louis Pothier.
- Cymal 4:Toulouse - Bordeaux. Roedd hwn yn gymharol fyr, 250 kilomedr, yn y cymal hwn digwyddodd damwain cyntaf y Tour de France pan redodd ci ar draws y ffordd gan achosi i grŵp o 15 ddisgyn. Penderfynnodd Hippolyte Aucouturier i roi'r gorau a cymerodd y trên i Paris.
- Cymal 5: Bordeaux - Nantes.
- Cymal 6: Nantes - Paris.
Enillodd Maurice Garin y ras mewn 94 awr 33 munud ac 14 eiliad, Louis Pothier oedd yn ail 2 awr 49 munud a 21 eiliad tu ôl iddo, Augereau oedd yn drydydd 4 awr 29 munud a 24 eiliad tu ôl i'r arwinydd. Y lanterne rouge (yr olaf i orffen) oedd Arsene Millocheau, a oedd 64 awr, 57 munud ac 8 eiliad tu ôl i Garin.
Dolenni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Canlyniadau Tour de France 1903
- Canlyniadau Tour de France 1903 Archifwyd 2007-10-08 yn y Peiriant Wayback.
- Hanes Tour de France 1903
- Map o lwybr Tour de France 1903
1915-1918 Gohirwyd oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
1919 · 1920 · 1921 · 1922 · 1923 · 1924 · 1925 · 1926 · 1927 · 1928 · 1929 ·
1930 · 1931 · 1932 · 1933 · 1934 · 1935 · 1936 · 1937 · 1938 · 1939
1940-1946 Gohirwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1947 · 1948 · 1949 · 1950 · 1951 · 1952 · 1953 · 1954 · 1955 · 1956 · 1957 · 1958 · 1959 · 1960 · 1961 · 1962 · 1963 · 1964 · 1965 · 1966 · 1967 · 1968 · 1969 · 1970 · 1971 · 1972 · 1973 · 1974 · 1975 · 1976 · 1977 · 1978 · 1979 · 1980 · 1981 · 1982 · 1983 · 1984 · 1985 · 1986 · 1987 · 1988 · 1989 · 1990 · 1991 · 1992 · 1993 · 1994 · 1995 · 1996 · 1997 · 1998 · 1999 · 2000 · 2001 · 2002 · 2003 · 2004 · 2005 · 2006 · 2007 · 2008 · 2009 · 2010 · 2011 · 2012 · 2013 · 2014 · 2015
Crys Melyn |
Crys Gwyrdd |
Crys Dot Polca |
Crys Gwyn |
Gwobr Brwydrol