Tour de France 2003
Tour de France 2003 oedd 90fed ras Tour de France. Cychwynnodd ar 5 Gorffennaf 2003 gyda chymal prologue ym Mharis, a theithio'n glocwedd o amgylch Ffrainc cyn gorffen ar y Champs-Élysées ym Mharis ar 27 Gorffennaf. Roedd y llwybr yn 3,427.5 km (2129.75 mi) o hyd.[1] Ymwelodd y Tour â'r Swistir y flwyddyn hon yn ogystal.
Yn wahanol i'r arfer, ni ymwelodd y ras â unrhyw wledydd eraill, gan ail-greu rhan helaeth o lwybr cyntaf y ras a gystadlwyd canrif yn ddiweddarach ym 1903. Roedd gwobr arbennig, y Centenaire Classement ar gyfer y reidiwr gorau dros y chwe cymal â'u gorffen yn cyfateb i Tour 1903 - Lyon, Marseille, Toulouse, Bordeaux, Nantes a Pharis. Enillwyd gan Stuart O'Grady, gyda Thor Hushovd yn ail. Derbyniodd Tour de France 2003 hefyd Wobr Tywysog Asturias am Chwaraeon.
Y ffefryn o'r 198 reidiwr a oed yn cystadlu, oedd Lance Armstrong, a oedd yn anelu am ei bumed fuddugoliaeth a fuasai'n gyfartal gyda'r record ar gyfer y ras. Credwyd mai ei brif wrthwynebwyr yn y ras fyddai Iban Mayo, Aitor González, Tyler Hamilton, Ivan Basso, Gilberto Simoni, Jan Ullrich, a Joseba Beloki. Er iddo fynd ymlaen i ennill y ras, yn ystadegol, ac o'i gyfaddefiad ei hun, dyma oedd perfformiad gwanaf Armstrong dros y saith mlynedd yr enillodd y ras.[2]
Timau[golygu | golygu cod y dudalen]
- US Postal
- ONCE-Eroski
- Team Telekom
- iBanesto.com
- Rabobank
- Saeco Macchine per Caffè
- Cofidis
- Team CSC
- Fassa Bortolo
- FDJeux.com
- Kelme-Costa Blanca
- Quick Step-Davitamon
- Crédit Agricole
- Bianchi
- Lotto-Domo
- AG2R Prévoyance
- Vini Caldirola-So.di
- Euskaltel-Euskadi
- Brioches La Boulangère
- Gerolsteiner
- Alessio
- Jean Delatour
Trawsolwg[golygu | golygu cod y dudalen]
Cystadlwyd y Tour yn fwy brwydrol na'r blynyddoedd cynt, ond Armstrong oedd yn fuddugol unwaith eto. Bu Tyler Hamilton a Levi Leipheimer mewn damwain yn duan yn y Tour, gan arwain at Leipheimer i dynnu allan o'r ras, parhaodd Hamilton a gorffennodd yn bedwerydd ond yn reidio gyda pont ei ysgwydd wedi torri.
Yn yr Alpau, ni allai Gilberto Simoni na Stefano Garzelli, a ddaeth yn gyntaf ac yn ail yn y Giro d'Italia yn gynharach yr un flwyddyn, gadw fyny gyda Lance Armstrong a'r ffefrynnau eraill. Roedd yr un peth yn wir am Santiago Botero a orffennodd yn benwerydd y flwyddyn gynt. Llwyddodd Joseba Beloki i gadw fyny, ac roedd yn yr ail safle'n gyffredinol (40 eiliad tu ôl i Armstrong) pan gafodd ddamwain wrth fynd lawr allt cyflym. Achoswyd y ddamwain gan fod ei frêc wedi cloi fyny, oherwydd fod y tar ar y ffordd yn toddi yn y gwres felly roedd diffyg ffrithiant gyda'r ffordd a daeth ei deiar oddiar ymyl yr olwyn.[3] Torrodd Beloki asgwrn dde ei forddwyd, ei benelin a'i arddwrn, a bu'n raid iddo adael y Tour.[4] Cymerodd Armstrong dargyfeiriad drwy gae ger y ffordd er mwyn osgoi taro Beloki ar y ffordd. Roedd Armstrong yn dal gafael ar y crys melyn, ond enillodd Jan Ullrich y treial amser cyntaf o 1 munud a 36 eiliad. Roedd ef ac Alexander Vinokourov o fewn cyrraedd i Armstrong ar y brig.
Mi lwyddodd Armstrong i amddiffyn ei hun yn erbyn yr ymosodiadau, gan gipio ei bumed fuddugoliaeth Tour de France yn ganlynol, ac felly dod yn gyfartal gyda record Jacques Anquetil, Eddy Merckx, Bernard Hinault a Miguel Indurain am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau. Cyn Armstrong, dim ond Indurain oedd wedi ennill pump yn ganlynol. Cyn 2003, doedd Lance Armstrong erisoed wedi ennill y Tour o lai na chwech munud.
Cymalau[golygu | golygu cod y dudalen]
Cymal | Dyddiad | Dechrau – Gorffen | Math | Pellter | Enillydd |
---|---|---|---|---|---|
P | 5 Gorffennaf | Paris | ![]() |
6.5 km | ![]() |
1 | 6 Gorffennaf | Saint-Denis – Meaux | ![]() |
168.0 km | ![]() |
2 | 7 Gorffennaf | La Ferté-sous-Jouarre – Sedan | ![]() |
204.5 km | ![]() |
3 | 8 Gorffennaf | Charleville-Mézières – Saint-Dizier | ![]() |
167.5 km | ![]() |
4 | 9 Gorffennaf | Joinville – Saint-Dizier | ![]() |
69.0 km | ![]() |
5 | 10 Gorffennaf | Troyes – Nevers | ![]() |
196.5 km | ![]() |
6 | 11 Gorffennaf | Nevers – Lyon | ![]() |
230.0 km | ![]() |
7 | 12 Gorffennaf | Lyon – Morzine | ![]() |
230.5 km | ![]() |
8 | 13 Gorffennaf | Sallanches – Alpe d'Huez | ![]() |
219.0 km | ![]() |
9 | 14 Gorffennaf | Le Bourg-d'Oisans – Gap | ![]() |
184.5 km | ![]() |
10 | 15 Gorffennaf | Gap – Marseille | ![]() |
219.5 km | ![]() |
11 | 17 Gorffennaf | Narbonne – Toulouse | ![]() |
153.5 km | ![]() |
12 | 18 Gorffennaf | Gaillac – Cap Découverte | ![]() |
47.0 km | ![]() |
13 | 19 Gorffennaf | Toulouse – Ax 3 Domaines | ![]() |
197.5 km | ![]() |
14 | 20 Gorffennaf | Saint-Girons – Loudenvielle | ![]() |
191.5 km | ![]() |
15 | 21 Gorffennaf | Bagnères-de-Bigorre – Luz Ardiden | ![]() |
159.5 km | ![]() |
16 | 23 Gorffennaf | Pau – Bayonne | ![]() |
197.5 km | ![]() |
17 | 24 Gorffennaf | Dax – Bordeaux | ![]() |
181.0 km | ![]() |
18 | 25 Gorffennaf | Bordeaux – Saint-Maixent-l'École | ![]() |
203.5 km | ![]() |
19 | 26 Gorffennaf | Pornic – Nantes | ![]() |
49.0 km | ![]() |
20 | 27 Gorffennaf | Ville-d'Avray – Paris (Champs-Élysées) | ![]() |
152.0 km | ![]() |
Arweinwyr y dosbarthiadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Nodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Pan mae un reidiwr yn arwain mwy nag un gystadleuaeth ar ddiwedd cymal mae'n derbyn pob crys, ond dim ond un crys gaiff ei wisgo y diwrnod canlynol. Mae'n gwisgo crys y gystadleuaeth pwysicaf (yn y drefn yma - melyn, gwyrdd, dot polca, gwyn). Mae'r crysau eraill a ddeilir gan y reidiwr yn cael eu gwisgo gan y reidiwr sy'n ail yn y gystadlauaeth eilradd hwnnw (neu'r trydydd, pedwerydd reidiwr ayb. fel bo'r angen).
- Yng nghymal 1, gwisgodd David Millar y crys gwyrdd.
- Yng nghymal 8, gwisgodd Rolf Aldag y crys dot polca.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Ffrangeg) Jacques Augendre (2009). Guide Historique (PDF). Amaury Sport Organisation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Hydref 2009. Adalwyd ar 30 Medi 2009.
- ↑ (Saesneg) Maillot jaune Lance Armstrong speaks, July 24, 2004. Cycling News (24 Gorffennaf 2004). Adalwyd ar 12 Awst 2009.
- ↑ Samuel Abt. "Effects of a Crash Landing Are Still Hampering Beloki", 30 Mai 2004.
- ↑ (Saesneg) Chris Henry (17 Tachwedd 2003). Change and challenge for Joseba Beloki. Cycling News. Adalwyd ar 23 Awst 2011.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gwefan swyddogol Tour de France (ar gael yn Ffrangeg, Saesneg, Almaeneg neu Sbaeneg)
1915-1918 Gohirwyd oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
1919 · 1920 · 1921 · 1922 · 1923 · 1924 · 1925 · 1926 · 1927 · 1928 · 1929 ·
1930 · 1931 · 1932 · 1933 · 1934 · 1935 · 1936 · 1937 · 1938 · 1939
1940-1946 Gohirwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1947 · 1948 · 1949 · 1950 · 1951 · 1952 · 1953 · 1954 · 1955 · 1956 · 1957 · 1958 · 1959 · 1960 · 1961 · 1962 · 1963 · 1964 · 1965 · 1966 · 1967 · 1968 · 1969 · 1970 · 1971 · 1972 · 1973 · 1974 · 1975 · 1976 · 1977 · 1978 · 1979 · 1980 · 1981 · 1982 · 1983 · 1984 · 1985 · 1986 · 1987 · 1988 · 1989 · 1990 · 1991 · 1992 · 1993 · 1994 · 1995 · 1996 · 1997 · 1998 · 1999 · 2000 · 2001 · 2002 · 2003 · 2004 · 2005 · 2006 · 2007 · 2008 · 2009 · 2010 · 2011 · 2012 · 2013 · 2014 · 2015
Crys Melyn |
Crys Gwyrdd |
Crys Dot Polca |
Crys Gwyn |
Gwobr Brwydrol