Troyes
![]() | |
Math | cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 62,597 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | François Baroin ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | canton of Troyes-6, canton of Troyes-7, County of Champagne, arrondissement of Troyes, County of Troyes, Aube ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 13.2 km² ![]() |
Uwch y môr | 118 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Seine ![]() |
Yn ffinio gyda | La Chapelle-Saint-Luc, Lavau, Les Noës-près-Troyes, Pont-Sainte-Marie, Rosières-près-Troyes, Saint-André-les-Vergers, Saint-Julien-les-Villas, Saint-Parres-aux-Tertres, Sainte-Savine ![]() |
Cyfesurynnau | 48.2989°N 4.0781°E ![]() |
Cod post | 10000 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Troyes ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | François Baroin ![]() |
![]() | |
Tref a chymuned yn nwyrain Ffrainc yw Troyes. Hi yw prifddinas département Aube. Saif ar afon Seine, ac roedd y boblogaeth yn 1999 yn 60,958.
Yma yr arwyddwyd Cytundeb Troyes yn 1420, penllanw llwyddiant Lloegr yn y Rhyfel Can Mlynedd. Dan y cytundeb yna, daeth Harri V, Brenin Lloegr yn etifedd coron Ffrainc yn lle'r Dauphin. Yn nes ymlaen, fodd bynnag, coronwyd y Dauphin yn frenin Ffrainc fel Siarl VII, gyda chymorth Jeanne d'Arc, a llwyddodd i ad-ennill y deyrnas.
Bu'r awdur Chrétien de Troyes yn byw yma, ac fe allai fod yn enedigol o Troyes.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]
- Eglwys Gadeiriol Saint-Pierre-et-Saint-Paul
- Hôtel de Ville
Enwogion[golygu | golygu cod]
- François Girardon (1628-1715), cerflunydd
- Édouard Herriot (1872-1957), gwleidydd