Narbonne
| Math | cymuned |
|---|---|
| Poblogaeth | 57,587 |
| Pennaeth llywodraeth | Jacques Bascou |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | arrondissement of Narbonne, canton of Narbonne-Est, canton of Narbonne-Ouest, canton of Narbonne-Sud, Le Grand Narbonne, Aude |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 172.96 km² |
| Uwch y môr | 285 ±1 metr, 0 metr, 52 metr |
| Gerllaw | Afon Aude |
| Yn ffinio gyda | Armissan, Bages, Bizanet, Coursan, Cuxac-d'Aude, Fleury, Gruissan, Marcorignan, Montredon-des-Corbières, Moussan, Névian, Port-la-Nouvelle, Peyriac-de-Mer, Saint-André-de-Roquelongue, Vinassan |
| Cyfesurynnau | 43.1847°N 3.0036°E |
| Cod post | 11100 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Narbonne |
| Pennaeth y Llywodraeth | Jacques Bascou |
![]() | |

Dinas yn ne-orllewin Ffrainc yw Narbonne (Catalaneg ac Occitaneg: Narbona). Saif yn département Aude yn région Ocsitania. Ar un adeg roedd yn bothladd prysur, ond erbyn hyn mae tua 15 km o'r môr.
Sefydlwyd y ddinas fel trefedigaeth Rufeinig Colonia Narbo Martius yn 118 CC, ar y Via Domitia, y ffordd Rufeinig gyntaf yng Ngâl. Yn ddiweddarach, sefydlodd Iŵl Cesar gyn-filwyr o'i leng Legio X Gemina yno. Rhoddodd y ddinas ei henw i dalaith Rufeinig Gallia Narbonensis.
Dan y Fisigothiaid bu'n brifddinas talaith Septimania, yna am gyfnod yn rhan o Emirat Cordoba nes iddi gael ei chipio gan y Ffranciaid dan Pepin Fychan yn 759. Yn ddiweddarach daeth y ddinas yn llai pwysig, yn rhannol oherydd i Afon Aude newid ei chwrs. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 46,510.
Adeiladau
[golygu | golygu cod]- Eglwys gadeiriol St-Just
- Halles de Narbonne
- Horreum
- Palais des Archevêques (Palas Archesgob)
- Via Domitia
