Crys Gwyn

Oddi ar Wicipedia
Crys Gwyn
Mathdistinctive jersey worn by the leader of the young rider classification Edit this on Wikidata
Lliw/iaugwyn Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Crys Gwyn

Y Crys Gwyn (Ffrangeg: maillot blanc, Eidaleg: maglia bianca) yw'r crys a wisgir gan y reidiwr ifanc sydd â'r safle uchaf mewn dosbarthiad cyffredinol sawl ras seiclo. Mae'n galluogi'r reidiwr sy'n arwain y dosbarthiad mewn ras sawl cymal i gael ei adnabod yn hawdd yng nghanol y grŵp. Diffinnir reidiwr ifanc mewn rasys proffesiynol gan amlaf fel rhywun o dan 26 mlwydd oed.

Mae rasys sy'n gwobrwyo'r crys gwyn yn cynnwys:

Crysau gwyn eraill[golygu | golygu cod]

Mae rhai rasys yn gwobrwyo'r crys gwyn am resymau gwahanol i'r arfer. Yr enwocaf yw'r Vuelta a España, lle adnabyddir y reidiwr grau yn y dosbarthiad cyfunedig, sef cyfuniad o'r pwyntiau a enillir yn y dosbarthiad cyffredinol, pwyntiau a mynyddoedd. Y reidiwr gyda'r cyfanswm lleiaf sy'n ennill y crys. Mae'n grys gymharol newydd, wedi iddi gael ei chyflwyno yn 2003.[1] Yn Vuelta a España 1941, rhoddwyd crys gwyn i arweinydd y dosbarthiad cyffredinol.[2]

Gwobrwyir crys gwyn yn y Vuelta al País Vasco i arweinydd y dosbarthiad pwyntiau.[3] Rhoddir crys gwyn gyda streipiau gwyrdd yn y Volta a Catalunya ar gyfer y dosbarthiad cyffredinol.[4] Rhoddir crys gwyn y Tour de Suisse ar gyfer y dosbarthiad sbrint,[5] sy'n wahanol i'r dosbarthiadau pwyntiau cyffredin gan y gwobrwyir pwyntiau am sbrintiau yng nghanol cymalau yn unig, ac nid ar ddiwedd cymal.

Mae'r Tour Down Under yn gwobrwyo crys gwyn gyda peipio gwyrdd ar gyfer Brenin y Mynyddoedd.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.cyclingpost.com/protour/races/vueltah.shtml
  2. http://www.cyclingrevealed.com/timeline/Race%20Snippets/VaE/VaE1941.htm
  3. http://autobus.cyclingnews.com/photos/2009/apr09/paisvasco09/index.php?id=/photos/2009/apr09/paisvasco09/paisvasco094/luisleonpodium
  4. http://www.bike-zone.com/photos/2006/may06/catalunya06/?id=catalunya067/Par765387[dolen marw]
  5. http://www.bike-zone.com/photos/2008/jun08/suisse08/index.php?id=/photos/2008/jun08/suisse08/suisse088/TDS08St8098[dolen marw]
  6. "Jersey Description". Tour Down Under. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-12. Cyrchwyd 2009-07-28.