Tour de France

Oddi ar Wicipedia
Tour de France
Enghraifft o'r canlynolGrand Tours Edit this on Wikidata
Math2.PT, 2.UWT Edit this on Wikidata
Rhan oUCI World Tour Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1903 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.letour.fr/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tour de France
Enw Lleol Le Tour de France
Ardal Ffrainc a gwledydd cyfagos
Dyddiad 30 Mehefin i 22 Gorffennaf (2012)
Math Ras Gamau (Taith Mawr)
Cyfarwyddwr Cyffredinol Christian Prudhomme
Hanes
Y ras gyntaf 1903
Nifer o rasus 99 (2012)
Enillydd cyntaf Maurice Garin
Enillydd y nifer fwyaf o weithiau Lance Armstrong (7) 1999-2005
Enillydd diweddaraf Bradley Wiggins 2012
Enillydd y nifer fwyaf o Grysau Melyn Eddy Merckx (96) (111 overall incl. half stages)
Enillydd y nifer fwyaf o Gamau Eddy Merckx (34)

Ras seiclo mwyaf poblogaidd y byd yw Le Tour de France ("Taith Ffrainc"). Mae'n ras ffordd 22 diwrnod, 20 cymal sydd fel arfer yn cael ei rhedeg dros lwybr o 3000 km. Mae'n mynd o amgylch y rhan fwyaf o Ffrainc, a weithiau, drwy wledydd cyfagos. Torrir y daith yn sawl cymal rhwng yr un dref a'r llall; mae pob cymal yn ras wahanol. Mae'r amser mae pob beiciwr yn ei gymryd i gyflawni pob cymal yn cael ei ychwanegu i wneud cyfanswm cronnus i benderfynu enillydd terfynol y Tour.

Ynghyd â'r Giro d'Italia (Taith yr Eidal) a Vuelta a España (Taith Sbaen), y Tour de France ydy un o dair brif ras cam, a'r hwyaf yng nghalendr yr Union Cycliste Internationale (UCI). Tra bod y ddwy ras arall yn weddol gyfarwydd yn Ewrop, maent yn gymharol ddi-sôn y tu allan i'r cyfandir, adnabyddir Pencampwriaethau Byd yr UCI i ddilynwyr seiclo. Mewn cyferbyniad, mae'r Tour de France wedi bod yn enw mawr ar yr aelwyd ar draws y byd, hyd yn oed i'r rhai sydd ddim fel arfer â diddordeb mewn seiclo.

Fel yn y rhan fwyaf o rasys seiclo, mae cystadleuwyr yn y Tour de France yn cymryd rhan fel aelod o dîm. Mae rhwng 20 a 22 o dimau a 9 reidiwr ym mhob un. Yn draddodiadol, ar wahoddiad yn unig y caiff y timau gystadlu, a gwahoddir timau proffesiynol gorau'r byd. Adnabyddir pob tîm gan enw ei gefnogwr ariannol, ac mae gan y beicwyr git nodedig. Mae'r beiciwr o fewn tîm yn helpu'r beiciwr penodedig gorau ac mae gan bob tîm 'gar tîm', sy'n dilyn y ras (fersiwn symudol o griwiau pit mewn rasio ceir).

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y Tour fel digwyddiad cyhoeddusrwydd ar gyfer papur newydd L'Auto (rhagflaenydd papur newydd L'Équipe heddiw) gan ei olygydd, Henri Desgrange, i fynd gam ymhellach na ras Paris-Brest et retour (a noddwyd gan L'Auto hefyd).[1] Daeth y syniad o ras daith o amgylch Ffrainc gan brif ohebydd newyddion seiclo Desgrange, y dyn 26 oed, Géo Lefèvre[2]. Cafodd Desgrange ginio â Lefèvre mewn bwyty (heddiw 'TGI Friday') ym Montmartre, Paris, ar 20 Tachwedd 1902[2]. Datganodd L'Auto y ras ar 19 Ionawr 1903. Y cynllun oedd i drefnu taith pum wythnos o 31 Mai hyd 5 Gorffennaf; ond profodd hyn i fod yn rhy beichus. Gan na chafwyd ond 15 o ymgeiswyr, cwtogodd Desgrange ar hyd y ras felly i 19 diwrnod, gan newid y dyddiadau fel y byddai'r ras yn rhedeg o 1 hyd 19 Gorffennaf a chynnig dogn dyddiol. Denodd y cynllun newydd 60 o ymgeiswyr, gan gynnwys amaturiaid, rhai yn ddi-swydd, ac eraill ond yn fentrus. Y cymeriadau hyn a ddaliodd ddychymyg y cyhoedd[2]. Roedd natur galed y ras (gyda hyd cymhedrol pob 6 cam yn 400 km, disgwylwyd y reidwyr i seiclo drwy ddechrau'r nos weithiau[3], a phrofodd i fod yn boblogaidd. Roedd llwyddiant y ras gymaint fel y cynyddodd cylchrediad y papur, oedd tua 25,000 cyn Tour 1903, i 65,000 ar ôl y ras[2]. Erbyn 1908, roedd y ras wedi hybu'r papur at gylchrediad o dros chwarter miliwn, ac yn ystod Tour 1923, roedd yn gwerthu 500,000 copi y diwrnod. Honodd Desgrange mai 854,000 oedd record uchaf y cylchrediad, lefel a gyrhaeddwyd yn ystod Tour 1933[4] Erbyn heddiw, trefnir y ras gan y Société du Tour de France, rhan atodol o Amaury Sport Organisation (ASO), sydd yn ei dro yn ran o gwmni cyfryngau L'Équipe.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cyfarwyddwyr y ras[golygu | golygu cod]

Camau enwog[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gwobr ariannol[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Crysau dosbarthol[golygu | golygu cod]

Prif amcan y reidwyr yw i ennill dosbarthiad cyffredinol y ras, ond mae tri cystadleuaeth ychwanegol o fewn y ras: y gystadleuaeth bwytiau, mynyddoedd a'r wobr ar gyfer y reidiwr ifanc gorau. Mae arweinydd pob cystadleuaeth yn gwisgo crys gwahanol. Pan fydd un reidiwr yn arwain mwy nag un cystadleuaeth mae'n derbyn pob crys ar ddiwedd y cymal, ond dim ond un crys gaiff ei wisgo y diwrnod canlynol. Mae'n gwisgo crys y gystadleuaeth pwysicaf (yn y drefn yma - melyn, gwyrdd, dot polca, gwyn).[5] Mae'r crysau eraill a ddeilir gan y reidiwr yn cael eu gwisgo gan y reidiwr sy'n ail yn y gystadlauaeth eilradd hwnnw (neu'r trydydd, pedwerydd reidiwr ayb. fel bo'r angen). Mae lliwiau crysau'r Tour wedi cael eu mabwysiadu gan rasys eraill ac â ystyr cyffredinol o fewn y byd seiclo. Er enghraifft, mae gan y Tour of Britain grysau melyn, gwyrdd, a dot polca gyda'r un ystyr a rhai'r Tour. Mae'r Giro d'Italia yn un o'r ychydig sydd yn wahanol, gan y trefnir gan y La Gazzetta dello Sport, a gaiff ei argraffu ar bapur pinc.

Yr Arweiniwr[golygu | golygu cod]

Enillydd saith gwaith, Lance Armstrong yn y maillot jaune.

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Dosbarthiad pwyntiau yn y gystadleuaeth[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd: Dosbarthiad pwyntiau.

Gwobrwyir y maillot vert (crys gwyrdd) ar gyfer pwytiau sbrint. Ac ar ddiwedd pob cam, bydd pob beiciwr sy'n gorffen yn gyntaf, yn ail, ayyb yn ennill pwyntiau. Gwobrwyir pwyntiau uwch ar gyfer camau gwastad, gan fod sbrintiau'n fwy debygol, a llai ar gyfer camau'r mynyddoedd lle mae dringwyr yn debygol o ennill.

Camau gwastad: Rhoddir 35, 30, 26, 24, 22, 20, 19, 18, 17, 16, 15, 14, 13, 12, 11, 10, 9, 8, 7, 6, 5, 4, 3, 2 ac 1 o bwyntiau i'r 25 reidiwr cyntaf i orffen.

Camau mynyddoedd canolig: Rhoddir25, 22, 20, 18, 16, 15, 14, 13, 12, 11, 10, 9, 8, 7, 6, 5, 4, 3, 2 ac 1 o bwyntiau i'r 20 reidiwr cyntaf i orffen.

Camau mynyddoedd uchel: Rhoddir 20, 17, 15, 13, 12, 10, 9, 8, 7, 6, 5, 4, 3, 2 ac 1 o bwyntiau i'r 15 reidiwr cyntaf i orffen.

Time-trial: Rhoddir 15, 12, 10, 8, 6, 5, 4, 3, 2 ac 1 o bwyntiau i'r 10 reidiwr cyflymaf yn y cam.

Sprintiau canolraddol: Rhoddir 6, 4, a 2 o bwyntiau i'r 3 reidiwr cyntaf i orffen.

Os yw nifer o feicwyr yn gyfartal o ran nifer o bwyntiau yn y safle cyntaf, mae'r nifer o fuddugoliaethau cam yn penderfynu enillyd y Grys Gwyrdd, ac yna nifer o fuddugoliaethau yn y sbrintiau canolraddol os yw'r beicwyr yn dal yn gyfartal, wedyn safle'r reidiwr yn y dosbarth cyffredinol.

Brenin y Mynyddoedd[golygu | golygu cod]

Michael Rasmussen yn gwisgo'r crys dot polca yn 2005.

Mae "Brenin y Mynyddoedd" yn gwisgo crys gwyn gyda smotiau coch (maillot à pois rouges), a gyfeirir ati fel y "crys dot polka" a ysbrydolwyd gan grys a welodd y cyn-drefnwr, Félix Lévitan, tra yn nhrac Vélodrome d'Hiver, Paris yn ei ieuenctid. Penderfynnir y gystadleuaeth gan bwyntiau a wobrwyir i'r reidwyr cyntaf i gyrraedd copa elltydd a mynyddoedd penodedig, gyda'r nifer mwyaf o bwyntiau ar gael ar y dringiadau caletaf.

Dringiadau yn y "Hors Catégorie" (HC): 20, 18, 16, 14, 12, 10, 8, 7, 6 and 5 points for the first 10 riders to the summit.

Dringiadau Categori 1: Rhoddir 15, 13, 11, 9, 8, 7, 6 ac 5 o bwyntiau ar gyfer y 8 reidiwr cyntaf i'r copa.

Dringiadau Categori 2: Rhoddir 10, 9, 8, 7, 6, ac 5 o bwyntiau ar gyfer y 6 reidiwr cyntaf i'r copa.

Dringiadau Categori 3: Rhoddir 4, 3, 2 ac 1 o bwyntiau ar gyfer y 4 reidiwr cyntaf i'r copa.

Dringiadau Categori 4: Rhoddir 3, 2 ac 1 o bwyntiau ar gyfer y 3 reidiwr cyntaf i'r copa.

NODYN: Ar gyfer dringiad olaf cam, bydd y pwyntiau'n cael eu dwblu (ar gyfer dringiadau HC, Cat 1 a Cat 2 yn unig).

Os bydd cwlwm rhwng nifer o bwyntiau'r safle gyntaf, bydd y nifer o fuddugoliaethau ar ddringiadau HC yn penderfynu enillydd y Grys Dot Polca, ac yna nifer buddugoliaethau dringiadau Categori 1 os oes dal cwlwm ac yna Categori 2, ayb. ...

Er i'r gystadleuaeth gael ei chyflwyno yn 1933, ni chyflwynwyd y grys tan 1975.

Reidiwr ifanc gorau[golygu | golygu cod]

Andy Schleck yn gwisgo'r crys gwyn yn 2009

Rhwng 1975 a 1989, ac ers 2000, bu cystadleuaeth ar gyfer y reidiwr ifanc gorau. Caiff y reidiwr o dan 26 oed sydd â'r safle gorau yn y dosbarthiad cyffredinol wisgo crys gwyn (maillot blanc).

Ers cyflwyniad y crys ym 1975, mae wedi cael ei gwisgo gan 29 o wahanol reidwyr. Enillodd chwech ohonynt y dosbarthiad cyffredinol ar rhyw adeg (Fignon, LeMond, Pantani, Ullrich, Contador ac A. Schleck). Dim ond pedwar gwaith mae'r reidiwr ifanc gorau hefyd wedi ennill y dosbarthiad cyffredinol yr un flwyddyn, sef Fignon ym 1983, Ullrich ym 1997, Contador yn 2007 ac A. Schleck yn 2010.

Mae dau reidiwr wedi ennill y gystadleuaeth tair gwaith:

Dosbarthiadau eraill[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Crysau hanesyddol[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cymalau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd: Cymal (ras seiclo).

Cymalau "Mass-start"[golygu | golygu cod]

Peloton yn Tour 2005.

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Treial amser unigol[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd: Treial amser unigol.
Lance Armstrong yn reidio prologue Tour 2004.

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Treial amser tîm[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd: Treial amser tîm.
Team CSC yn TTT 2004.

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Diwylliant[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Arferiadau[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Terminoleg[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd: [[Terminoleg seiclo]].

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod]

Yn 1983, rhyddhaodd y grŵp Almaeneg, Kraftwerk, sengl o'r enw Tour de France, a ddisgrifiwyd fel "melding of man and machine" minimalaidd.[6] Yn ddiweddarach rhyddhawyd y sengl ar record Kraftwerk yn ymroddedig i'r ras, sef albwm Tour de France Soundtracks, 2003.

Defnydd Cyffuriau[golygu | golygu cod]

Marwolaethau[golygu | golygu cod]

Heblaw marwolaethau reidwyr, mae pump damwain marwol arall wedi digwydd.

  • 1957: 14 Gorffennaf, Llithrodd reidiwr motobeic Rene Wagter a'i ymdeithiwr, Alex Virot, gohebydd ar gyfer Radio-Luxembourg, ar rô ac aethont i ffwrdd o'r ffordd lle nad oedd atalfa yn y mynyddoedd ger road without Aix-les-Thermes.
  • 1958: Bu farw swyddog, Constant Wouters, ar ôl damwain gyda sbrintiwr André Darrigade yn ystod cam terfynol y daith yn Parc des Princes.[8]
  • 2000: Bu farw bachgen 12 oed o Ginasservis, Phillippe, pan darwyd ef gan gar yng ngharafan cyhoeddusrwydd y Tour de France.[9]
  • 2002: Bu farw bachgen 7 oed, Melvin Pompele, ger Retjons ar ôl rhedeg o flaen y carafan.[9]
  • 2009: 18 Gorffennaf, Cymal 14: Bu farw gwyliwr a oedd yn ei 60au, weid iddi gael ei tharo gan feic modur yr heddlu wrth iddi groesi'r ffordd ger Wittelsheim.

Ystadegau[golygu | golygu cod]

Y record o weithiau mae un reidiwr wedi ennill y Tour yw 7:

  • Lance Armstrong (Yr Unol Daliaithau) yn 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004, a 2005 (7 gwaith yn ganlynol).

Reidwyr eraill a enillod y Tour 5 gwaith:

  • Jacques Anquetil (Ffrainc) yn 1957, 1961, 1962, 1963 a 1964;
  • Eddy Merckx (Gwlad Belg) yn 1969, 1970, 1971, 1972 a 1974;
  • Bernard Hinault (Ffrainc) yn 1978, 1979, 1981, 1982 a 1985;
  • Miguel Indurain (Sbaen) yn 1991, 1992, 1993, 1994 a 1995 (y cyntaf i wneud hyn mewn pum mlynedd canlynol).

Reidwyr eraill a enillod y Tour 3 gwaith:

Yr enilydd ieuengaf oedd Henri Cornet, yn 19 oed yn 1904. Y nesaf oedd Romain Maes yn 21 oed yn 1935.

Yr enillydd hynaf oedd Firmin Lambot, yn 36 oed yn 1922. Y hynaf nesaf oedd Henri Pelissier (1923), Gino Bartali (1948) a Cadel Evans (2011), roedd y ddau yn 34 oed.

Mae Gino Bartali yn dal y record am yr amser hiraf rhwng buddugoliaethau yn y Tour, gan ennill ei fuddugoliaeth cyntaf ac olaf yn y Tour 10 mlynedd arwahan (yn 1938 a 1948).

Reidwyr o Ffrainc sydd wedi ennill y nifer fwyaf o'r Tour (36), gyda Gwlad Belg yn dilyn (18), Sbaen (11), yr Unol Dalieithau (10), yr Eidal (9), Luxembourg (5), ac yna'r Swistir a'r Iseldiroedd (2 yr un) ac Iwerddon, Denmarc, Almaen a'r Awstralia (1 yr un).

Mae un reidiwr wedi ennill y gystadleuaeth bwyntiau, nifer record, 6 o weithiau:

  • Erik Zabel (Yr Almaen) 1996, 1997, 1998, 1999, 2000 a 2001 (6 mlynedd canlynol)

Mae un reidiwr wedi ennill cystadleuaeth "Brenin y Mynyddoedd", nifer record, 7 o weithiau:

Mae un reidiwr wedi ennill cystadleuaeth "Brenin y Mynyddoedd" 6 gwaith:

Mae un reidiwr wedi ennill cystadleuaeth "Brenin y Mynyddoedd", y gystadleuaeth bwyntiau a'r Tour ei hun i gyd yn yr un flwyddyn:

  • Eddy Merckx (Gwlad Belg) yn 1969. Mi fuasai Merckx wedi ennill gwobr maillot blanc y reidiwr gorau ifanc os fuasai'r gystadleuaeth wedi gael ei rhedeg y flwyddyn honno; ni ddechreuwyd y gystadleuaeth honno tan 1975.

Deilydd record y nifer fwyaf o weithiau i reidio'r Tour ydy Joop Zoetemelk, gyda 16 ymddangosiad a heb rhoi i fyny unwaith. Mae tri reidiwr, (Lucien Van Impe, Guy Nulens a Viatcheslav Ekimov) wedi gwneud 15 ymddangosiad; gorffennodd Van Impe a Ekimov y Tour yn ystod pob un o'r 15 ymddangosiad, gorffennodd Nulens 13 gwaith a rhoddodd i fynnu ddwywaith.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geoffrey Wheatcroft Le Tour: a history of the Tour de France, 1903-2003 Pocket Books, 2003, Lludain, tudalen 13, ISBN 0-7434-4992-4
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Les Woodland The Yellow Jersey Companion to the Tour de France Yellow Jersey Press, 2003, llundain
  3. BBC History of the Tour de France: 1903-1914: Pioneers and 'assassins' BBC
  4. Torelli's History of the Tour de France: the 1930s neu, All They Wanted To Do Was to Sell a Few More Newspapers BikeRaceInfo.com
  5. (Saesneg) Tour de France 2009 Regulations. LeTour.fr.
  6. Kraftwerk, Tour De France Soundtracks Chris Jones, BBC 4 Awst 2003
  7. Tour tragedy 10 years on Matt Majendie BBC
  8. Les Woodland The Yellow Jersey Companion to the Tour de France Yellow Jersey Press, 2003, Llundain, tudalen 105
  9. 9.0 9.1 Les Woodland The Yellow Jersey Companion to the Tour de France Yellow Jersey Press, 2003, Llundain, tudalen 80

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]