Neidio i'r cynnwys

Taith Prydain i Ddynion

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Tour of Britain)
Taith Prydain i Ddynion
Enghraifft o:ras gymal Edit this on Wikidata
Math2.Pro Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2004 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysTour of Britain 2004, Tour of Britain 2005, Tour of Britain 2006, Tour of Britain 2007, Tour of Britain 2008, 2009 Tour of Britain, 2010 Tour of Britain, 2011 Tour of Britain, 2012 Tour of Britain, 2013 Tour of Britain, 2014 Tour of Britain, 2015 Tour of Britain, 2016 Tour of Britain, 2017 Tour of Britain, 2018 Tour of Britain, 2019 Tour of Britain, 2021 Tour of Britain, 2022 Tour of Britain, 2023 Tour of Britain, Tour of Britain 2024, 2025 Tour of Britain, 2026 Tour of Britain Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.britishcycling.org.uk/tourofbritain Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/041wzk edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Taith Prydain i Ddynion (Saesneg: Tour of Britain Men) neu Taith Prydain yw'r enw a roddir i ras seiclo ffordd i ddynion a gynhelir dros sawl cymal ar daith ar draws Prydain Fawr. Mae'r fersiwn diweddaraf o'r ras ers 2004 yn ras gymal broffesiynol, ond mae hanes y ras yn mynd yn ôl i 1951 dan sawl enw gwahanol.

Daeth Taith Prydain yn rhan o'r UCI Europe Tour yn 2004. Ers 2020 mae'n rhan o'r UCI ProSeries.

Mae'r ras yn ymweld â Chymru'n aml.[1][2][3] Stevie Williams yw'r unig Gymro i ennill Taith Prydain,[4] er bod Geraint Thomas wedi dod yn agos at y brig gan ennill dosbarthiad y pwyntiau yn 2011.[5]

Gan nodi cyfraniad pob noddwr ariannol, mae'r ras wedi newid ei henw sawl gwaith ar hyd y blynyddoedd:

Daily Express Tour of Britain (1951-1955)

Enillodd yr Albanwr Ian Steel ras 1951. Seiclwr arall i rasio y flwyddyn honno oedd Jimmy Savile, a ddaeth yn DJ enwog a phersonoliaeth teledu yn ddiweddarach. Trefnwyd ras 1955 gan y British League of Racing Cyclists.

Milk Race (1958-1993)

Yn anterth ei phoblogrwydd, roedd y ras hwn yn gymharol mewn statws i'r Peace Race, ac roedd timau rhyngwladol yn cystadlu ynddi. O tua 1983 ymlaen, roedd y ras hefyd yn agored i dimau proffesiynol. Cefnogodd y Bwrdd Marchnata Llefrith y Scottish Milk Race hefyd, taith lai yn yr Alban.

Kellogg's Tour (1987-1994) a'r PruTour (1998-1999)

Rhai o'r enillwyr: Malcolm Elliot (1988), Robert Millar (1989), Phil Anderson (1991, 1993), Max Sciandri (1992) ac yn ei flwyddyn olaf, Maurizio Fondriest.

O 1998-1999 cefnogwyd y ras yn ariannol gan Prudential plc. Enillodd Stuart O'Grady (Crédit Agricole) yn 1998; a Marc Wauters (Rabobank) yn 1999. Perodd pryderon am ddiogelwch i'r noddwyr droi eu cefnau ar y ddau Tour yma, gan ddirwyn y gyfres i ben tan 2004. Yn y Kellog's Tour gyrrodd modurwr i mewn i'r peloton,[6] ac fe laddwyd heddwas ar y PruTour mewn gwrthdariad rhwng ei feic modur â char.[7]

Y ras gyfoes

[golygu | golygu cod]
Cymal 3 o ras 2005 yn mynd drwy Honley, ger Huddersfield

Tour of Britain 2004

[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd y ras gyntaf o'r fersiwn diweddaraf o'r Tour of Britain dros bum diwrnod yn nechrau mis Medi 2004. Trefnwyd hi gan SweetSpot ynghyd â British Cycling. Cefnogwyd y ras gan drefnwyr Cais Llundain ar gyfer Gemau Olympaidd 2012. Hysbyswyd yn eang iawn, a chafodd timau adnabyddus megis T-Mobile (Yr Almaen) a U.S. Postal Service (Unol Daleithiau America) eu denu i gymryd rhan. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod y ras yng nghategori 2.3 ar galendar rasio'r Union Cycliste Internationale (UCI).

Gorffenodd taith 2004 gyda criterium 45 milltir (72 km) yn Llundain, gwyliodd degoed o filoedd o bobl brêc hir gan y Llundeiniwr Bradley Wiggins, tan y lap cyn yr un olaf, a chymerodd Enrico Degano o dîm Barloworld y sbrint ar y linell. Enillodd y Colombiwr Mauricio Ardila, o dîm Chocolade Jacques, y Tour.

Tour of Britain 2005

[golygu | golygu cod]

Rhedwyd Tour of Britain 2005 fel ras UCI categori 2.1 dros 6 cymal, gan ddechrau yn Glasgow ar 30 Awst a gorffen yn Llundain ar 4 Medi. Enillwyd y dosbarthiad cyffredinol gan y seiclwr Belgaidd Nick Nuyens. Cipiodd yr Eidalwr Luca Paolini y grys werdd ar gyfer y gystadleuaeth bwyntiau.

Tour of Britain 2006

[golygu | golygu cod]
Roger Hammond yn Tour of Britain 2006 yn Llundain

Cynhaliwyd Tour of Britain 2006 o 29 Awst hyd 3 Medi fel ras UCI categori 2.1. Enillodd Martin Pedersen y ras a chymerodd Andy Schleck o Dîm CSC gystadleuaeth brenin y mynyddoedd. Enillodd Mark Cavendish (T-Mobile) y gystadleuaeth bwyntiau a cymerodd Johan Van Summeren (Davitamon-Lotto) y gystadleuaeth sbrint.

Tour of Britain 2007

[golygu | golygu cod]

Ymestynwyd y ras i saith diwrnod ar gyfer 2007, defnyddiwyd y seithfed diwrnod ar gyfer cymal yn Ngwlad yr Haf am y tro cyntaf.

Yn lle gorffen yn Llundain, dechreuodd ras 2007 yno a gorffenodd yn Glasgow, a ddefnyddiodd y digwyddiad fel hwb iw cais ar gyfer lleoliad Gemau'r Gymanwlad yn 2014.

Enillodd Romain Feillu y Tour, a cipiodd Mark Cavendish y gystadleuaeth bwyntiau a Ben Swift gystadleuaeth brenin y mynyddoedd.

Tour of Britain 2008

[golygu | golygu cod]

Cynyddodd y ras i wyth diwrnod ra gyfer 2008, gyda wyth cymal. Cynhaliwyd o 7 hyd 14 Medi, gan gychwyn yn Llundain a gorffen yn Lerpwl.[8]

Tour of Britain 2009

[golygu | golygu cod]

Roedd y chweched rhifyn o'r Tour of Britain hefyd yn wyth diwrnod o hyd, o 12–19 Medi. Cychwynodd y ras yn Scunthorpe a gorffennodd yn Llundain. Yn 2009, daeth yr Elusen Cancr Prostad yn Bartner Elusennol Swyddogol ar gyfer y ras.[9]

Tour of Britain 2010

[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd ras 2010 o 11–18 Medi.

Tour of Britain 2011

[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd ras 2011 o 11–18 Medi. Roedd 8 cymal i fod, ond gorfodwyd diddymu ail gymal y ras oherwydd ffrynt o dywydd gwael a groesodd y Môr Iwerydd yn dilyn Corwynt Irene.

Tour of Britain 2012

[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd ras 2011 o 9–16 Medi.[10] Enillwyd y ras n wreiddiol gan Jonathan Tiernan-Locke, y reidiwr cyntaf o Brydain i'w ennill ers ei ail-gyflwyniad yn 2004. Collodd Tiernan-Locke y teitl hwn yn 2014, pan gahodd ei wahardd hrag cytadlu am ddwy flynedd yn dilyn ymchwiliad i anghysondebau yn ei basbort biolegol.[11] Cafodd y fuddugoliaeth ei wobrwyo yn hytrach i Nathan Haas o Awstralia.[12]

Tour of Britain 2013

[golygu | golygu cod]

Dychwelodd y ras i Surrey ar gyfer y ddegfed rhifyn, a gynhaliwyd o 15–22 Medi,[13] ac enillwyd gan Syr Bradley Wiggins.[14]

Tour of Britain 2014

[golygu | golygu cod]

Roedd y rhifyn yma'n ran o'r 2014 UCI Europe Tour, a dynodwyd am y tro cyntaf gan yr UCI fel ras categori 2.HC.[15][16] Cynhaliwyd y ras 2011 rhwng 7 a 14 Medi. Cynhaliwyd ras gyfatebol ar gyfer merched am y tro cyntaf y flwyddyn hon, sef The Women's Tour, yn gynharach yn y tymor, 7–11 Mai 2014.

Tour of Britain 2015

[golygu | golygu cod]

Ar 6 Medi, daeth y ras i Ynys Môn am y tro cyntaf, gan deithio o Fiwmares i Wrecsam a gorffen yn Llundain ar 13 Medi.

Tour of Britain 2016

[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd y ras heb noddwr ar ôl i Aviva roi diwedd ar eu cefnogaeth. Dechreuodd y ras yn Glasgow ar 4 Medi ac fe'i henillwyd ar 11 Medi gan Steve Cummings o Loegr.[17] Dyma oedd ras broffesiynol olaf Bradley Wiggins, a orffennodd yn y 105ed safle tra'n cynrichioli tîm WIGGINS a enwyd ar ei ôl.[18]

Tour of Britain 2017

[golygu | golygu cod]

Cafwyd hyd i noddwr newydd sef OVO Energy. Enillwyd y ras gan Lars Boom o'r Iseldiroedd dros dîm LottoNL-Jumbo.[19] Am y tro cyntaf, darlledwyd pob cymal ar ITV4.[20]

Tour of Britain 2018

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd y ras ar 2 Medi ym Mharc Gwledig Pen-bre yng Nghymru,[1] ac yn addas iawn roedd y Cymro Geraint Thomas yn rasio wedi ei fuddugoliaeth yn y Tour de France yn gynharach yn y flwyddyn. Diweddodd y ras yn Llundain ar 9 Medi gyda Julian Alaphilippe yn fuddugol; ef oedd y Ffrancwr cyntaf i ennill y Tour of Britain ers 2008.[21]

Tour of Britain 2019

[golygu | golygu cod]

Enillwyd y ras gan yr Iseldirwr Mathieu van der Poel dros dîm Corendon-Circus. Bu brwydyr hir rhyngddo ef a Matteo Trentin (tîm Mitchelton-Scott), gyda Trentin yn dod yn ail ac yn fuddugol yn nosbarthiad y pwyntiau.[22]

Tour of Britain 2020

[golygu | golygu cod]

Canslwyd Tour of Britain 2020 ym mis Mai oherwydd pandemig COVID-19. Dylai fod wedi dechrau yng Nghernyw ar Fedi 6. Petai'r ras wedi mynd yn ei blaen, byddai wedi gwrthdaro gyda'r Tour de France am i hwnnw gael ei ohirio o Fehefin tan ddiwedd Awst yn sgil y pandemig.[23]

Tour of Britain 2021

[golygu | golygu cod]

Dilynodd y Tour y cwrs a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer 2020, gan ddechrau ym Mhennsans ar 5 Medi a gorffen yn Aberdeen ar 12 Medi. Cafwyd ras yn erbyn y cloc i dimau rhwng Llandeilo a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar 7 Medi, a ras o Aberaeron i'r Gogarth ar 8 Medi a enillwyd gan Wout van Aert (tîm Jumbo-Visma).[2][24] Y Belgiad hefyd oedd buddugwr cyffredinol y Tour.[25]

Tour of Britain 2022

[golygu | golygu cod]

Canslwyd tri chymal olaf y ras ar 9 Medi oherwydd marwolaeth Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig y diwrnod cynt. Gonzalo Serrano o dîm Movistar oedd ar flaen y dosbarthiad cyffredinol wedi'r cymal diweddaraf, felly fe'i ddyfarnwyd yn fuddugwr y Tour.[26]

Tour of Britain 2023

[golygu | golygu cod]

Dychwelodd y Tour i Gymru gyda chymal 4 yn Wrecsam a'r cymal olaf yn dringo Comin Caerffili a diweddu ger Castell Caerffili.[27] Enillodd Wout van Aert a thîm Jumbo-Visma am yr ail flwyddyn yn olynol.[28]

Tour of Britain 2024

[golygu | golygu cod]

Bu ffrae fawr rhwng British Cycling a'r prif noddwr SweetSpot. Aeth SweetSpot i'r wal yn gan adael tua £700,000 o ffioedd trwyddedi yn ddyledus.[29] Cymerodd British Cycling reolaeth dros y Tour of Britain a Tour y Menywod, gan eu hail-enwi yn Tour of Britain Men a Tour of Britain Women, ac fe gyfyngwyd ras y dynion o wyth i chwech diwrnod. Gwnaethpwyd cytundeb gyda Banc Lloyds i ariannu'r Tour am bum mlynedd.[30] Y Cymro Stephen "Stevie" Williams o Aberystwyth a enillodd y Tour of Britain yn 2024.[31]

Tour of Britain 2025

[golygu | golygu cod]
Cymal olaf 2025 yn cyrraedd Caerdydd

Dyma oedd ras broffesiynol olaf Geraint Thomas. Fe drefnwyd diweddglo yn ei dref enedigol, Caerdydd, ar y cymal olaf. Dyluniodd Geraint grysau arbennig i'w dîm Ineos Grenadiers oedd yn cynnwys draig goch a darluniau gan ei fab Macs.[32]

Dechreuodd y cymal olaf yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yng Nghasnewydd cyn pasio Felodrom Maendy lle cychwynodd Geraint ar ei yrfa.[3]

Romain Grégoire, y Ffrancwr o dîm Groupama–FDJ, oedd buddugwr y dosbarthiad cyffredinol.[33]

Tour of Britain 2026

[golygu | golygu cod]

Bydd Taith Prydain 2026 yn dechrau ar 2 Medi yn Lincoln ac yn gorffen yn Earlston ar 6 Medi.[34] Cyfyngwyd y ras eto o chwech i bum diwrnod gan ei wneud yn gyfartal â Thaith y Menywod.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "2018 OVO Energy Tour of Britain route announced". British Cycling (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-17.
  2. 1 2 Conti, British (2021-09-01). "2021 Tour of Britain route". The British Continental (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-17.
  3. 1 2 "Wales to host final two stages of the Lloyds Tour of Britain Men in September 2025". British Cycling (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-17.
  4. Mansfield, Mark (2024-09-08). "Wales' Stevie Williams wins Tour of Britain title". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-17.
  5. "Tour of Britain 2011 Stage 8b results". www.procyclingstats.com. Cyrchwyd 2026-07-17.
  6. "Cycling: Rogue driver stuns riders". The Independent (yn Saesneg). 1994-08-09. Cyrchwyd 2026-07-17.
  7. "Cycling: Death of police escort rider cancels Tour of Britain stage". The Independent (yn Saesneg). 1998-05-28. Cyrchwyd 2026-07-17.
  8.  The Route. The Tour of Britain (16 Mai 2008). Adalwyd ar 27 Gorffennaf 2008.
  9. "Tour Ride". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Medi 2011. Cyrchwyd 18 Medi 2011.
  10. "Tour of Britain 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-22. Cyrchwyd 2015-09-10.
  11. "Team Sky's Jonathan Tiernan-Locke gets two-year doping ban". BBC Sport. 17 Gorffennaf 2014.
  12. "Sir Bradley Wiggins to defend Tour of Britain title". BBC Sport. 2 September 2014. 2012 Nathan Haas (Aus) ... Britain's Jonathan Tiernan-Locke had title stripped for doping offence
  13. UCI Europe Tour calendar Archifwyd 2013-07-01 yn y Peiriant Wayback, adalwyd 25 Medi 2012
  14. Cycling Weekly 18 Medi 2012
  15. Cycling Weekly (31 Mawrth 2014). "Tour of Britain 2014 route revealed". Cycling Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 30 Ebrill 2014.
  16. "Tour of Britain upgraded to 2.HC status by UCI". Cyclingnews.com. Future plc. 4 Chwefror 2014. Cyrchwyd 2 Mai 2014.
  17. Bull, Nick (2016-09-11). "'I'm a simple guy who just wants to ride his bike'". Cycling Weekly (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-17.
  18. Glendenning, Barry (2016-12-29). "Bradley Wiggins announces retirement from professional cycling". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2026-07-17.
  19. "Tour of Britain Winners". tour-of-britain.com (yn Saesneg). 2016-07-22. Cyrchwyd 2026-07-17.
  20. Robinson, Joe (2017-08-23). "Tour of Britain to broadcast in full on ITV4". Cyclist (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-17.
  21. "Alaphilippe surprises himself with Tour of Britain victory | Cyclingnews.com". Cyclingnews (yn Saesneg). 2018-09-10. Cyrchwyd 2026-07-17.
  22. stage, Philippa York Dutchman takes photo finish on final (2019-09-14). "Tour of Britain: Van der Poel seals overall". Cyclingnews (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-17.
  23. September 2021, Cyclingnews Race to take place on same route in (2020-05-14). "2020 Tour of Britain cancelled due to COVID-19 pandemic". Cyclingnews (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-17.
  24. "Tour of Britain 2021: Van Aert wins at Great Orme to take back race lead". CyclingStage.com (yn Saesneg). 2021-09-05. Cyrchwyd 2026-07-17.
  25. "Tour of Britain". Cyclingnews (yn Saesneg). 2026-02-17. Cyrchwyd 2026-07-17.
  26. Frattini, Kirsten (2022-09-08). "Tour of Britain cancelled following the death of Queen Elizabeth II". Cyclingnews (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-17.
  27. "Preview: 2023 Tour of Britain". British Cycling (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-17.
  28. "Tour of Britain 2023 Stage 8 results". www.procyclingstats.com. Cyrchwyd 2026-07-17.
  29. Whittle, Jeremy (2023-11-07). "Future for Tour of Britain men's race in balance over dispute with promoter". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2026-07-17.
  30. Cary, Tom (2024-05-23). "Tour of Britain saved as British Cycling secure 'one of biggest deals in British sport'". The Telegraph (yn Saesneg). ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 2026-07-17.
  31. "Stephen Williams". www.procyclingstats.com. Cyrchwyd 2026-07-17.
  32. "Geraint Thomas yn troi at fyd ffasiwn cyn ei ras olaf". Golwg360. 2025-08-28. Cyrchwyd 2026-07-17.
  33. "Tour of Britain Men 2025 Stage 6 results". www.procyclingstats.com. Cyrchwyd 2026-07-17.
  34. "Stage routes go live for the 2026 Lloyds Tour of Britain Men". British Cycling (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-17.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]