Brenin y Mynyddoedd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Brenin y mynyddoedd)
Brenin y Mynyddoedd
Mathpoints classification Edit this on Wikidata

Teitl a roddir i'r dringwr gorau mewn ras seiclo ar y ffordd yw Brenin y Mynyddoedd; fel arfer Dosbarthiad y Mynyddoedd yw'r enw ar y gystadleuaeth hon yn swyddogol. Defnyddir term tebyg, Brenhines y Mynyddoedd mewn rasys seiclo merched.

Tra gall y teitl gael ei roi i'r reidiwr sy'n cyrraedd brig y mynydd gyntaf mewn rasys un dydd, defnyddir yn amlach mewn rasys sawl cymal, er enghraifft y Tour de France, Giro d'Italia, Vuelta a España neu'r Tour of California, lle mae pwyntiau yn cael eu casglu dros bob cymal.

Yn y Tour de France, ar gopa pob mynydd sylweddol, gwobrwyir pwyntiau i'r reidwyr sydd cyntaf dros y top. Caiff pob mynydd ei chategoreiddio, o 1 (yr anoddaf) i 4 (yr hawsaf) yn seiliedig ar ba mor serth a pha mor hir ydynt. Yn y Tour de France, mae pumed categori, Hors categorie (tu allan i gategori) yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mynyddoedd anodd iawn uwchben categori 1.

Eginyn erthygl sydd uchod am seiclo. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.