Union Cycliste Internationale

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Logo'r UCI

Undeb seiclo proffesiynol ydy'r Union Cycliste Internationale (UCI) (Cymraeg: Undeb Seiclwyr Rhyngwladol), sy'n gorychwylio rasus seiclo yn y gymdeithas ryngwladol. Hi yw corff llywodraethu'r byd ar gyfer for rheolaeth y chwaraeon seiclo. Mae pencadlys yr UCI yn Aigle, Y Swistir.

Mae'r UCI yn dosbarthu trwyddedi rasio i reidwyr ac yn cadarnhau bod rheolau disgyblaethol yn cael eu dilyn, megis defnydd cyffuriau. Mae'r UCI hefyd yn rheoli dosbarthu rasus a graddfa safle bwyntiau mewn sawl disgyblaeth o seiclo gan gynnwys including beicio mynydd, rasio seiclo ffordd a seiclo trac, ar gyfer dynion a merched, amatur a phroffesiynol. Mae hefyd yn gorychwylio Pencampwriaethau'r Byd – lle mae sawl gwlad yn cystadlu yn hytrach na thimau masnach – mewn amryw o ddosbarthiadau a chategoriau. Mae enillwyr y rasus rhain yn meddu'r hawl i wisgo crys engfys y flwyddyn canlynol, a'r hawl i wisgo stribedi'r enfys ar coleri a chyffion eu crysau am gweddill eu gyrfa.

Hanes[golygu]

Sefydlwyd yr UCI ar 14 Ebrill 1900 ym Mharis gan gyrff llywodraethu cenedlaethol Gwlad Belg, Yr Unol Dalieithau, Ffrainc, Yr Eidal, a'r Swisdir.

Yn 1965, odan bwysau gan yr IOC (roedd y Gemau Olympaidd bryd hynnu yn ddigwyddiad amatur), creodd yr UCI ddau is-gorff, Fédération Internationale Amateur de Cyclisme (FIAC) (Cymraeg: Ffederasiwn Seiclo Amatur Rhyngwladol) a Fédération Internationale de Cyclisme Professionnel (FICP) (Cymraeg: Ffederasiwn Seiclo Proffesiynol Rhyngwladol). Cymerodd yr UCI y rôl o weinyddu'r ddau gorff.

Lleolwyd yr FIAC yn Rhufain, a'r FICP yn Luxembourg, a'r UCI yn Geneva.

Yr FIAC oedd y fwyaf o'r ddau gorff, gyda 127 ffederasiwn yn aelod ar draws pum cyfandir. Goruchafwyd hi gan wledydd y Bloc dwyreiniol a oedd yn gwbl amatur. Yr FIAC oedd yn trefnu cynyrchiolaeth seiclo yn y Gemau Olympaidd, ac yn anaml iawn bu seiclwyr yr FIAC yn cystadlu yn erbyn aelodau'r FICP.

Yn 1992, ail-gyfunwyd yr FIAC a'r FICP gan yr UCI, gan ddychwelyd yn ran o'r UCI. Symudodd y corff newydd i Lausanne, yn agos i'r IOC.

Yn 2004, adeiladodd yr UCI velodrome newydd 200m yng nganolfan seiclo'r byd newydd, gyferbyn a'u pencadlys.

Dadleuon[golygu]

Ma'r UCI wedi ymwnaud â sawl dadl yn gysylltiedig a'u penderfyniadau ynglyn a chymhwyster beiciau. Yn arbennig, gwahardd recumbents ar 1 April 1934, a'r amryw o waharddiadau a roddwyd ar Graeme Obree yn y 1990au a gwahardd unrhyw feic heb diwb sedd o'u rasus yn 2000.

Llywyddion[golygu]

Name Country Presidency
Emile de Beukelaer Flag of Belgium.svg 1900-1922
Léon Breton Flag of France.svg 1922-1936
Max Burgi Flag of Switzerland.svg 1936-1939
Alban Collignon Flag of Belgium.svg 1939-1947
Achille Joinard Flag of France.svg 1947-1958
Adriano Rodoni Flag of Italy.svg 1958-1981
Luis Puig Flag of Spain.svg 1981-1990
Hein Verbruggen Flag of the Netherlands.svg 1991-2006
Pat McQuaid Flag of Ireland.svg 2006-

Corff Llywodraethu Rhyngwladol[golygu]

Mynediad pencadlys yr UCI, Aigle, (Y Swistir)

Rasio Ffordd[golygu]

Dynion[golygu]

Rhwng 1989 a 2004, gweinyddodd yr UCI, Cwpan y Byd, Ffordd yr UCI, cystadleuaeth ar hyd y tymor a oedd yn cynnwys pob ras broffesiynol un diwrnod. Yn 2005, cyfnewidwyd hyn am yr UCI ProTour, cyfres sy'n cynnwys Teithiau Mawry Tour de France, Giro d'Italia a Vuelta a España) yn ogystal ac amryw mwy eang o rasus un diwrnod a rasus sawl cam.

I ehangu poblogrwydd a chyfranogaeth rasio seiclo ffordd drwy gydol y byd, mae'r UCI yn datblygu cyfres o rasus a adnabyddwyd yn gyfansoddol fel y Cylchdeithiau Cyfandirol UCI ar gyfer pob ardal y byd.

Merched[golygu]

Mae'r UCI wedi cefnogi cystadleuaeth lefel elet ar gyfer merched ers 1959, gan gynnwys coronni Pencampwr y Byd, Merched (Rasio Ffordd) ac, ers 1994, Pencampwr Time Trial y Byd, Merched.

Ers 1998, mae Cwpan y Byd, Merched yr UCI wedi bod yn gystadleuaeth sawl cymal a ddeilir ar draws y tymor, yn cynnwys rasus un diwrnod a rasus sawl cam.

Seiclo Trac[golygu]

Mae Pencampwriaeth y Byd, Trac yr UCI ar gyfer dynion a merched, yn cynnig pencampwriaethau tîm ac unigol mewn sawl disgyblaeth seiclo trac.

Cyclo-cross[golygu]

Mae pob ras a gefnogir gan yr UCI, yn ran o gystadleuaeth hyd y tymor, a adnaddir fel Cwpan y Byd, Cyclo-Cross yr UCI. Yn ogystal, deilir sawl ras un diwrnod pob blwyddyn i benderfynnu Pencampwr y Byd ym Pencampwriaethau'r Byd, Cyclo-cross yr UCI.

Rasio beicio mynydd[golygu]

Ym myd beicio mynydd, Pencampwriaethau'r Byd, Beicio Mynydd & Threialon yr UCI ywr gystadleuaeth pwysicaf a bri a ddeilir pob blwyddyn. Mae'n cynnwys disgyblaethau beicio traws gwlad, beicio lawr allt a pedwar-croes. Yn ogystal, mae'r pencampwriaethau'n cynnwys Pencampwriaeth y Byd ar gyfer beicio treialon.

Mae Cwpan y Byd Beicio Mynydd, UCI, yn gyfres o rasus sydd wedi cael eu dal yn flynyddol ers 1991.

Rasio BMX[golygu]

Deilir cwpan y Byd BMX Supercross, UCI mewn sawl cymal drost y tymor rasio, a Penampwriathau Trac y Byd, UCI yw'r pencampwriaeth un diwrnod ar gyfer rasio BMX.

Seiclo tu mewn[golygu]

Mae'r UCI yn cefnogi pencampwriaethau'r byd yn maesydd seiclo artistig a dawns seiclo mewn digwyddiad blynyddol a elwir yn Pencampwriaethau Seiclo tu mewn yr UCI.

Conffederasiynau Cyfandirol[golygu]

Mae'r ffederatiynau cenedlaethol yn ffurfio'r conffederatiwns fesul cyfandir:

Dolen Allanol[golygu]