Seiclo trac

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Chwraeon rasio beic yw seiclo trac, a gynhelir ar draciau sydd wedi eu hadeiladu'n fwriadol ar gyfer y pwrpas neu mewn vélodrome. Cynhelir seiclo trac ar draciau gwair hefyd, wedi eu marcio allan ar feysydd chwrae gwastad. Mae rasus seiclo trac gwair yn boblogaidd yn yr haf yn Lloegr, ac yn yr Alban fel rhan o Gemau'r Ucheldiroedd.

Hanes[golygu]

Safle'r reidiwr ar y beic[golygu]

Ras seiclo trac

Mae'r beiciau wedi cael eu dylunio er mwyn lleihau'r llusgiad erodynameg a achosir gan y peiriant a'r reidiwn.

Mae'r handlebars ar feiciau trac a ddefnyddir ar gyfer rasus pellter hir megis ras bwyntiau, yn debyg i'r barrau cwymp a ddefnyddir ar gyfer rasio ffordd. Mae safle'r reidiwr ar y beic hefyd yn debyd i rasio ffordd.

Mae'r safle yn fwy eithafol ar gyfer cystadleuthau sbrint, gyda'r barrau'n is a'r cyfrwy yn uwch ac yn bellach ymlaen. Mae'r barrau'n aml yn gulach a gyda cwymp dyfnach. Defnyddir barrau dur yn hytrach na charbon gan nifer o sbrintwyr oherwydd ei fod yn fwy anhyblyg a gwydn.

Maen rasus a gaiff eu hamseru megis y pursuit a'r kilo, mae reidwyr yn aml yn defnyddio barrau-aero neu 'barrau triathlon' sy'n debyg i'r rhai sydd iw gweld ar feiciau treial amser ar y ffordd, sy'n galluogi i'r reidiwr roi ei freichiau yn agosach at eu gilydd o flaen y corff. Mae hyn yn achosi i'r cefn fod yn fwy llorweddol gan leihau'r llusgiad ar flaen y corff. Ni chaniateir defnyddio'r barrau rhain mewn unrhyw ras heblaw'r treial amser a'r pursuit oherwydd diogelwch.

Gweler hefyd[golygu]