Tour de France 2009
Tour de France 2009 oedd y 96ed rhifyn o'r Tour de France. Datganwyd lle byddai'r rhifyn hwn yn dechrau gan y Tywysog Albert yn Monaco ar 14 Rhagfyr 2007.[1] Dechreuodd y ras ar 4 Gorffennaf yn Monaco gyda threial amser unigol 15 cilomedr o hyd. Roedd y cwrs yn cynnwys rhan o'r Circuit de Monaco. Dechreuodd Cymal 2 yn Monaco hefyd.[2]
Ymwelodd y ras a chwe gwlad: Monaco, Ffrainc, Sbaen, Andorra, y Swistir a'r Eidal.[3] Roedd y ras yn gyfanswm o 3445 cilomedr o hyd, gan gynnwys 93 cilomedr o dreialon amser. Roedd saith cymal mynyddig a thri yn gorffen fyny allt, ac un cymal ar fynydd-canolig.[4] Cynhaliwyd treial amser tîm am y tro cyntaf ers 2005, a chynhaliwyd y treial amser unigol byrraf ers 1967, roedd y cymal olaf yn un fynyddig am y tro cyntaf yn hanes y Tour.
Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae'r syniad wedi cael ei grybwyll o leihau faint o gyfathrebu sydd yn mynd ymlaen rhwng rheolwyr y ras a'r reidwyr yn ystod y cymalau. Bwriadwyd arbrofi gyda hyn yng nghymalau 10 ac 13 yn 2009, wrth wahardd defnydd darnau-clust.[5]
Timau[golygu | golygu cod y dudalen]
Gwahoddwyd 20 o dimau i gymryd rhan yn ras 2009. Maent yn cynnwys 17 o'r 18 tîm UCI ProTour (pob un heblaw Fuji-Servetto), yn ogystal a thri tîm arall a ddewiswyd ar hap: Skil-Shimano, Cervélo TestTeam ac Agritubel. Mae pob tîm yn cychwyn y ras gyda 9 reidiwr, felly mae 180 o seiclwyr yn cymryd rhan.
Yr 20 tîm yw:[6]
Reidwyr[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd y ffefrynnau i ennill y ras yn cynnwys enillydd 2008 Carlos Sastre, enillydd 2007 Alberto Contador, enillydd Giro d'Italia 2009 winner Denis Menchov a Cadel Evans a oedd wedi gorffen yn ail ddwy waith.[7] Dychwelodd Lance Armstrong, a oedd wedi ymddeol ar ôl ennill y ras rhwng 1999 a 2005, i gystadlu ar yn un tîm a Contador.
Ni ddewiswyd Alejandro Valverde i gystadlu gan dîm Caisse d'Epargne, er mai ef oedd arweinydd y tîm. Gorffennodd yn y deg uchaf yn y Tour yn y dwy flynedd cynt, a cysidrwyd ef yn un o'r ffefrynnau i ennill. Derbyniodd waharddiad ym mis Mai 2009, gan y Pwyllgor Olympaidd Eidaleg, yn ei wahardd rhag cystadlu yn yr Eidal. Mae'r Tour yn teithio trwy'r Eidal yn ystod cymal 16 felly nid oedd yn bosibl iddo gystadlu.
Torrodd y newyddion ynglyn ag ail-brofi sampl tu-allan-i-gystadleuaeth 2007 Thomas Dekker tair diwrnod cyn dechrau'r ras; tynnodd ei dîm, Silence Lotto, ef allan o'r ras yn syth.
Cymalau[golygu | golygu cod y dudalen]
Cymal | Dyddiad | Dechrau | Gorffen | Pellter | Math | Enillydd | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | 4 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
15 cilomedr | Treial Amser Unigol | ![]() | |
2 | 5 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
182 cilomedr | ![]() |
Cymal Gwastad | ![]() |
3 | 6 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
196 cilomedr | ![]() |
Cymal Gwastad | ![]() |
4 | 7 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
38 cilomedr | Treial Amser Tîm | Astana | |
5 | 8 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
197 cilomedr | ![]() |
Cymal Gwastad | ![]() |
6 | 9 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
175 cilomedr | ![]() |
Cymal Gwastad | ![]() |
7 | 10 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
224 cilomedr | ![]() |
Cymal Mynyddig | ![]() |
8 | 11 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
176 cilomedr | ![]() |
Cymal Mynyddig | ![]() |
9 | 12 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
160 cilomedr | ![]() |
Cymal Mynyddig | ![]() |
13 Gorffennaf | Diwrnod Gorffwys | ||||||
10 | 14 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
193 cilomedr | ![]() |
Cymal Gwastad | ![]() |
11 | 15 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
192 cilomedr | ![]() |
Cymal Gwastad | ![]() |
12 | 16 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
200 cilomedr | ![]() |
Cymal Gwastad | ![]() |
13 | 17 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
200 cilomedr | ![]() |
Transition Stage | ![]() |
14 | 18 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
199 cilomedr | ![]() |
Cymal Gwastad | ![]() |
15 | 19 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
207 cilomedr | ![]() |
Cymal Mynyddig | ![]() |
20 Gorffennaf | Diwrnod Gorffwys | ||||||
16 | 21 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
160 cilomedr | ![]() |
Cymal Mynyddig | ![]() |
17 | 22 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
169 cilomedr | ![]() |
Cymal Mynyddig | ![]() |
18 | 23 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
40 cilomedr | Treial Amser Unigol | ![]() | |
19 | 24 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
195 cilomedr | ![]() |
Cymal Gwastad | ![]() |
20 | 25 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
167 cilomedr | ![]() |
Cymal Mynyddig | ![]() |
21 | 26 Gorffennaf | ![]() |
![]() |
160 cilomedr | ![]() |
Cymal Gwastad | ![]() |
CYFANSWM | 3,459.5 cilomedr |
Arweinwyr y dosbarthiadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Pan mae un reidiwr yn arwain mwy nag un gystadleuaeth ar ddiwedd cymal mae'n derbyn pob crys, ond dim ond un crys gaiff wisgo'r diwrnod canlynol. Mae'n gwisgo crys y gystadleuaeth bwysicaf (yn y drefn yma - melyn, gwyrdd, dot polca, gwyn).[8] Mae'r crysau eraill a ddeillir gan y reidiwr yn cael eu gwisgo gan y reidiwr sy'n ail yn y gystadleuaeth eilradd honno (neu'r trydydd, pedwerydd reidiwr ayb. fel bo'r angen).
- Cymal 2, gwisgodd Bradley Wiggins y crys gwyrdd
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Friday's EuroFile: '09 Tour to open in Monaco. VeloNews.com (2007-12-14).
- ↑ Grand start 2009. LeTour.fr.
- ↑ Stage by stage. LeTour.fr.
- ↑ The Tour 2009. LeTour.fr.
- ↑ Cycling Earpieces banned on two Tour de France stages. yahoo.com (2009-06-18).
- ↑ The 20 teams selected. LeTour.fr (2009-03-17).
- ↑ The Tour de France Ladder.
- ↑ Tour de France 2009 Regulations. LeTour.fr.
1915-1918 Gohirwyd oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
1919 · 1920 · 1921 · 1922 · 1923 · 1924 · 1925 · 1926 · 1927 · 1928 · 1929 ·
1930 · 1931 · 1932 · 1933 · 1934 · 1935 · 1936 · 1937 · 1938 · 1939
1940-1946 Gohirwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1947 · 1948 · 1949 · 1950 · 1951 · 1952 · 1953 · 1954 · 1955 · 1956 · 1957 · 1958 · 1959 · 1960 · 1961 · 1962 · 1963 · 1964 · 1965 · 1966 · 1967 · 1968 · 1969 · 1970 · 1971 · 1972 · 1973 · 1974 · 1975 · 1976 · 1977 · 1978 · 1979 · 1980 · 1981 · 1982 · 1983 · 1984 · 1985 · 1986 · 1987 · 1988 · 1989 · 1990 · 1991 · 1992 · 1993 · 1994 · 1995 · 1996 · 1997 · 1998 · 1999 · 2000 · 2001 · 2002 · 2003 · 2004 · 2005 · 2006 · 2007 · 2008 · 2009 · 2010 · 2011 · 2012 · 2013 · 2014 · 2015
Crys Melyn |
Crys Gwyrdd |
Crys Dot Polca |
Crys Gwyn |
Gwobr Brwydrol