Thomas Dekker

Oddi ar Wicipedia
Thomas Dekker
Ganwyd1572 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw25 Awst 1632 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
  • ysgol ramadeg Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd, bardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPatient Grissill Edit this on Wikidata

Dramodydd a phamffledwr Seisnig yn yr iaith Saesneg oedd Thomas Dekker (tua 15721632) a flodeuai yn oes theatr Elisabeth ac Iago. Nodweddir ei waith gan bortreadau bywiog o Lundain ac iaith y ddinas, rhyddiaith llawn hwyl a mynd, plotiau rhamantaidd a moesolaidd, a themâu gwladgarol a Phrotestannaidd.

Ni wyddys llawer am fywyd Dekker. Credir iddo gael ei eni i deulu o fewnfudwyr Iseldiraidd yn Llundain.[1] Roedd ganddo rywfaint o grap ar yr ieithoedd Lladin, Ffrangeg, ac Iseldireg, ac mae'n bosib iddo fod yn filwr yn ystod ei ieuenctid.[2]

Sonir amdano yn gyntaf, fel dramodydd, ym 1598. Ysgrifennodd o leiaf 42 o ddramâu, naill ai ar liwt ei hun neu yn cydweithio â llenorion eraill. O'r rhai sydd yn goroesi, mae naw drama sydd yn waith Dekker yn unig, gan gynnwys The Shoemakers Holiday (1599) a The Honest Whore, Part 2 (1630), a 13 drama arall a ysgrifennwyd ganddo gydag eraill, yn eu plith Thomas Middleton (The Honest Whore, Part 1, 1604 a The Roaring Girl, 1610), John Webster (Westward Ho, 1604 a Northward Ho, 1605), Philip Massinger, John Ford, a William Rowley. Yn ystod y ffrae a elwir "rhyfel y beirdd" neu "ryfel y theatrau", cafodd Dekker ei bortreadu ar ffurf Demetrius Fannius yn y ddrama Poetaster (1601) gan Ben Jonson. Ymatebodd Dekker yn ei waith Satiro-mastix (1601).[1]

Dekker oedd un o brif bamffledwyr Oes Iago ac mae ei ryddiaith yn cynnwys straeon am y pla (The Wonderfull Yeare, 1603) ac enghreifftiau o lenyddiaeth dihirod (The Belman of London, 1608) mewn dynwarediad o Robert Greene, yn ogystal â The Guls Horne-booke (1609) sydd yn dychanu bywyd y theatr Lundeinig.[1]

Treuliodd Dekker y cyfnod 1613–19 yn y carchar dyledwyr, ac mae'n debyg iddo dynnu ar ei brofiad wrth gyfrannu disgrifiadau o fywyd yn y ddalfa at chweched argraffiad Characters (1616) gan Syr Thomas Overbury. Bu Dekker hefyd yn ymwneud â pherfformiadau cyhoeddus y tu hwnt i'r llwyfan, ac yn gyfrifol am y dathliadau stryd i groesawu'r Brenin Iago i Lundain ym 1603 a phasiantau'r Arglwydd Faer ym 1612, 1627, 1628, a 1629. Er gwaethaf ei lenydda a'i drefniadau toreithiog, mae'n debyg yr oedd Dekker unwaith eto mewn dyled fawr pan fu farw tua 60 oed ym 1632.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Thomas Dekker. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Medi 2020.
  2. (Saesneg) "Thomas Dekker" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar 19 Medi 2020.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • J. H. Conover, Thomas Dekker: An Analysis of Dramatic Structure (1969).
  • K. L. Gregg, Thomas Dekker: A Study in Economic and Social Backgrounds (1924).
  • M. L. Hunt, Thomas Dekker (1911).
  • G. R. Price, Thomas Dekker (1969).