Samuel Dumoulin

Oddi ar Wicipedia
Samuel Dumoulin
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnSamuel Dumoulin
Dyddiad geni (1980-08-20) 20 Awst 1980 (43 oed)
Taldra1.59m
Pwysau56kg
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Math seiclwrSbrintiwr
Tîm(au) Proffesiynol
2002–2003
2004–2007
2008–
Jean Delatour
AG2r Prévoyance
Cofidis
Golygwyd ddiwethaf ar
11 Gorffennaf 2009

Seiclwr proffesiynol Ffrengig ydy Samuel Dumoulin (ganed 20 Awst 1980. Ganwyd yn Vénissieux.

Cystadlodd Dumoulin fel reidiwr amatur dros Vélo Club de Vaulx-en-Velin. Enillodd bencampwriaeth ieuencid 1996, ac yna'r pencampwriaeth éspoir (odan 23) Paris-Tours a Paris-Auxerre yn 2001. Trodd yn broffesiynol yn 2002 gyda Jean Delatour, a symudodd i dîm AG2R Prévoyance yn 2003. Erbyn hyn mae'n reidio dros dîm Cofidis ac yn cael ei adnabod fel sbrintiwr.

Bu'n raid iddo dynnu allan o Tour de France 2004 wedi damwain pan darodd gi ar y ffordd. Cymerodd bedwar mis i wella o'i anafiadau a ni rasiodd o gwbl yn ystod gweddill y tymor. Yn 2008, enillodd y trydydd cymal wedi iddo dorri i ffwrdd o flaen y grŵp gyda bron 200 cilomedr i fynd i'r diwedd, curodd William Frischkorn a Romain Feillu i ennill y cymal.

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

2001
1af Paris-Tours Odan 23
2002
1af Prix d'Armorique
1af Cymal 4, Tour de l'Avenir
2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Derny Ffrainc
2003
1af Tour de Normandie
1af Tro-Bro Léon
1af Cymal 4, Tour de l'Avenir
1af Cymal 10, Tour de l'Avenir
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Derny Ffrainc
2004
1af Tro-Bro Léon
2005
1af Cymal 2, Critérium du Dauphiné Libéré
1af Cymal 2, Tour du Limousin
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Derny Ffrainc
2006
1af Route Adélie de Vitré
2008
1af Cymal 3, Tour de France
2009
1af Dosbarthiad sbrint, Volta a Catalunya

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]