Tour de France 2008
Tour de France 2008 oedd y 95ed rhifyn o'r Tour de France. Fe'i cynhaliwyd rhwng 5 Gorffennaf a 27 Gorffennaf 2008. Dechreuodd yn ninas Brest, Ffrainc, gan fynd i'r Eidal yn ystod y 15fed cam, a dychwelyd i Ffrainc yn ystod yr 16ed ac anelu tuag at Baris, ei safle gorffen traddodiadol, a cyrhaeddodd yno yn yr 21fed cam. Enillwyd y ras gan Carlos Sastre.
Yn wahanol i'r blynyddoedd cynt, ni roddwyd bonws amser ar gyfer sbrintiau yn ystod y ras nac am safleodd uchel ar ddiwedd pob cam. Newidiodd hyn y ffordd y gwobrwywyd y Crys Melyn o'i gymharu gyda'r rasys cynt.
Timau[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd dadleuon hirfaith wedi bod rhwng trefnwyr y ras, sef yr ASO a'r UCI[1] achoswyd gwerthdaro pellach pan fynnodd y trefnwyr ar yr hawl i wahodd, neu wahardd, p'run bynnag dimau y dewisodd ar gyfer y ras. Ond o dan rheolau'r UCI, mae'n rhaid i bob ras ProTour fod yn agored i bob tim sy'n aelod o reng uchaf yr UCI. Fe wnaeth yr ASO eu safbwynt yn glir, ac er y bu newidiadau yn rheolaeth a phersonel y tîm, roeddent yn bwriadu gwahardd tim Astana o'r gystadleuaeth fel canlyniad i'w rhan yn ymrysonau cyffuriau yn ystod Tour de France 2007 a'u cysylltiadau gydag achos cyffuriau Operación Puerto 2006 . Roedd hyn yn golygu na allai enillydd y ras y flwyddyn cynt (Alberto Contador) na'r reidiwr a orffennodd yn drydydd (Levi Leipheimer) gymryd rhan, gan fod y ddau wedi arwyddo cytundeb i rasio dros dim Astana ar gyfer tymor 2008.[2]
Ar 20 Mawrth 2008, datganodd yr ASO y byddai pob tim ProTour, heblaw am Astana, yn cael eu gwahodd, ynghyd a thri tim "wildcard": Agritubel, Barloworld, a Team Slipstream-Chipotle (a ail-enwyd yn Team Garmin-Chipotle yn ddiweddarach[3]).
Yr 20 tim a wahoddwyd oedd:[4]
Canlyniadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Safleodd[golygu | golygu cod y dudalen]
Safle | Reidiwr | Tîm | Amser |
---|---|---|---|
![]() |
![]() |
Team CSC Saxo Bank | 87h 52' 52″ |
2 | ![]() |
Silence-Lotto | + 58" |
3 | ![]() |
Gerolsteiner | + 1' 13" |
4 | ![]() |
Rabobank | + 2' 10" |
5 | ![]() |
Garmin-Chipotle | + 3' 05" |
6 | ![]() |
Team CSC Saxo Bank | + 4' 28" |
7 | ![]() |
Euskaltel-Euskadi | + 6' 25″ |
8 | ![]() |
Team Columbia | + 6' 55″ |
9 | ![]() |
Caisse d'Epargne | + 7' 12″ |
10 | ![]() |
Ag2r-La Mondiale | + 9' 05″ |
Safleoedd y timau[golygu | golygu cod y dudalen]
Safle | Tîm | Amser |
---|---|---|
![]() |
![]() |
263h 29' 57" |
2 | ![]() |
+ 15' 35" |
3 | ![]() |
+ 1h 05' 26" |
4 | ![]() |
+ 1h 16' 26" |
5 | ![]() |
+ 1h 17' 15" |
6 | ![]() |
+ 1h 20' 28" |
7 | ![]() |
+ 1h 23' 00" |
8 | ![]() |
+ 1h 26' 24" |
9 | ![]() |
+ 1h 27' 40" |
10 | ![]() |
+ 1h 37' 16" |
Brenin y Mynyddoedd[golygu | golygu cod y dudalen]
Safle | Reidiwr | Tîm | Pwyntiau |
---|---|---|---|
![]() |
![]() |
Gerolsteiner | 128 |
2 | ![]() |
Team CSC Saxo Bank | 80 |
3 | ![]() |
Team CSC Saxo Bank | 80 |
4 | ![]() |
Bouygues Télécom | 65 |
5 | ![]() |
Gerolsteiner | 62 |
6 | ![]() |
Gerolsteiner | 61 |
7 | ![]() |
Barloworld | 61 |
8 | ![]() |
Caisse d'Epargne | 58 |
9 | ![]() |
Française des Jeux | 52 |
10 | ![]() |
Euskaltel-Euskadi | 51 |
Cystadleuaeth Pwyntiau[golygu | golygu cod y dudalen]
Rank | Rider | Team | Points |
---|---|---|---|
![]() |
![]() |
Rabobank | 270 |
2 | ![]() |
Crédit Agricole | 220 |
3 | ![]() |
Team Milram | 217 |
4 | ![]() |
Cofidis | 181 |
5 | ![]() |
Team Columbia | 155 |
6 | ![]() |
Caisse d'Epargne | 136 |
7 | ![]() |
Barloworld | 131 |
8 | ![]() |
Silence-Lotto | 129 |
9 | ![]() |
Garmin-Chipotle | 119 |
10 | ![]() |
Team Columbia | 116 |
Reiswyr Ifanc[golygu | golygu cod y dudalen]
Safle | Reidiwr | Tîm | Amser |
---|---|---|---|
![]() |
![]() |
Team CSC Saxo Bank | 88h 04' 24″ |
2 | ![]() |
Liquigas | + 1' 27″ |
3 | ![]() |
Liquigas | + 17' 01″ |
4 | ![]() |
Cofidis | + 24' 09″ |
5 | ![]() |
Agritubel | + 1h 08' 34″ |
6 | ![]() |
Team Columbia | + 1h 13' 55″ |
7 | ![]() |
Barloworld | + 1h 24' 49″ |
8 | ![]() |
Team Milram | + 1h 38' 17″ |
9 | ![]() |
Française des Jeux | + 1h 38' 22″ |
10 | ![]() |
Caisse d'Epargne | + 1h 44' 07" |
Arian gwobr[golygu | golygu cod y dudalen]
Gwobrwywyd cyfanswm o €3.25 miliwn mewn gworau yn ystod y Tour. Derbyniodd pob tîm €51,243 tuag at costau cymryd rhan yn ogystal, a €1,600 ychwanegol ar gyfer pob reidiwr a gwblhaodd y ras, ond ar yr amod fod oleiaf saith o bob tîm yn gwneud hynny.[8][9]
1af | 2il | 3ydd | 4ydd | 5ed | Nodiadau | |
---|---|---|---|---|---|---|
Pob cam | €8,000 | €4,000 | €2,000 | €1,200 | €830 | Gwobrau i lawr i'r 20fed safle (€200). |
Safleodd cyffredinol | €450,000 | €200,000 | €100,000 | €70,000 | €50,000 | Mae pob reidiwr sy'n gorffen yn derbyn oleif €400. Mae'r un sy'n gwisgo'r Crys Melyn yn derbyn €350 pob cam. |
Cystadleuaeth Bwyntiau | €25,000 | €15,000 | €10,000 | €4,000 | €3,500 | Arian gwobr ychwanegol i lawr i'r 8fed safle (€2,000). Mae'r arweinydd ar ddiwedd pob cam yn derbyn €300. |
Sbrintiau canolog | €800 | €450 | €300 | Mae 45 o'r sbrintiau rhain yn ystod y Tour. | ||
Cystadleuaeth brenin y mynyddoedd | €25,000 | €15,000 | €10,000 | €4,000 | €3,500 | Arian gwobr ychwanegol i lawr i'r 8fed safle (€2,000). Mae'r arweinydd ar ddiwedd pob cam yn derbyn €300. |
Allt Hors categorie | €800 | €450 | €300 | Mae 8 allt HC yn ystod y tour, ac mae €5,000 o wobrau ychwanegol ar gyfer y reidwyr cyntaf drost y Tourmalet (cam 10) a'r Galibier (cam 17). | ||
Allt categori 1 | €650 | €400 | €150 | Mae 4 yn ystod y Tour. | ||
Allt categori 2 | €500 | €250 | Mae 5 yn ystod y Tour. | |||
Allt categori 3 | €300 | Mae 14 yn ystod y Tour. | ||||
Allt categori 4 | €200 | Mae 26 yn ystod y Tour. | ||||
Cystadleuaeth y reidwyr ifanc | €20,000 | €15,000 | €10,000 | €5,000 | Pae'r reidiwr ifanc cyntaf i orffen pob diwrnod yn derbyn €500, ac arweinydd cystadleuaeth y reidwyr ifanc yn derbyn €300 ar ôl pob cam. | |
Gwobr y reidiwr mwyaf brwydrol | €20,000 | Gwobrwyir wobr o €2,000 ym mhob cam heblaw y treialau amser. | ||||
Cystadleuaeth tîm | €50,000 | €30,000 | €20,000 | €12,000 | €8,000 | Gwobrwyir €2,800 ym mhob cam, i'r tim sydd gyda'r amser cyflymaf ar gyfer eu tri reidiwr cyntaf i orffen. |
Yn ôl traddodiad, caiff yr holl arian mae'r tîm yn ei ennill ei roi mewn un pot a'i rannu rhwng y reidwyr a'r tîm cefnogi. Team CSC, sef tîm enillydd y Tour, Sastre, a enillodd y cyfanswm mwyaf o arian, gyda thros €600,000. Ni dderbyniodd Saunier Duval eu gwobrau arian wedi i Riccardo Riccò roi sampl positif i brawf cyffuriau.[10]
Tîm | Arian gwobr | |
---|---|---|
1 | Team CSC Saxo Bank | €621,210 |
2 | Silence-Lotto | €233,450 |
3 | Gerolsteiner | €192,370 |
4 | Rabobank | €154,250 |
5 | Team Columbia | €113,450 |
6 | Cofidis | €91,460 |
7 | Garmin-Chipotle | €82,570 |
8 | Ag2r-La Mondiale | €71,060 |
9 | Caisse d'Epargne | €59,510 |
10 | Crédit Agricole | €55,450 |
11 | Euskaltel-Euskadi | €53,130 |
12 | Liquigas | €49,220 |
13 | Française des Jeux | €45,780 |
14 | Team Milram | €35,490 |
15 | Agritubel | €32,540 |
16 | Quick Step | €31,470 |
17 | Bouygues Télécom | €24,900 |
18 | Barloworld | €22,480 |
19 | Lampre | €9,840 |
Reidwyr a dynnodd allan[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd 35 reidiwr eu tynnu allan neu eu diarddel.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ History of UCI-Grand Tour disputes. Cycling News.
- ↑ Associated Press (13 Chwefror 2008). Tour de France organizers exclude Astana team; Alberto Contador may not defend title. ESPN.com.
- ↑ Garmin is the new title sponsor of the Slipstream-Chipotle team. VeloNews (18 Mehefin 2008).
- ↑ TOUR 2008 : VINGT ÉQUIPES INVITÉES.
- ↑ Adnabyddwyd gynt fel Team High Road : Columbia Sportswear Announces Sponsorship. Team Columbia & High Road Sports, Inc (15 Mehefin 2008).
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 Official Tour de France standing
- ↑ 7.0 7.1 Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref'Kohldoping
- ↑ Rules and Stakes. Le Tour.fr.
- ↑ 2008 Rules and Stakes. Le Tour.fr.
- ↑ VeloNews 2008 Tour de France information.
- ↑ Piepoli of Italy wins 10th stage of Tour
- ↑ www.cyclingnews.com - the world centre of cycling
Dolenni Allananol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gwefan swyddogol Tour de France
- (Iseldireg) (Saesneg) (Ffrangeg) Cyflwyniad o gamau Tour de France 2008
- Tour de France 2008 ar Google Earth
- RoadCycling.com Newyddion, canlyniadau, lluniau a dyddiaduron y reidwyr.
- Cyclingfans.com Clipiau fideo a sain.
- Le dico du Tour / Le Tour de France de 1947 à 2008 (Ffrangeg)
- 2008 Tour de France: Stage by stage Mapiau Google rhyngweithiol
1915-1918 Gohirwyd oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
1919 · 1920 · 1921 · 1922 · 1923 · 1924 · 1925 · 1926 · 1927 · 1928 · 1929 ·
1930 · 1931 · 1932 · 1933 · 1934 · 1935 · 1936 · 1937 · 1938 · 1939
1940-1946 Gohirwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1947 · 1948 · 1949 · 1950 · 1951 · 1952 · 1953 · 1954 · 1955 · 1956 · 1957 · 1958 · 1959 · 1960 · 1961 · 1962 · 1963 · 1964 · 1965 · 1966 · 1967 · 1968 · 1969 · 1970 · 1971 · 1972 · 1973 · 1974 · 1975 · 1976 · 1977 · 1978 · 1979 · 1980 · 1981 · 1982 · 1983 · 1984 · 1985 · 1986 · 1987 · 1988 · 1989 · 1990 · 1991 · 1992 · 1993 · 1994 · 1995 · 1996 · 1997 · 1998 · 1999 · 2000 · 2001 · 2002 · 2003 · 2004 · 2005 · 2006 · 2007 · 2008 · 2009 · 2010 · 2011 · 2012 · 2013 · 2014 · 2015
Crys Melyn |
Crys Gwyrdd |
Crys Dot Polca |
Crys Gwyn |
Gwobr Brwydrol