Chris Froome
![]() | |
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Christopher Froome |
Llysenw | Froomey |
Dyddiad geni | 20 Mai 1985 |
Taldra | 1.86 cm |
Pwysau | 70 kg |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Cyffredinol |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2007 2008–2009 2010– |
|
Prif gampau | |
Cymal 7, Tour de France 2012 | |
Golygwyd ddiwethaf ar 10 Gorffennaf 2012 |
Seiclwr proffesiynol gyda Team Sky yw Christopher Froome CBE (ganed 20 Mai 1985) yn Nairobi, Cenia. Er cael ei fagu yn Cenia a De Affrica, mae Froome yn rasio ar drwydded Prydeinig ers 2008. Mae'n gymwys i rasio o dan drwydded Prydeinig oherwydd fod ei dad a'i nain a'i daid wedi eu geni ym Mhrydain Fawr[1].
Yn 2007 trodd Froome yn broffesiynol gyda Team Konica Minolta, ond symudodd i Ewrop er mwyn ceisio gwella ei yrfa gyda Team Barloworld ond yn 2010 cafodd ei arwyddo gan Team Sky er mwyn bod yn un o prif reidwyr domestique Bradley Wiggins.
Gorffennodd yn ail yn y Vuelta a España yn 2011 ac hefyd yn ail tu ôl i Wiggins yn y Tour de France yn 2012 yn ogystal â chipio medal efydd yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012 yn y Ras yn erbyn y Cloc[2]. Yn 2013 llwyddodd i ennill y Tour of Oman, Critérium International, Tour de Romandie a'r Critérium du Dauphiné cyn ennill y Tour de France[3].
Yn 2014, bu rhaid iddo ymddeol o'r Tour de France oherwydd anaf[4] ond llwyddodd i orffen y tymor gydag ail safle yn y Vuelta a España[5].
Palmares[golygu | golygu cod y dudalen]
- 2011
- 2il Vuelta a España
- 2012
- 2il Tour de France
- 3ydd
Ras yn erbyn y cloc Gemau Olympaidd yr Haf 2012
- 4ydd Vuelta a España
- 2013
- 1af
Tour of Oman
- 1af
Critérium International
- 1af Cymal 3
- 1af
Tour de Romandie
- 1af Prôlog
- 1af
Critérium du Dauphiné
- 1af Cymal 5
- 1af
Tour de France
- 2il Cylchdaith Byd UCI
- 3ydd
Ras yn erbyn y cloc i dimau, Pencampwriaeth Rasys Lôn y Byd
- 2014
- 1af
Tour of Oman
- 1af Cymal 5
- 1af
Tour de Romandie
- 1af Cymal 5
- Critérium du Dauphiné
- 1af
Dosbarthiad Pwyntiau
- 1af Cymal 1 a 2
- 2il Vuelta a España
Gwobr Brwydro
- 1af
- 2015
- 1af
Vuelta a Andalucía
- 1af
Critérium du Dauphiné
- 1af Cymal 7 ac 8
- 3ydd Tour de Romandie
- 1af Cymal 1
- Tour de France
- 2017
- 1af
Tour de France
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Underdog no more, Chris Froome hopes for a bit more liberty in 2012". VeloNews (Competitor Group, Inc.). 2011-11-23. http://velonews.competitor.com/2011/11/news/underdog-no-more-chris-froome-hopes-for-a-bit-more-liberty-in-2012_198493.
- ↑ "Chris Froome finally gains his just rewards with bronze medal". 2012-08-01. http://www.telegraph.co.uk/sport/olympics/cycling/9445332/London-2012-Olympics-Chris-Froome-finally-gains-his-just-rewards-with-bronze-medal.html.
- ↑ "2013 Tour de France: How Chris Froome won the race". 2013-07-21. http://www.bbc.co.uk/sport/0/cycling/23007837.
- ↑ "Chris Froome: Tour de France champion out after crashing twice". 2014-07-09. http://www.bbc.co.uk/sport/0/cycling/28228930.
- ↑ "Vuelta a Espana: 'I gave it everything,' says Chris Froome after being edged out by Alberto Contador in Spain". 2014-09-14. http://www.independent.co.uk/sport/cycling/vuelta-a-espana-i-gave-it-everything-says-chris-froome-after-being-edged-out-by-alberto-contador-in-spain-9732453.html.
|