Neidio i'r cynnwys

Philippe Gilbert

Oddi ar Wicipedia
Philippe Gilbert
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnPhilippe Gilbert
Dyddiad geni (1982-07-05) 5 Gorffennaf 1982 (42 oed)
Taldra1.79m
Pwysau67kg
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Math seiclwrArbenigwr y clasuron
Tîm(au) Proffesiynol
2003–2008
2009–
Française des Jeux
Silence-Lotto
Golygwyd ddiwethaf ar
7 Gorffennaf 2011

Seiclwr proffesiynol o Wlad Belg yw Philippe Gilbert (ganed 5 Gorffennaf 1982, Remouchamps, Aywaille). Mae Gilbert yn arbenigo mewn clasuron y ffordd. Ef yw'r ail berson, a'r Belgwr cyntaf erioed, i ennill yr holl dri o Glasuron Ardennes yn yr un flwyddyn.

Mae Gilbert wedi ennill sawl ras clasurol, gan gynnwys Paris-Tours (2008, 2009), Giro di Lombardia (2009, 2010), Amstel Gold Race (2010, 2011), La Flèche Wallonne (2011) a Liège–Bastogne–Liège (2011). Mae hefyd wedi ennill cymal o'r Giro d'Italia a'r Tour de France, yn ogystal â dau gymal o'r Vuelta a España.

Gyrfa cynnar

[golygu | golygu cod]

Trodd Gilbert yn broffesiynol yn 2003 gan ymunod gyda thîm Française des Jeux wedi reidio fel stagiaire drost y tîm yn hwyr yn 2000. Cafodd ei fuddugoliaeth gyntaf pan enillodd cymal o'r Tour de l'Avenir. Dechreuodd tymor 2004 gan ennill cymal o'r Tour Down Under yn ogystal â'r dosbarthiad reidwyr ifanc. Cymerodd ran yn ras ffordd Gemau Olympaidd yr Haf 2004, lle gorffennodd yn 49fed safle. Enillodd hefyd y Paris–Corrèze. Yn 2005, enillodd sawl ras yn Ffrainc, a alluogodd ef i ennill cyfres Cwpan y Byd, roedd rhain yn cynnwys Trophée des Grimpeurs, Tour du Haut-Var a'r Polynormande. Cipiodd hefyd gymalau yn ras Four Days of Dunkirk a'r Tour Méditerranéen.

Daeth 2006 yn flwyddyn mwyaf llwyddiannus Gilbert hyd hynnu, pan enillodd y ras o fri, Omloop Het Volk, wedi ymosod dro ar ôl tro tan iddo lwyddo i ddianc ar ben ei hun gyda 7 km i fynd.[1] Yn ystod y tymor, enillodd hefyd GP de Fourmies a GP de Wallonie a chymalau o'r Dauphiné Libére a'r ENECO Tour.

Yn gynnar yn 2007, cafodd lawdriniaeth i dynnu nam cancr y croen oddi ar ei fordwydd.[2] Gohirwyd cychwyn ei dymor rasio oherwydd hyn, ond atalodd hyn ei ymdrechion yn ystod ras Milan – San Remo, pan lwyddodd i ddianc ar y Poggio gyda Riccardo Ricco cyn cael ei ddal 1200 metr o'r linell. Ni fu'n fuddugol tan Tour de Limousin, pan enillodd gymal, a hon oedd ei unig fuddugoliaeth yn 2007. Yn ras Paris–Tours, bu'n ymosod unwaith eto, ond cafodd ei ddal gyda 500 metr i fynd ynghyd â Karsten Kroon a Filippo Pozzato.

Dechreuodd dymor 2008 gan ennill gystadleuaeth brenin y mynyddoedd y Tour Down Under yn ogystal â dosbarthiad cyffredinol a dau gymal o'r Vuelta a Mallorca. Daeth yn drydydd yn Milan – San Remo, ac enillodd y Het Volk am yr eilwaith, wedi ymosodiad ar ben ei hun gyda 50 km i fynd. Pedwar diwrnod yn ddiweddarach enillodd y GP Samyn. Gorffennodd y flwyddyn gan ennill ras glasurol Paris–Tours mewn ymosodiad hwyr lle enillodd y sbrint i'r linell yn erbyn ei dri cyd-ymosodwyr, croesodd y peleton ond pedair eiliad tu ôl iddynt.

Philippe Gilbert ar gychwyn Omloop Het Nieuwsblad yn 2009.

Yn 2009, ymunodd â'r tîm Belgaidd Silence-Lotto, ac ef oedd arweinydd y tîm yn y clasuron, a daeth yn drydydd yn y Tour of Flanders a phedwerydd yn Amstel Gold Race a Liège–Bastogne–Liège. Cipiodd ei gymal cyntaf mewn Grand Tour pen enillodd 20fed cymal y Giro d’Italia[3] ac enillodd cymal a dosbarthiad cyffredinol y Ster Elektrotoer. Yn hwyrach yn y tymor, ail-adroddodd ei fuddugoliaeth yn y Paris–Tours, gan ymosod ar yr esgyniad olaf gyda Tom Boonen a Borut Božič cyn eu curo mewn sbrint i'r linell. Wythnos yn ddiweddarach, enillodd ras o fri y Giro di Lombardia, wedi ymosod o'r peloton gyda Samuel Sánchez, gan ei guro i'r linell o hanner hyd-beic. Hon oedd ei bedwerydd buddugoliaeth yn olynol mewn 10 diwrnod, wedi iddo ennill y Coppa Sabatini, Paris-Tours a'r Giro del Piemonte. Ar ddiwedd y tymor, derbyniodd wobr Fflandryswr y Flwyddyn, yn cydnabod reidiwr Belgaidd gorau'r flwyddyn.[4]

Enillodd clasur cyntaf 2010, yr Amstel Gold Race, ym mis Ebrill. Bu'n ras frwydrol gyda nifer o ymosodiadau, enillodd Gilbert wedi iddo ymosod yn y 500 metr olaf ar yr esgyniad i'r linell, gan ennill yn gyfforddus sawl hyd-beic o flaen y peloton.[5] Enillodd hefyd gymal cyntaf y Tour de Belgique. Gorffennodd Gilbert dymor 2010 mewn siap gwych. Enillodd dau gymal o'r Vuelta a España gyda buddugoliaethau yn y Giro del Piemonte a'r Giro di Lombardia, gan ail-adrodd ei fuddugoliaethau yn y rasus rhain o 2009. Daeth ei fuddugoliaeth yn y Giro di Lombardia wedi ymosodiad er ei ben ei hun mewn tywydd erchyll.[6]

Gilbert yn cael ei gyfweld cyn cymal 4 Tour de France 2011.

Yn 2011, cafodd Gilbert bedwar buddugoliaeth yn olynol, sef y Brabantse Pijl, ei ail fuddugoliaeth yn yr Amstel Gold Race, La Flèche Wallonne tri diwrnod yn ddiweddarach wedi iddo ddisgyn ei gyd-ymosodwyr ar esgyniad olaf Mur de Huy, a'r Liège–Bastogne–Liège gan guro'r brodyr Shleck mewn sbrint. Felly daeth Gilbert yr ail reidiwr, ar ôl Davide Rebellin yn 2004, i ennill tair clasur Ardennes mewn blwyddyn.[7]

Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn enillodd hefyd y Volta ao Algarve, Tirreno-Adriatico yn ogystal â dosbarthiad cyffredinol a chymal o'r Tour de Belgique a Ster ZLM Toer. Yn gynnar ym mis Mawrth enillodd y Montepaschi Strade Bianche, ras sy'n cynnwys 70 km o ffyrdd gro, a Pencampwriaethau Ras Ffordd Gwlad Belg ym mis Mehefin.

Cipiodd gymal cyntaf, 191.5 km, Tour de France 2011, o dair eiliad dros Cadel Evans, gan gipio'r crys melyn, y gwyrdd a'r dot polca yn y broses.[8] Collodd y crys yn ystod y treial amser tîm y diwrnod canlynol, ond deliodd ymlaen i'r crys gwyrdd a'r crys dot polca wedi cymal 2.

Prif ganlyniadau

[golygu | golygu cod]
2003
1af Cymal 9 Tour de l'Avenir
1af Cystadleuaeth bwyntiau
2004
1af Paris–Corrèze
1af Cymal 3 Tour Down Under
2il Paris–Brussels
2005
1af Cymal 4 Quatre Jours de Dunkerque
1af Cymal 2 Tour Méditerranéen
1af Trophée des Grimpeurs
1af Tour du Haut-Var
1af Polynormande
1af Coupe de France de cyclisme sur route
2il GP de Wallonie
2006
1af Cymal 2 Critérium du Dauphiné Libéré
1af Omloop Het Volk
1af Cymal 7 Eneco Tour of Benelux
1af GP de Wallonie
1af GP de Fourmies
2il GP d'Ouverture La Marseillaise
2il Trophée des Grimpeurs
2il Le Samyn
2il GP d'Isbergues
2007
1af Cymal 1 Tour du Limousin
2il Le Samyn
2008
1af Vuelta a Mallorca
1af Paris–Tours
1af Omloop Het Volk
1af Brenin y Mynyddoedd, Tour Down Under
1af Trofeo Mallorca
1af Trofeo Soller
1af Le Samyn
2il Brabantse Pijl
2il Cymal 1 Tour de France
3ydd Milan – San Remo
2009
1af Ster Elektrotoer
1af Cymal 4
1af Giro di Lombardia
1af Paris–Tours
1af Cymal 20 Giro d'Italia
1af Giro del Piemonte
1af Coppa Sabatini
3ydd Ronde van Vlaanderen
4ydd Amstel Gold Race
4ydd Liège–Bastogne–Liège
6ed Pencampwriaethau Ras Ffordd UCI
2010
1af Cymal 3 Vuelta a España
1af Cymal 19 Vuelta a España
1af Giro di Lombardia
1af Cymal 1 Tour of Belgium
1af Amstel Gold Race
1af Giro del Piemonte
3ydd Gent–Wevelgem
3ydd Ronde van Vlaanderen
3ydd Liège–Bastogne–Liège
6ed Brabantse Pijl
6ed La Flèche Wallonne
9th Milan – San Remo
2011
1af Pencampwriaethau Ras Ffordd Gwlad Belg
1af Taith Gwlad Belg
1af Cymal 3
1af Ster ZLM Toer
1af Cymal 4
1af Cymal 1 Tour de France
ar Cymal 1
ar Cymalau 1 – 2, 5 – 6, 8 – 9
ar Cymalau 1 – 3
1af Liège–Bastogne–Liège
1af Amstel Gold Race
1af La Flèche Wallonne
1af Montepaschi Strade Bianche
1af Brabantse Pijl
1af Cymal 5 Tirreno-Adriatico
1af Cymal 1 Volta ao Algarve
3ydd Milan – San Remo
9fed Ronde van Vlaanderen

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  61st Omloop Het Volk – 1.HC. Cycling News (Chwefror 2006).
  2.  Gilbert undergoes skin cancer surgery. Cycling News (Ionawr 2007).
  3.  Andrew Hood (30 Mai 2009). Philippe Gilbert wins 2009 Giro d’Italia stage 20; Denis Menchov holds lead. Velonews.com. Adalwyd ar 28 Mehefin 2011.
  4.  vrt (19 Hydref 2010). Philippe Gilbert is 'Flandrien of the year'. flandersnews.be. Adalwyd ar 28 Mehefin 2011.
  5.  Amstel Gold Race 2010: Philippe Gilbert ends 16-year wait for Belgian win on the Cauberg. The Daily Telegraph (18 Ebrill 2010). Adalwyd ar 20 Ebrill 2010.
  6.  Stephen Farrand (16 Hydref 2010). Gilbert repeat victor of Giro di Lombardia. Adalwyd ar 28 Mehefin 2011.
  7.  John MacLeary (24 Ebrill 2011). Liège-Bastogne-Liège 2011: Philippe Gilbert triumphs in Belgium to complete historic Ardennes classics hat-trick. Adalwyd ar 28 Mehefin 2011.
  8.  Philippe Gilbert clinches stage one victory. The Guardian (2 Gorffennaf 2011). Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2011.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]