Cadel Evans

Oddi ar Wicipedia
Cadel Evans
Evans ar y llwyfan yng nghyflwyniad Tour de France 2010
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnCadel Lee Evans
LlysenwCuddles
Dyddiad geni (1977-02-14) 14 Chwefror 1977 (47 oed)
Taldra1.74 m
Pwysau67 kg
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Math seiclwrCyffredinol
Tîm(au) Amatur
Tîm(au) Proffesiynol

2001
2002
2003–2004
2005–2009
2010–
Volvo-Cannondale (MTB)
Saeco Macchine per Caffè
Mapei-Quick Step
Team Telekom
Davitamon-Lotto
BMC Racing Team
Prif gampau
Grand Tours
Tour de France
Crys Melyn
(2011)
2 Gymal (2007, 2011)
Giro d'Italia
Dosbarthiad pwyntiau
(2010)
1 Cymal (2010)

Cymalau

Tour Awstria (2001, 2004)
Tour de Romandie (2006, 2011)
Tirreno–Adriatico (2011)
Settimana internazionale di Coppi e Bartali (2008)

Clasuron un dydd
Pencampwr Ras Ffordd y Byd (2009)

La Flèche Wallonne (2010)
Golygwyd ddiwethaf ar
25 Gorffennaf 2011

Seiclwr proffesiynol Awstralaidd ydy Cadel Lee Evans (ganed 14 Chwefror 1977), sydd yn cynyrchioli tîm UCI ProTeam BMC ar y hyn o bryd. Ef oedd enillydd Awstralaidd cyntaf erioed y UCI ProTour yn 2007, enillydd Awstralaidd cyntaf erioed Pencampwriaeth Rasio Ffordd y Byd, UCI yn 2009, ac enillydd Awstralaidd cyntaf erioed y Tour de France yn 2011. Cyn dechrau rasio ar y ffordd yn 2001, roedd Evans yn bencampwr beicio mynydd.[1]

Ar hyn o bryd mae'n byw yn Barwon Heads, ger Melbourne yn Victoria, Awstralia, ac yn ystod y tymor rasio yn Stabio, y Swistir.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Cadel ar 14 Chwefror 1977 yn Ysbyty Katherine, Katherine, yn Nhiriogaeth Gogleddol Awstralia, yn fab i Helen Cocks, rheolwraig banc, a Paul Evans, fforman y cyngor. Roedd hen daid Evans yn Gymro, a chafodd yr "Cadel" ar ôl tri o Frenhinoedd Cymru o'r enw Cadell.[2]

Bu'n byw yn Upper Corindi, (i'r gogledd o Coffs Harbour) Armidale, De Cymru Newydd ac yn ddiweddarach yn Plenty-Kangaroo Ground-Arthurs Creek, Victoria. Tra'n byw yn Armidale, mynychodd Newling Public School. Symudodd i Victoria pan oedd yn ei arddegau cynnar. Derbyniodd ei addysg VCE (Tystysgrif blwyddyn 12) yn Ysgol Uwchradd Eltham, Melbourne.[3]

Roedd ganddo ddiddordeb mewn nofio, pêl-droed a chriced pan oedd yn ifanc, ond mae Evans ei hun yn credu ei fod yn rhyfedd iddo ddarfod i fyny yn athletwr proffesiynol gan nad oedd siap ei gorff yn gweddu gyda'r rhan helaeth o chwaraeon ysgol Awstralia a oedd yn galw am gryn faint neu gryfder. Dechreuodd seiclo yn gystadleuol ym 1991, gan gystadlu mewn cyclo-cross a beicio mynydd. Dywedodd Evans mai ei fywyd cynnar yn tyfy i fyny yn Armidale, De Cymru Newydd, a'r ysbrydoliaeth ar gyfer ei yrfa seiclo. Rhoddodd uchder y ddinas fantais cynnar i Evans wrth gystadlu.

Yn 1994, ar awgrym ei hyfforddwr Damian Grundy, dechreuodd gystadlu mewn rasus cylchffordd a rasus ffordd er mwyn helpu gwella ei feicio mynydd. Dechreuodd ei yrfa seiclo rhyngwladol fel aelod o dîm beicio mynydd yr Australian Institute of Sport, odan arweiniaeth y hyfforddwr Heiko Salzwedel a Damien Grundy. Enillodd Evans fedalau efydd ym Mhencampwriaeth Treial Amser Iau a Beicio Mynydd Iau y Byd ym 1995, a medalau arian ym Mhencampwriaeth Beicio Mynydd Odan-23 y Byd yn 1997 ac 1999.

Wedi ymgynghori gyda Michele Ferrari ac odan reolaeth Tony Rominger, newidiodd Evans i gystadlu ar y ffordd yn llawn amser yn ystod haf 2000.[4]

2001–2005[golygu | golygu cod]

Cadel Evans yn cystadlu yn Bonn, yr Almaen, 2005

Ers troi aty ffordd yn llawn amser, mae Evans wedi reidio dros dimau Saeco (2001), Mapei (2002) a Team Telekom (2003–2004). Yn 2005 ymunodd â Davitamon-Lotto a daeth yn wythfed ar ei dro cyntaf yn cystadlu yn y Tour de France, y reidiwr Awstralaidd cyntaf i orffen yn y deg uchaf ers Phil Anderson.

Roedd ei fuddugoliaethau cynnar yn cynnwys Tour Awstria yn 2001 a 2004, pumed yn y Deutschland Tour yn 2005, cymal o'r Tour Down Under yn 2002, dosbarthiad y mynyddoedd y Tour Down Under yn 2006, 14ydd yn Giro d'Italia 2002, a gwisgodd crys yr arweinydd, y Maglia Rosa mewn un cymal, a threial amser Gemau'r Gymanwlad yn 2002.

2006[golygu | golygu cod]

Enillodd Evans y Tour de Romandie, gan guro'r Sbaenwyr Alberto Contador ac Alejandro Valverde ar y gymal olaf, sef treial amser 20 km o amgylch Lausanne.

2007[golygu | golygu cod]

Yn Tour de France 2007, gorffenodd Evans yn ail i Contador. Enillodd dreial amser cymal 13 ac yn ail yn nhreial amser cymal 19. Bu'n bedwerydd yn Vuelta a España 2007, pumed ym Mhencampwriaethau'r Byd a chweched yn ras derfynol y gyfres UCI ProTour, sef y Giro di Lombardia, gan gipio'r fuddugoliaeth yn yr UCI ProTour 247 o bwyntiau o flaen Davide Rebellin ac Alberto Contador.

Yn 2006 a 2007, enwyd yn Seiclwr Awstralaidd y Flwyddyn.

2008[golygu | golygu cod]

Evans oedd y ffefryn i ennill Tour de France 2008, gan nad oedd tîm Contador, sef Team Astanawedi cae leu gwahodd i'r ras. Deliodd Evans y crys melyn o gymal 10 hyd 14. Ond, yn ystod esgyniad Alpe d'Huez ar gymal 17, cymerodd Carlos Sastre o Team CSC y blaen gan gipio 2 munud a 15 eiliad oddiar Evans. Erbyn y treial amser, roedd angen i Evans reidio 1 munud a 34 eiliad yn gynt na Sastre. Curodd Sastre a neidiodd i'r ail safle, ond roedd dal 58 eiliad tu ôl iddo erbyn diwedd y Tour.

Dioddefodd rwyg iw tennyn cruciate blaen,[5] ond wedi gwella, cystadlodd Evans yn ras ffordd 245 km Gemau Olympaidd yr Haf 2008 yn Beijing, gan orffen yn 15fed safle, 22 eiliad tu ôl i Samuel Sánchez.[6] Daeth yn bumed yn y treial amser Olympaidd pedair diwrnod yn ddiweddarach.

2009[golygu | golygu cod]

Amharwyd ar ymdrechion Evans yn Tour de France 2009 gan ddiffyg cefnogaeth gan ei dîm a diffyg siap da, a llwyddodd ond i orffen yn y 30fed safle, 45 munud tu ôl i'r enillydd, Alberto Contador. Er y siomedigaeth hyn, cafodd fuddugoliaethau yn y Critérium du Dauphiné Libéré a'r Settimana Internazionale Coppi e Bartali.

Daeth yn drydydd yn y Vuelta a España, lle gwisgodd crys aur yr arweinydd yn ystod un cymal, ond fe ddioddefodd trafferthon mecanegol yn ystod esgyniad i ddiwedd cymal ar fynydd Sierra Nevada. Gyda hyn, daeth Evans yn un o'r seiclwyr Awstralaidd mwyaf llwyddiannus, wedi iddo gael dau safle ar y podiwm yn y Tour de France. Daeth yn un o ychydig reidwyr sydd wedi dal y tri crys; y Maglia Rosa, crys arweinydd y Giro d'Italia yn 2002, crys melyn Tour de France am 4 diwrnod yn 2008, a chrys aur arweinydd y Vuelta a España yn 2009.

Enillodd Evans Bencampwriaeth Ras Ffordd y Byd yn Mendrisio, y Swistir ar 27 Medi. Wedi iddo dod yn bencampwr y byd, edrychai fel petai wedi taflu ei hun i mewn i gefnogi ei gyd-aelod tîm, Philippe Gilbert. Credai nifer fod hyn yn arwydd fod y berthynas rhwng ef a Silence-Lotto wedi gwella. Ond, ar ôl diwedd tymor rasio 2009, roedd llawer o ddyfalu yn y wasg, y byddai Evans yn chwilio am dîm newydd i'w gefnogi ar gyfer Tour 2010. Datganwyd ar 31 Hydref ei fod yn gadael y tîm i ganfod sialensau newydd.[7]

Cyhoeddwyd bywgraffiad, Cadel Evans: Close To Flying, gan Hardie Grant Books ym mis Tachwedd 2009.[8]

2010[golygu | golygu cod]

Symudodd Evans i dîm BMC yn 2010.[9] Dilynodd llwyddiant yn fuan wedyn, gyda buddugoliaeth yn y 2010 Flèche Wallonne, a deliodd y Maglia Rosa wedi cymal 2 Giro d'Italia 2010. Enillodd Evans gymal 7 y Giro d'Italia gan sbrintio oddiar blaen grŵp bach o reidwyr. Gorffennodd yn 5ed yn y dosbarthiad cyffredinol, gan ennill dosbarthiad pwytiau'r Maglia Rosso Passione a dosbarthiad Azzurri d'Italia. Deliodd Evans hefyd y crys melyn yn ystod cymal 9 Tour de France 2010, a hynnu wrth reidio gyda toriad trwch blewyn yn ei benelin chwith, a gafodd yn ystod damwain yn y cymal gynt. Collodd llawer o amser i'r arweinwyr yn ystod cymal 9, a collodd y crys melyn a'r cyfle i gystadlu o ddifrif am y fuddugoliaeth cyffredinol. Gorffennoff yn y 26ed safle, 50 munud a 27 eiliad tu ôl i Alberto Contador.[10]

2011[golygu | golygu cod]

Cafodd Evans gychwyn gwell i dymor rasio 2011, gan ennill cymal 6 a dosbarhiad cyffredinol y Tirreno–Adriatico, a dosbarthiad cyffredinol Tour de Romandie, mae'r ddau yn ffurfio rhan o gyfres UCI World Tour 2011. Ni gystadlodd yn y Giro d'Italia, gan ddewis yn hytrach i baratoi ar gyfer Tour de France 2011 drwy gystadlu yn y Criterium du Dauphine lle gorffennodd yn ail. Daeth Evans yn drydydd yng nghymal cyntaf y Tour, ac enillodd gymal 4, yr ail ffuddugoliaeth mewn cymal o'r Tour de France yn ei yrfa.[11] Arweiniodd gystadleuaeth brenin y mynyddoedd am un diwrnod wedi cymal 4, a gwisgodd y crys melyn wedi cymal 20 a 21. gan ddod y reidiwr Awstralaidd cyntaf erioed i ennill y Tour de France.[12]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n briod i Chiara Passerini, pianydd ac athrawes cerdd Eidalaidd. Cyfarfont ar ddiwedd 2002, wedi iddi gael ei chyflwyno iddo gan ffrind i'w thad.

Yn 2008, gwisgodd Evans grys isaf gyda Baner Tibet i gefnogi rhyddid dros Tibet.[13][14] Dywedodd:

"Trying to bring awareness of the Tibet movement is something someone in my position can do. I just feel really sorry for them. They don't harm anyone and they are getting their culture taken away from them. I don't want to see a repeat of what happened to Aboriginal culture [in Australia] happen to another culture."[14]

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

1993
1af Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad Awstralia – Odan 17
1994
1af Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad Awstralia – Odan 19
2il Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad y Byd – Odan 19
1995
3ydd Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad y Byd – Odan 19
3ydd Pencampwr Treial Amser y Byd – Iau
1996
1af Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad Awstralia
3ydd Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad y Byd – Odan 23
9fed Ras Beicio Mynydd Gemau Olympaidd yr Haf 1996
1997
1af Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad Awstralia
2il Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad y Byd – Odan 23
1998
1af Cyfres Cwpan y Byd Beicio Mynydd
1999
1af Tour Tasmania
1af Cymal 3
1af Cystadleuaeth reidiwr ifanc Tour Down Under
1af Cyfres Cwpan y Byd Beicio Mynydd
2il Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad y Byd – Odan 23
2000
7fed Ras Beicio Mynydd Gemau Olympaidd yr Haf 2000
2001
1af Tour Awstria
2il Pencampwriaethau Ras Gyfnewid Beicio Mynydd y Byd
2002
1af Treial amser unigol Gemau'r Gymanwlad 2002
1af Cymal 5 Tour Down Under
1af King Mountains Competition
1af Stage 1 Settimana Ciclistica Internazionale
1af Stage 4 International UNIQA Classic
2il Ras ffordd Gemau'r Gymanwlad 2002
3ydd Tour de Romandie
14ydd Giro d'Italia
Dal y Maglia Rosa ar gyfer cymal 16–17
2003
1af Brenin y Mynyddoedd, Tour Down Under
2004
1af Tour Awstria
1af Cymal 2
2005
1af Cymal 7 Deutschland Tour
8fed Tour de France
4ydd Cymal 16
2006
1af Tour de Romandie
1af Cymal 5
1af Brenin y Mynyddoedd, Tour Down Under
4ydd Tour de France
7fed Tour of California
2007
1af Cyfres UCI ProTour
1af Cymal 2, Treial Amser Unigol, Ras Brawf Beijing 2008
1af Cymal 1b, Treial Amser Tîm Settimana Ciclistica Internazionale Coppi-Bartali
2il Tour de France
1af Cymal 13
2il Critérium du Dauphiné Libéré
4ydd Vuelta a España
4ydd Tour de Romandie
6ed Giro di Lombardia
2008
1af Settimana internazionale di Coppi e Bartali
1af Cymal 3
1af Cymal 4 Paris–Nice
2il Tour de France
Dal y Maillot Jaune o gymal 10–14
2il La Flèche Wallonne
2il Critérium du Dauphiné Libéré
3ydd Vuelta a Andalucía
1af Cymal 2
7fed Liège–Bastogne–Liège
2009
1af Pencampwr Ras Ffordd y Byd, UCI
2il Settimana internazionale di Coppi e Bartali
1af Cymal 5
2il Critérium du Dauphiné Libéré
1af Cymal 1
1af Dosbarthiad pwyntiau
3ydd Vuelta a España
Dal Jersey Oro Cymal 8
Dal Maillot Combinada o gymal 8–11
4ydd Vuelta al País Vasco
5ed La Flèche Wallonne
2010
1af La Flèche Wallonne
3ydd Tirreno–Adriatico
5ed Giro d'Italia
1af Cymal 7
1af Dosbarthiad bwyntiau
1af Dosbarthiad bwyntiau Azzurri d'Italia
Dal Maglia Rosa Cymal 2
4ydd Liège–Bastogne–Liège
6ed Tour Down Under
Reidiwr mwyaf brwydrol Cymal 5
Tour de France
Dal y Maillot Jaune Cymal 9
2011
1af Tour de France
1af Cymal 4
Dal y Crys dot polca o gymal 4–5
1af Tirreno–Adriatico
1af Cymal 6
1af Tour de Romandie
2il Critérium du Dauphiné
8fed Volta a Catalunya


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Aussie Evans wins road race title. BBC Sport (27 Medi 2009). Adalwyd ar 28 Medi 2009.
  2. (10 Gorffennaf 2009) Golwg, Cyfrol 21, Rhifyn 43
  3.  About Cadel. Cadel Evans. Adalwyd ar 7 Mai 2011.
  4.  Evans first meets Ferrari. Michele Ferrari (23 Gorffennaf 2011).
  5.  Robert Lusetich (14 Awst 2008). Fearless Cadel Evans fails to stand the test of time. The Australian.
  6.  Leo Schlink (9 Awst 2008). Australian cyclist Michael Rogers narrowly misses medal in Olympic road race. The Australian.
  7.  Evans To Leave Silence-Lotto. Cycling News (31 Hydref 2009).
  8. (2009) Cadel Evans: Close To Flying (clawr caled), Hardie Grant Books, tud. 272. ISBN 978-1740666671
  9.  Cyclingnews.com (1 Hydref 2009). BMC confirms Evans signing. Cycling News. Adalwyd ar 1 Hydref 2009.
  10.  www.letour.fr. Tour de France – 2010. AMAURY SPORT ORGANISATION. Adalwyd ar 17 Medi 2010.
  11.  Cadel Evans denies Alberto Contador on stage four. The Guardian (5 Gorffennaf 2011). Adalwyd ar 5 Gorffennaf 2011.
  12.  Rupert Guinness (24 Gorffennaf 2011). Awesome Evans destroys rivals to claim tour. The Sydney Morning Herald. Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2011.
  13.  Cadel Evans support Free Tibet (2008).
  14. 14.0 14.1  Photo of Cadel Evans with Flag of Tibet. Phayul.com (22 Gorffennaf 2008).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: