Crys Melyn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Maillot jaune)
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
Mathgwobr, teitl, Q5990143 Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y crys melyn

Y Crys Melyn (Ffrangeg: Maillot Jaune) yw'r crys a wisgir gan arweinydd dosbarthiad cyffredinol sawl ras seiclo, y mwyaf o nôd, a'r cyntaf i'w gyflwyno yw'r Tour de France. Mae'n galluogi i'r reidiwr sy'n arwain ras sawl cymal i allu gael ei adnabod yn hawdd yng nghanol y grŵp.

Sut mae'n cael ennill[golygu | golygu cod y dudalen]

Penderfynir enillydd y Tour de France, a rasys seiclo sawl cymal eraill, gan weithio allan cyfanswm yr amser a gymerodd reidiwr i gwblhau pob cymal. Gall amser gael ei ychwanegu neu'i dynnu o'r cyfanswm fel bonws am ennill cymal neu gyrraedd brig mynydd gyntaf, neu fel cosb am dorri'r rheolau. Y reidiwr sydd â'r cyfanswm lleiaf o amser ar ddiwedd pob cymal sy'n derbyn y crys melyn mewn seremoni, ac mae ganddo'r hawl i wisgo'r crys yn y cymal canlynol.[1] Y reidiwr sy'n derbyn y crys melyn ar ôl y cymal olaf, yw enillydd cyffredinol y ras.

Nid yw'r crys yn felyn ar gyfer pob ras, gan y dewisir y lliw gan drefnwyr y ras. Er enghraifft, mae'r Tour of California a'r Vuelta a España yn defnyddio crys lliw aur, mae'r Giro d'Italia yn defnyddio pinc, ac mae'r Tour Down Under yn defnyddio lliw ocr.

Tarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhwymyn gwyrdd o amgylch y braich ac nid crys melyn y gwisgodd enillydd y Tour de France cyntaf.[2] Mae amheuaeth ynglyn a phryd y cyflwynwyd y crys melyn gyntaf. Enillodd y seiclwr Belgaidd Philippe Thys y Tour yn 1913, 1914 a 1920, ac fe adroddodd ei atgofion yng nghylchgrawn Belgaidd Champions et Vedettes pan oedd yn 67, a dywedodd y gwisgodd ef grys melyn yn 1913 pan ofynnodd y trefnydd, Henri Desgrange, iddo wisgo crys lliw. Gwrthododd Thys, gan ddweud y buasai gwneud ei hun yn fwy amlwg yn hybu'r reidwyr eraill i reidio yn ei erbyn.[2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Regulations of the race. ASO/letour.fr.
  2. 2.0 2.1 Les Woodland (gol.) Yellow Jersey Companion to the Tour de France, Yellow Jersey, y Deyrnas Unedig, 2007
  3. Chany, Pierre (1997) La Fabuleuse Histoire du Tour de France, gol. de la Martinière, France.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]