Pinc

Oddi ar Wicipedia
Yn y mwyafrif o ieithoedd Ewropeaidd, mae pinc yn cael ei alw'n rose neu rosa, ar ol y blodyn.

Lliw coch golau, gwan neu ysgafn yw pinc.[1] Mae'r gair Saesneg 'pink' yn tarddu o liw'r blodyn o'r un enw (Dianthus̠), ond mae hwnnw'n cael ei alw yn penigan yn hytrach na phinc yn Gymraeg.[2][3] Mewn nifer fawr o ieithoedd Ewropeaidd, mae pinc yn cael ei alw'n rose neu rosa ar ôl y rhosyn, ac mae rhosliw hefyd wedi'i ddefnyddio yn y Gymraeg.[1] Yn y Saesneg, dechreuodd y gair gael ei ddefnyddio i gyfeirio at y lliw yn ystod y 17g.[4] Daw un o'r enghreifftiau cynharaf ohono yn y Gymraeg o ddisgrifiad William Williams (Pantycelyn) o'r Aurora Borealis yn 1774.[1] Yn ôl arolygon yn Ewrop a'r Unol Daleithiau, mae'r lliw yn cael ei gysylltu yn aml â dengarwch, boneddigeiddrwydd, sensitifrwydd, tynerwch, anwylder, plentyndod, benyweiddiwch a'r rhamantus. Mae cyfuniad o binc a gwyn yn cael eu cysylltu â diweirdeb a diniweidrwydd, tra bod cyfuniad o binc a du yn cael ei gysylltu ag erotiaeth ac atyniad.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2  pinc. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  2. Shorter Oxford English Dictionary, 5ed arg.
  3. Webster New World Dictionary, Third College Edition: "Any of a genus (Dianthus) of annual and perennial plants of the pink family with white, pink or red flowers; its pale red color."
  4. "pink, n.⁵ and adj.²", Oxford English Dictionary Online
  5. Eva Heller, Psychologie de la couleur – effets et symboliques, tt. 179-184