Tour de France 2015

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Map o lwybr Tour de France 2015

Tour de France 2015 oedd y 102il ras yn hanes y Tour de France. Dechreuodd y ras yn Utrecht, yr Iseldiroedd ar 4 Gorffennaf 2015, cyn teithio drwy Wlad Belg a dychwelodd i Ffrainc wrth i'r pedwerydd cymal orffen yn Cambrai.[1] Dyma 18fed ras Taith y Byd UCI, 2015.[2] Yn cymryd rhan o Gymru roedd Luke Rowe a Geraint Thomas, dyma'r tro cyntaf erioed i ddau Gymro gychwyn y ras.

Hon oedd y chweched tro i'r Tour de France gychwyn yn yr Iseldiroedd, yn dilyn 1954 (Amsterdam), 1973 (Scheveningen), 1978 (Leiden), 1996 ('s-Hertogenbosch) a 2010 (Rotterdam). Mae hyn yn record ar gyfer gwlad sydd ddim yn ffinio'n uniongyrchol â Ffrainc.

Rheolau newydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ail-gyflwynwyd bonws amser ar gyfer rhifyn 2015 o'r ras. Yn rhan gyntaf y ras, o gymal 2 hyd 8, bydd y tri cyntaf i groesi'r llinell yn derbyn bonws o 10, 6 a 4 eiliad yr un. Ni wobrwyir bonws ar gyfer cymal treial amser. Newidir system bwyntiau'r gystadleuaeth gwibio yn ogystal: gwobrwyir 50 pwynt yn hytrach na 45 am fuddugoliaeth, 30 yn hytrach na 35 pwynt ar gyfer ail safle, ac 20 yn hytrach na 30 ar gyfer trydydd safle. Bwriad y newidiadau yw i wneud buddugoliaeth mewn cymal yn fwy werthfawr.[3] Dim ond chwe cymal gwastad y Tour a gaiff eu heffeithio gan y newid hwn (cymalau 2, 5, 6, 7, 15 a 21). Mewn saith o'r cymalau (y cymal â choblau a'r chwe cymal mwy fryniog, sef 3, 4, 8, 10, 13, 14 ac 16) bydd yr enillydd yn derbyn 30 pwynt, 25 ar gyfer yr ail, ac yn y blaen.[4] Yn y cymalau mynyddig a'r treial amser, (cymalau 1, 11, 12, 17, 18, 19, 20) rhoddir 20 pwynt i'r enillydd. Ni wobwyir unrhyw bwyntiau ar gyfer cymal 9, sef y treial amser tîm.[5]

Y Timau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae disgwyl i bob un o'r 17 tîm ar Gylchdaith Broffesiynol yr UCI gymryd rhan yn y ras ac mae trefnwyr y ras hefyd wedi rhoi gwahoddiad i bum tîm sy'n rasio ar yr haen nesaf o feicio proffesiynol. Timau "World Tour"

Ag2r-La Mondiale
Astana
BMC Racing Team
Cannondale-Garmin
Etixx-Quick Step
FDJ
Giant-Alpecin
IAM Cycling
Team Katusha
Lampre-Merida
LottoNL-Jumbo
Lotto-Soudal
Movistar Team
Orica-GreenEDGE
Team Sky
Tinkoff-Saxo
Trek Factory Racing

Timau proffesiynol cyfandirol

Bora-Argon 18
Bretagne-Séché Environnement
Cofidis
Team Europcar
MTN-Qhubeka

†: timau sydd wedi derbyn gwahoddiad

Y ffefrynnau cyn y ras[golygu | golygu cod y dudalen]

Y ffefrynnau i ennill y dosbarthiad cyffredinol: Vincenzo Nibali, Chris Froome, Alberto Contador a Nairo Quintana.

Vincenzo Nibali o dîm Astana, oedd un o'r ffefrynnau i ennill y ras, gan mai ef a enillodd y flwyddyn gynt. Ymysg y ffefrynnau hefyd oedd Chris Froome[6] (Sky), Alberto Contador (Tinkoff-Saxo) a Nairo Quintana (Movistar Team). Enillydd 2007 a 2009 oedd Contador ac enillydd 2013 oedd Froome, a oedd yn dychwelyd wedi iddo ymddeol o ras 2014 yn dilyn damwain, tra na chystadlodd Quintana yn 2014 yn dilyn ei fuddugoliaeth yn Giro d'Italia 2014. Roedd Contador wedi ennill Giro d'Italia 2015, ac yn anelu i fod y reidiwr cyntaf ers Marco Pantani ym 1998, i gyflawni'r gamp ddwbl o ennill y Giro a'r Tour yr un flwyddyn. Bu hefyd yn anelu at ddal teitl y tri Grand Tour yr un pryd, wedi iddo ennill Vuelta a España 2014.[7][8]

Roedd cystadleuwyr eraill o nôd yn cynnwys Tejay van Garderen (BMC Racing Team), Thibaut Pinot (FDJ) a orffennodd ar y podiwm yn 2014, Alejandro Valverde (Movistar Team), Rui Costa (Ag2r-La Mondiale), Joaquim Rodríguez (Team Katusha) ac enillydd Giro d'Italia 2012 Ryder Hesjedal (Cannondale-Garmin).[9][10]

Y ffefrynnau i ennill y cymalau oedd Mark Cavendish (Etixx-Quick Step), a oedd wedi profi ei ffitrwyd yn 2015 drwy ennill 12 sbrint mewn amryw o rasys a dosbarthiad cyffredinol Dubai Tour. Un o'r cystadlwyr eraill oedd Alexander Kristoff (Team Katusha), gyda 18 buddugoliaeth yn 2015 hyd y Tour. Roedd Andre Greipel (Lotto-Soudal), hefyd yn dod â'i drên arwain i'r Tour, fel Cavendish, gyda Peter Sagan (Tinkoff-Saxo) yn debygol o gipio nifer o'r sbrintiau yn y bryniau, lle byddai llai o sbrintiau, ac yntau wedi dangos ei fod yn gryfach na'r sbrintwyr eraill dros fryniau bychain yn y gorffennol. Roedd Sagan hefyd wedi cipio'r crys gwyrdd am dair mlynedd yn ganlynol, ond bydd hynnu'n anoddach yn 2015 oherwydd y newid i'r rheolau, a'r ffaith mai ei swyddogaeth arall wrth reidio'r Tour oedd gefnogi arweinydd y tîm, Contador.[11][12] Yn nodweddiadol hefydd oedd absenoldeb Marcel Kittel, a enillodd y nifer fwyaf o gymalau yn 2014, oherwydd diffyg ffitrwydd.[13]

Cymalau[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhestr Cymalau[14]
Cymal Dyddiad Cwrs Pellter Math Enillydd
1 4 Gorffennaf Utrecht – Utrecht 13.8 km (9 mi) Time Trial.svg Treial amser unigol Baner Awstralia Rohan Dennis
2 5 Gorffennaf Utrecht – Neeltje Jans 166 km (103 mi) Cymal gwastad Baner Yr Almaen André Greipel
3 6 Gorffennaf Antwerp – Huy
159.5 km (99 mi) Cymal mynyddig canolig Baner Sbaen Joaquim Rodríguez
4 7 Gorffennaf Seraing – Cambrai
223.5 km (139 mi) Cymal gwastad with cobblestones Baner Yr Almaen Tony Martin
5 8 Gorffennaf Arras – Amiens
189.5 km (118 mi) Cymal gwastad Baner Yr Almaen André Greipel
6 9 Gorffennaf Abbeville – Le Havre
191.5 km (119 mi) Cymal gwastad Baner Gweriniaeth Tsiec Zdeněk Štybar
7 10 Gorffennaf Livarot – Fougères
190.5 km (118 mi) Cymal gwastad Baner Prydain Fawr Mark Cavendish
8 11 Gorffennaf Rennes – Mûr-de-Bretagne
181.5 km (113 mi) Cymal mynyddig canolig Baner Ffrainc Alexis Vuillermoz
9 12 Gorffennaf Vannes – Plumelec
28 km (17 mi) Time Trial.svg Treial amser tîm BMC Racing Team
13 Gorffennaf Diwrnod gorffwys (Pau)
10 14 Gorffennaf Tarbes – La Pierre Saint Martin
167 km (104 mi) Cymal mynyddig Baner Prydain Fawr Chris Froome
11 15 Gorffennaf Pau – Cauterets
188 km (117 mi) Cymal mynyddig Baner Gwlad Pwyl Rafał Majka
12 16 Gorffennaf Lannemezan – Plateau de Beille
195 km (121 mi) Cymal mynyddig Baner Sbaen Joaquim Rodríguez
13 17 Gorffennaf Muret – Rodez
198.5 km (123 mi) Cymal mynyddig canolig Baner Gwlad Belg Greg Van Avermaet
14 18 Gorffennaf Rodez – Mende
178.5 km (111 mi) Cymal mynyddig canolig Baner Prydain Fawr Steve Cummings
15 19 Gorffennaf Mende – Valence
183 km (114 mi) Cymal bryniog Baner Yr Almaen André Greipel
16 20 Gorffennaf Bourg-de-Péage – Gap
201 km (125 mi) Cymal mynyddig canolig Baner Sbaen Rubén Plaza
21 Gorffennaf Diwrnod gorffwys (Gap)
17 22 Gorffennaf Digne-les-Bains – Pra Loup
161 km (100 mi) Cymal mynyddig Baner Yr Almaen Simon Geschke
18 23 Gorffennaf Gap – Saint-Jean-de-Maurienne
186.5 km (116 mi) Cymal mynyddig Baner Ffrainc Romain Bardet
19 24 Gorffennaf Saint-Jean-de-Maurienne – La Toussuire – Les Sybelles
138 km (86 mi) Cymal mynyddig Baner Yr Eidal Vincenzo Nibali
20 25 Gorffennaf Modane – Alpe d'Huez
110.5 km (69 mi) Cymal mynyddig Baner Ffrainc Thibaut Pinot
21 26 Gorffennaf Sèvres – Paris
109.5 km (68 mi) Cymal gwastad Baner Yr Almaen André Greipel

Arweinwyr y dosbarthiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Geraint Thomas

Roedd pedwar prif ddosbarth yn y Tour de France 2015 gyda'r dosbarthiad cyffredinol (Ffrengig: classement général) y pwysicaf. Cyfrifir y dosbarthiad cyffredinol trwy adio amser pob beiciwr ar ddiwedd pob cymal. Y beiciwr gyda'r cyfanswm isaf o amser yw arweinydd y ras ac sy'n cael yr hawl i wisgo'r Crys Melyn (Ffrangeg: Maillot Jaune).[15][16]

Yn y dosbarthiad pwyntiau, lle mae'r arweinydd yn gwisgo'r Crys Gwyrdd (Ffrangeg: Maillot Vert) mae'r beicwyr yn casglu pwyntiau am orffen ymysg y goreuon ar ddiwedd cymal a hefyd mewn rasys gwibio sydd yn digwydd mewn mannau penodol yn ystod pob cymal.

Ceir pwyntiau tuag at y Crys Dot Polca (Ffrangeg: Maillot à Pois) am gyrraedd copâu'r gwahanol ddringfeydd ar bob cymal. Ceir gwahanol gategoriau o ddringfeydd gyda'r hors catégorie - y categori uchaf - yn werth mwy o bwyntiau na'r dringfeydd categori cyntaf, ail, trydydd neu bedwerydd.

Nodir y beiciwr ifanc gorau yn y ras gyda'r Crys Gwyn (Ffrangeg: Maillot Blanc) sy'n cael ei roi i'r beiciwr uchaf yn y dosbarthiad cyffredinol sydd wedi eu geni ar ôl neu ar 1 Ionawr 1989.

Ar gyfer dosbarthiad tîm, cymerir amser y tri beiciwr cyntaf o bob tîm i orffen pob cymal; y tîm sydd ar y blaen yw'r tîm sydd â'r cyfanswm amser lleiaf. Mae'r tîm sy'n arwain y dosbarthiad tîm yn gwisgo rhifau gyda chefndir melyn ar eu cefnau.

Mae rheithgor yn cyfarfod ar ôl pob cymal, heblaw treial amser a'r cymal derfynnol, er mwyn pleidleisio dros y beiciwr maent yn ei ystyried sydd wedi brwydro'n fwy nag unrhyw un arall yn ystod y dydd.[16] Yn ystod y cymal canlynol, mae'r enillydd yn gwisgo rhif gyda chefndir coch ar ei gefn, yn hytrach nag un gwyn. Ar ddiwedd y Tour de France, y reidiwr gyda'r cyfanswm mwyaf o bleidleisiau dros pob cymal sy'n cael ei adnabod fel y reidwr mwyaf brwydrol.[16]

Cymal Enillydd Dosbarthiad cyffredinol
Jersey yellow.svg
Maillot jaune
Dosbarthiad Pwyntiau
Jersey green.svg
Maillot vert
Brenin y Mynyddoedd
Jersey polkadot.svg
Maillot à pois rouges
Reidiwr Ifanc
Jersey white.svg
Maillot blanc
Dosbarthiad Tîm
Jersey yellow number.svg
Classement par équipe
Gwobr Brwydrol
Jersey red number.svg
Prix de combativité
1 Rohan Dennis Rohan Dennis Rohan Dennis dim gwobr Rohan Dennis LottoNL-Jumbo dim gwobr
2 André Greipel Fabian Cancellara André Greipel Tom Dumoulin BMC Racing Team Michał Kwiatkowski
3 Joaquim Rodríguez Chris Froome Joaquim Rodríguez Peter Sagan Jan Bárta
4 Tony Martin Tony Martin Vincenzo Nibali
5 André Greipel Michael Matthews
6 Zdeněk Štybar Daniel Teklehaimanot Perrig Quéméneur
7 Mark Cavendish Chris Froome Anthony Delaplace
8 Alexis Vuillermoz Peter Sagan Bartosz Huzarski
9 BMC Racing Team dim gwobr
10 Chris Froome André Greipel Chris Froome Nairo Quintana Team SKY Kenneth Vanbilsen
11 Rafał Majka Peter Sagan Dan Martin
12 Joaquim Rodríguez Movistar Team Michał Kwiatkowski
13 Greg Van Avermaet Thomas De Gendt
14 Steve Cummings Pierre-Luc Périchon
15 André Greipel Peter Sagan
16 Rubén Plaza Peter Sagan
17 Simon Geschke Simon Geschke
18 Romain Bardet Joaquim Rodríguez Romain Bardet
19 Vincenzo Nibali Romain Bardet Pierre Rolland
20 Thibaut Pinot Chris Froome Alexandre Geniez
21 André Greipel dim gwobr
Terfynol Chris Froome Peter Sagan Chris Froome Nairo Quintana Movistar Team Romain Bardet

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Tour de France 2015 to start in Utrecht". cyclingnews.com. 8 November 2014. http://www.cyclingnews.com/news/tour-de-france-2015-to-start-in-utrecht. Adalwyd 8 January 2015.
  2. "2015 UCI Calendar". UCI. http://www.uci.ch/road/calendar/detail#date=20150701&view=list&categ=257&country=0&classc=0. Adalwyd 4 Ionawr 2015.
  3. Hood, Andrew. "Tour de France resurrects time bonuses, reshuffles points competition". http://velonews.competitor.com/2014/10/news/tour-de-france-resurrects-time-bonuses-reshuffles-points-competition_350373. Adalwyd 25 March 2015.
  4. "The changing face of the Tour de France’s green jersey". Cyclingnews.com (Immediate Media Company). 24 June 2015. http://www.cyclingnews.com/features/the-changing-face-of-the-tour-de-frances-green-jersey. Adalwyd 24 June 2015.
  5. Arts, Ruud (30 June 2015). "Tour de France 2015 Preview: Sprinters and the Points Classification". cyclingupdates.com. http://www.cyclingupdates.com/tour-de-france-2015-preview-sprinters-and-the-points-classification/. Adalwyd 30 June 2015.
  6. Axelgaard, Emil (30 June 2015). "Tour de France: The favourite". Cycling Quotes (CyclingQuotes.com 2013). http://www.cyclingquotes.com/news/2015_tour_de_france_the_favourite/. Adalwyd 30 June 2015.
  7. Lindsay, Joe (25 June 2015). "How Oddsmakers Rank the 2015 Tour de France Contenders". Bicycling (Rodale, Inc.). http://www.bicycling.com/racing/2015-tour-de-france/how-oddsmakers-rank-2015-tour-de-france-contenders. Adalwyd 30 June 2015.
  8. Axelgaard, Emil (30 June 2015). "Tour de France: The main challengers". Cycling Quotes (CyclingQuotes.com 2013). http://www.cyclingquotes.com/news/2015_tour_de_france_the_main_challengers/. Adalwyd 30 June 2015.
  9. Yost, Whit (8 June 2015). "What’s up with the 2015 Tour de France Contenders?". Bicycling (Rodale, Inc.). http://www.bicycling.com/racing/2015-tour-de-france/what-s-2015-tour-de-france-contenders. Adalwyd 29 June 2015.
  10. Axelgaard, Emil (30 June 2015). "Tour de France: The potential winners". Cycling Quotes (CyclingQuotes.com 2013). http://www.cyclingquotes.com/news/2015_tour_de_france_the_potential_winners/. Adalwyd 30 June 2015.
  11. "Who Will Win The Green Jersey?". http://inrng.com/. 30 June 2015. http://inrng.com/2015/06/tour-points-competition-preview/. Adalwyd 30 June 2015.
  12. "Tour de France: Tinkoff-Saxo target yellow and green with Contador and Sagan". Cyclingnews.com (Immediate Media Company). 29 June 2015. http://www.cyclingnews.com/news/tour-de-france-tinkoff-saxo-target-yellow-and-green-with-contador-and-sagan. Adalwyd 29 June 2015.
  13. O'Shea, Sadhbh (25 June 2015). "Marcel Kittel will not ride Tour de France". Cyclingnews.com (Immediate Media Company). http://www.cyclingnews.com/news/marcel-kittel-will-not-ride-tour-de-france. Adalwyd 25 June 2015.
  14. "2014 Route". Le Tour. http://www.letour.com/le-tour/2014/us/overall-route.html. Adalwyd 3 Gorff 2014.
  15. Wynn, Nigel (1 July 2015). "Tour de France: The jerseys". Cycling Weekly (Time Inc. UK). http://www.cyclingweekly.co.uk/racing/tour-de-france/tour-de-france-the-jerseys-59552. Adalwyd 12 July 2015.
  16. 16.0 16.1 16.2 "Sporting stakes / rules". Tour De France. ASO. http://www.letour.com/le-tour/2015/us/sporting-stakes-rules.html. Adalwyd 12 July 2015.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

1903· 1904· 1905· 1906· 1907· 1908· 1909· 1910· 1911· 1912· 1913· 1914
1915-1918 Gohirwyd oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
1919· 1920· 1921· 1922· 1923· 1924· 1925· 1926· 1927· 1928· 1929·
1930· 1931· 1932· 1933· 1934· 1935· 1936· 1937· 1938· 1939
1940-1946 Gohirwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1947· 1948· 1949· 1950· 1951· 1952· 1953· 1954· 1955· 1956· 1957· 1958· 1959· 1960· 1961· 1962· 1963· 1964· 1965· 1966· 1967· 1968· 1969· 1970· 1971· 1972· 1973· 1974· 1975· 1976· 1977· 1978· 1979· 1980· 1981· 1982· 1983· 1984· 1985· 1986· 1987· 1988· 1989· 1990· 1991· 1992· 1993· 1994· 1995· 1996· 1997· 1998· 1999· 2000· 2001· 2002· 2003· 2004· 2005· 2006· 2007· 2008· 2009· 2010· 2011· 2012· 2013· 2014· 2015