Tejay van Garderen

Oddi ar Wicipedia
Tejay van Garderen
Van Garderen yn Tour de France 2012
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnTejay van Garderen
Dyddiad geni (1979-06-22) 22 Mehefin 1979 (44 oed)
Taldra1.85 m
Pwysau67 kg
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Math seiclwrCyffredinol
Tîm(au) Amatur
Tîm(au) Proffesiynol
2008–2009
2010–2011
2012–
Golygwyd ddiwethaf ar
24 Gorffennaf 2012

Seiclwr proffesiynol Americanaidd ydy Tejay van Garderen (ganed 12 Awst 1988), sy'n arbennigo mewn rasio ffordd.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Blynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed van Garderen yn Tacoma, Washington, yr UDA, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i bblentyndon yn Bozeman, Montana. Daw o ddisgyniad Iseldiraidd a siaradai Iseldireg yn weddol dda, wedi iddo dreulio ei ddwy flwyddyn gyntaf proffesiynol gyda'r tîm Iseldiraidd, Rabobank. Dechreuodd seiclo pan oedd yn 10 oed. Pan oedd yn 14, bu bron iddo guro'r marc dwy awr ar esgyniad Mount Evans, allt 28 milltir sy'n codi 7,000 troedfedd.[2] Enillodd 10 teitl cenedlaethol iau ar y ffordd (ras ffordd, ras gylchffordd a treial amser) a cyclo-cross.[3] Yn ei arddegau, reidiodd dros dimau datblygu Team Rio Grande Racing (2004–2005; Fort Collins, Colorado)[4] a Team 5280 Magazine (2005–2006, rhan o Garmin-Sharp erbyn hyn; Boulder, Colorado).[5]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Odan 23 (2007–2009)[golygu | golygu cod]

Un o rasys pwysig cyntaf van Garderen wedi iddo droi'n 18, oedd yr Amgen Tour of California yn 2007, lle gystadlodd fel aelod o'r tîm cenedlaethol. Tynnodd allan o'r ras yn ystod cymal 4.[6] Bu'n cystadlu yn yr Unol Daleithiau ac Ewrop yn 2007, gan ddod yn 20fed yn y Tour de l'Avenir

Ymunodd van Garderen â tîm Rabobank Continental yn 2008, a symudodd i fyw i'r Iseldiroedd. Cystadlodd yn y Flèche du Sud a Circuito Montañes. Enillodd gymal o'r Tour de l'Avenir a gorffennodd yn 24ydd ym Mhencampwriaethau Ras Ffordd y Byd odan 23 yn Varese, yr Eidal.

HTC-Columbia (2010–2011)[golygu | golygu cod]

Symudodd van Garderen i Team HTC-Columbia y flwyddyn canlynol.[7] Daeth yn 9fed yn ei ras gymalog cyntaf, y Volta ao Algarve, a daeth yn 5ed ar y cymal a orffennodd ar gopa Alto do Malhao. Yn Tour Twrci 2010, daeth yn ail mewn dau gymal yn ogystal ag ail yn y dosbarthiad cyffredinol, 29 eiliad tu ôl i Giovanni Visconti.

Cefnogodd van Garderen arweinydd y tîm Michael Rogers yn ystol cymalau 6 ac 8 Tour of California 2010. Gorffennod yn 28fed wedi helpu Rogers ennill.

Dechreuodd van Garderen Critérium du Dauphiné 2010 fel cyd-arweinydd HTC-Columbia gyda Kanstantsin Siutou a Peter Velits. Wedi bron a curo Alberto Contador yn y prologue, daeth yn 4ydd yn nhreial amser cymal 3 gan symyd fyny i'r ail safle yn y dosbarthiad cyffredinol. Fe gollodd amser yn y mynyddoedd gan orffen yn y 3ydd safle.

Reidiodd van Garderen yn gryf yn ystod pythefnos cyntaf Vuelta a España, a bu'n domestique gwerthfawr i Peter Velits a orffennodd yn drydydd.

Yn 2011, daeth van Garderen yn ail ar gymal 3 y Volta ao Algarve[8] ac ail safle yn prologue Tour of Switzerland (tu ôl i Fabian Cancellara).[9] Enillodd grys reidiwr ifanc gorau'r Tour of California wedi perfformiad cryf a chyson.

Dewiswyd ef fel aelod o'r tîm ar gyfer Tour de France 2011. Hon oedd Tour de France cyntaf van Garderen, ac roedd yn reidio i gefnogi Tony Martin a Peter Velits.[10] Yn yr wythfed cymal, cipiodd van Garderen ddigon o bwyntiau ar esgyniad Categori 2 er mwyn ennill y brig yn nosbarthiad Brenin y Mynyddoedd, a chael ei enwebu'n reidiwr mwyaf brwydrol y cyml hwnnw. Ef oedd yr Americanwr cyntaf erioed i wisgo'r crys dot polca ar gyfer Brenin y Mynyddoedd yn y Tour de France (arweiniodd Greg LeMond y dosbarthiad am gyfnod byr yn ystod Tour de France 1986, ond gan y bu'n gwisgo'r crys melyn ar y pryd, ni wisgodd y crys dot polca). Yn ystod cymal 8 hefyd, y cyfeirwyd ato fel y "Bozeman Boss" gan y sylwebydd Phil Liggett.[11] Yn y Tour of Utah, enillodd van Garderen dreial amser y trydydd cymal.[12]

Van Garderen ar gymal 9, Tour de France 2012.

BMC Racing Team (2012–)[golygu | golygu cod]

Wedi i HTC-Highroad ddod i ben, ymunodd van Garderen â BMC Racing Team ynghyd â'i gyd-aelod tîm o HTC, Marco Pinotti.[1] Enillodd van Garderen crys y reidiwr ifanc gorau yn ras Paris–Nice yn gynnar ym mis Mawrth,[13] wedi iddo wisgo'r crys drwy gydol y ras.

Dewiswyd van Garderen i gystadlu yn y Tour de France fel un o'r prif domestiques ar gyfer enillydd y flwyddyn gynt, Cadel Evans. Perfformiodd yn gryf yn ystod yr wythnos gyntaf, gan ddod yn bedwerydd yn y prologue a gwisgo'r crys gwyn - ar gyfer y rediwr ifanc gorau odan 25 yn y dosbarthiad cyffredinol - tan cymal 7, pan gollodd llawer o amser wrth i'r cymal orffen ar gopa. Ail-gipiodd y crys pan orffennodd yn bedwerydd ar gymal 9, treial amser unigol. Ar gymal 11, ceisiodd van Garderen helpu Evans i ymosod oddiar flaen y peleton, ond roedd yn gryfach nag ef, a bu iddo arwain ei arweinydd i'r copa yn hytrach.

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

2000
1af Pencampariaethau Cenedlaethol Ras Cylchffordd yr UDA (10–12)
1af Pencampariaethau Cenedlaethol Treial Amser yr UDA (10–12)
1af Pencampariaethau Cenedlaethol Ras Ffordd yr UDA (10–12)
2002
1af Pencampariaethau Cenedlaethol Cyclo-cross yr UDA (13–14)
2003
1af Pencampariaethau Cenedlaethol Cyclo-cross yr UDA (15–16)
1af Pencampariaethau Cenedlaethol Treial Amser yr UDA (15–16)
2004
1af Pencampariaethau Cenedlaethol Ras Ffordd yr UDA (15–16)
1af Pencampariaethau Cenedlaethol Treial Amser yr UDA (15–16)
2il Pencampariaethau Cenedlaethol Ras Cylchffordd yr UDA (15–16)
2005
1af Pencampariaethau Cenedlaethol Ras Cylchffordd yr UDA (Iau)
2nd Pencampariaethau Cenedlaethol Ras Ffordd yr UDA (Iau)
3ydd Pencampariaethau Cenedlaethol Treial Amser yr UDA (Iau)
1af Cymal 2, Driedaagse van Axel
2006
1af Pencampariaethau Cenedlaethol Treial Amser yr UDA (Iau)
2il Tour du Pays de Vaud
3ydd Tour de Lorraine
2007
1af Cymal 2 Treila amser tîm, Fayetteville Stage Race
2008
1af Cymal 5a Treila amser tîm, Volta a Lleida
2il Fleche du Sud
1af Cymal 1
2il Curcuito Montañes
2il GP Tell
1af Cymal 3
8fed Tour de l'Avenir
1af Cymal 9
2009
1af Tour du Haut Anjou
1af Circuito Montañes
2il Tour des Pays de Savoie
2il Tour de l'Avenir
3ydd Olympia's Tour
1af Cymal 1 Treila amser tîm
1af Cymal 5
7fed Vlaamse Pijl – Harelbeke
2010
1af Cymal 1 (Treila amser tîm) Vuelta a Espana
2il Tour Twrci
3ydd Criterium du Dauphine
4ydd Tour de l'Ain
1af Dosbarthiad reidiwr ifanc
9fed Volta ao Algarve
2011
1af Cymal 3 (treial amser) Tour of Utah
2il Volta ao Algarve
3ydd USA Pro Cycling Challenge
1af Dosbarthiad reidiwr ifanc
5edTour of California
1af Dosbarthiad reidiwr ifanc
2012
4ydd Tour of California
5ed Tour de France
1af Dosbarthiad reidiwr ifanc
5ed Paris–Nice
1af Dosbarthiad reidiwr ifanc

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "BMC signs Pinotti and Van Garderen", Cycling News, Future Publishing Limited, 1 Medi 2011.
  2.  Mt Evans. bicyclerace.com (25 Gorffennaf 2003).
  3. Teejay van Garderen Interview Archifwyd 2014-07-14 yn y Peiriant Wayback., Velocity Nation
  4.  About The Team : Team Rio Grande. Riograndecycling.com. Adalwyd ar 22 Awst 2011.
  5.  Junior men criterium, 25km - Van Garderen makes it 10. Cycling News (25 June 2005). Adalwyd ar 22 Awst 2011.
  6.  Two world champs go one-two in SLO - Tour of California, Stage 4. CyclingNews (22 Chwefror 2007).
  7.  American Tejay Van Garderen will join Columbia-Highroad next year. VeloNews (Mehefin 2006).
  8.  Tejay Van Garderen – Team HTC – Highroad. Highroadsports.com. Adalwyd ar 22 Awst 2011.
  9.  AFP: Cancellara wins Tour of Switzerland opening TT. Google.com (9 Mehefin 2011). Adalwyd ar 22 Awst 2011.
  10.  Van Garderen To Support Cavendish And Martin At Tour De France. Cyclingnews.com (29 Mehefin 2011). Adalwyd ar 22 Awst 2011.
  11.  One and Done?. Bicycling Magazine. Adalwyd ar 22 Awst 2011.
  12.  Tour of Utah: Tejay Van Garderen gets a birthday present with stage win. The Salt Lake Tribune. Adalwyd ar 22 Awst 2011.
  13. "Wiggins not so easy on Eze", Paris–Nice, Amaury Sport Organisation, 11 Mawrth 2012.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]