Martigny
| Math | bwrdeistref y Swistir, dinas yn y Swistir |
|---|---|
| Poblogaeth | 18,301 |
| Pennaeth llywodraeth | Anne-Laure Couchepin Vouilloz |
| Cylchfa amser | UTC+01:00 |
| Gefeilldref/i | Vaison-la-Romaine, Sursee, Aosta |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Valais |
| Sir | Martigny District |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 24.97 km², 25 km² |
| Uwch y môr | 471 metr |
| Gerllaw | Afon Rhône, Drance, Trient |
| Yn ffinio gyda | Vernayaz, Dorénaz, Fully, Charrat, Vollèges, Bovernier, Martigny-Combe, Salvan |
| Cyfesurynnau | 46.1°N 7.0728°E |
| Cod post | 1920 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Anne-Laure Couchepin Vouilloz |
![]() | |
Dinas yng nghanton Valais yn y Swistir yw Martigny. Hi yw ail dref y canton o ran maint, gyda phoblogaeth o 16,339 yn 2007. Saif ar y ffyrdd sy'n arwain i ddau o fulchau pwysicaf yr Alpau, Bwlch Sant Bernard Mawr a Bwlch Simplon.
Sefydlwyd y dref yn y cyfnod Rhufeinig ar safle Oppidum neu vicus Octodure Celtaidd yn perthyn i'r Veragres. Ymladdwyd brwydr Octodure yma yn 56 CC rhwng y lleng Rufeinig Legio XII Fulminata dan Servius Galba a'r Veragres a'u cyngheiriaid y Sedunes a'r Nantuates. Sefydlodd yr ymerawdwr Claudius ddinas Rufeinig yma yn 47 OC dan yr enw Forum Claudii Augusti, a newidiwyd yn fuan i Forum Claudii Vallensium. Ceir oluion amffitheatr mewn cyflwr da yma.
Mae twristiaeth ac amaethyddiaeth, yn arbennig tyfu gwinwydd, yn bwysig yma.
