Kraftwerk

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Kraftwerk
Kraftwerk, Manchester International Festival 2009 (2).JPG
Kraftwerk, Manceinion, 2009
Gwybodaeth gefndirol
Man geni Baner Yr Almaen Düsseldorf
Cerddoriaeth electronig
Synthpop
Krautrock/arbrofol (cyfnod cynnar)
Blynyddoedd 1970–
Label(i) recordio Kling Klang
EMI
Astralwerks
Cleopatra
Elektra
Warner Bros.
Capitol
Vertigo
Philips
Cysylltiedig Organisation
Neu!
Karl Bartos
Wolfgang Flür
Gwefan http://www.Kraftwerk.com
Cyn aelodau
Florian Schneider-Esleben
Karl Bartos
Klaus Dinger
Wolfgang Flür
Andreas Hohmann
Klaus Röder
Michael Rother

Band electronig Almaenig dylanwadol yw Kraftwerk (yr enw yn golygu "Gorsaf bŵer").

Daw'r band o Düsseldorf, yr Almaen. Mae sain nodweddiadol Kraftwerk yn cyfuno rythm pwerus sy'n ailadrodd gyda melodi bachog, gan ddilyn steil harmoni clasurol y Gorllewin, yn minimalaidd a gyda offeryanu electronig yn unig.

Roedd Kraftwerk yn un o'r grwpiau cyntaf i arbrofi gyda syntheseiswyr a pheiriannau drwm gan greu rhai eu hunain cyn iddynt fod ar gael i'w prynu.

Maent wedi ysbrydoli grwpiau di-ri, a nifer fawr o genres cerddorol yn cynnwys pop, rap a techno. Mae Kraftwerk yn un o ychydig o grwpiau gwyn sydd wedi dylanwadau, wedi'u copïo a samplo gan grwpiau Affro-Americaniad, yn groes i'r arfer o grwpiau gwynion yn copïo cerddoriaeth ddu.

Fel dywedodd yr awdur Paul Morley: Ar ôl degawdau o gerddorion gwyn yn benthyg o gerddoriaeth du, efallai Kraftwerk yw'r cerddorion gwyn cyntaf i ail-dalu'r gymwynas a rhoi rhywbeth yn ôl. [1]

Dyddiau cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Kraftwerk gan Ueli Frey (1976)
Vocoder a wedi'i adeiladu gan Kraftwerk eu hunain ar ddecharu'r 1970au

Roedd grwpiau Almaenig ar ddiwedd y 1960au a dechrau'r 1970au yn chwilio am sut orau i ddatblygu ei steil eu hun. Nid oeddent am gopïo grwpiau Eingl-Americaniad neu gerddoriaeth Affro-Americaniad gan deimlo nad oeddent yn dod o'r un cefndir ac nad oedd rhythmau Soul neu Funk yn dod yn naturiol iddynt.

Nid oeddent chwaith yn gallu troi am ysbrydoliaeth i ddiwylliant na thraddodiadau'r Almaen am iddynt fod a chywilydd am Natsïaeth. Roedd llawer o bobl ifanc yr Almaen yn credu roeddent ar ddechrau Stunde Null (blwyddyn dim) ac rhaid iddynt greu diwylliant newydd sbon gan edrych tua'r dyfodol a'r tu allan.

Dechreuodd nifer o grwpiau arbrofol yr Almaen ymddiddori yn ffuglen-wyddonol (Science Ficiion) a enwyd eu steil o gerddoriaeth Kosmische musik (cerddoriaeth cosmig). Cafodd y dôn newydd o grwpiau Almaenig Kosmische musik eu diystyru gan wasg Lloegr gan eu galw'n sarhaus 'Krautrock'.[2][3][4]

Ym 1970 daeth Ralf Hütter a Florian Schneider-Esleben at ei gilydd wrth astudio cerddoriaeth glasurol yn Conservatoire Dusseldorf. Ffufiwyd Kling-Klang Studio ganddynt, eu recordiaiad cyntaf oedd Tone Float gyda grŵp o'r enw Organisation.

Yn ddiweddarach ym 1970 ffurfiwyd Kraftwerk gan Hütter a Schneider a dechreuon nhw arbrofi gyda sŵn mecanyddol ac yn defnyddio vocoder a pheiriannau drwm. Roedd y tri record hir cyntaf yn arbofol ffurf-rydd gyda Schneider yn canu'r ffliwt.

Bu nifer o aelodau o Kraftwerk yn y cyfnod cynnar yn cynnwys Klaus Dinger a Michael Rother, a aeth ymlaen i ffurfio'r grŵp Almaeneg arloesol Neu! ym 1971. Ymunodd a Wolfgang Flür ym1973 a fu'n aelod pwysig am nifer o flynyddoedd wedyn. Cydweithiodd Kraftwerk gyda'r cynhyrchydd Konrad "Conny" Plank a gweithiodd gyda nifer o grwpiau Almaeneg arbrofol eraill y cyfnod fel Can, Neu!, Cluster ac Harmonia.

Llwyddiant Autobahn[golygu | golygu cod y dudalen]

Kraftwerk - Autobahn, Düsseldorf 2013

Arweiniodd y blynyddoedd o arbrofi cerddorol dull-rhydd i greu sŵn unigryw'r band wrth iddynt ryddhau'r record hir Autobahn ym 1974. Mae'r gân yn cyfleu'r natur undonog a rhythmig o yrru ar y ffordd fawr. Y geiriau Wir fahren fahren fahren auf der Autobahn (Awn awn awn ar y Draffordd) yn debyg i gân y Beach Boys Fun, Fun, Fun sydd hefyd am yrru.

Mae'r fersiwn y record hir yn 22 munud a'r fersiwn sengl yn 3 munud 28 eiliad. Roedd y sengl yn llwyddiant mawr gan gyrraedd rhif 11 yn siartiau Prydain, er iddo fod yn yr iaith Almaeneg, ac yn gwbl wahanol i gerddoriaeth siartiau'r cyfnod. Cyrhaeddodd yr LP yn rhif 4 ym Mhrydain a rhif 5 yn yr Unol Daleithiau, ac wedi gwerthu niferoedd sylweddol am flynyddoedd wedyn.[5]

1980au i heddiw[golygu | golygu cod y dudalen]

Gyda llwyddiant Autobahn roedd y band yn gallu buddsoddi a datblygu offer electronig arloesol yn y Kling-Klang Studio. Roedd recordiau hir nesaf Radio-Activity (1975), Trans-Europe Express (1977) a Man Machine (1978) yn datblygu eu delwedd robotiaid oer, ac obsesiwn gyda thechnoleg. Teithiodd y band yn eang ar draws Ewrop ac America gan ennill cefnogaeth frwd yn arbennig ymhlith cerddorion â diddordeb yn nechnoleg a synidau newydd.

Efallai fel ateb eironig i'r enw sarhaus 'Krautrock' a rhoddwyd ar grwpiau Almaenig gan y Saeson, mae  clawr Trans Euro Express yn dangos darlun o aelodau'r band mewn steil yn debyg i gelf propaganda Almaenig y 30au.

Ym 1981 rhyddhawyd Computer World ac aeth un o ganeuon o'r LP, The Model, i rif un siartiau sengl Prydain.

Tra roedd eu recordiau hir cyntaf gyda geiriau Almaeneg yn bennaf. Mae Kraftwerk wedi cyfuno fersiynau yn Saesneg, Ffrangeg, Japanieg ac ieithoedd eraill ar lawer o'u caneuon ers diwedd y 1970au.

Yn 1983 rhyddhawyd y sengl Tour de France – mae Ralf Hütter yn feiciwr brwd a gafodd ddamwain beic difrifol yn ystod y recordio.

Mae Krafwerk yn dal i deithio'n gyson ar draws y byd gan berfformio gyda robotiaid o'u hun ar lwyfan a sioe fideo trawiadol.

Yn 2012 bu gymaint o alw am docynnau i bedwar noson Kraftwerk yn y Tate, Llundain wnaeth y system prynu tocynnau crasio o fewn munudau. Roedd y Tate dan warchae gan ffans siomedig a oedd yn methu cael tocynnau. [6]

Dylanwad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Krafwerk yn un o grwpiau mwyaf dylanwadol yn hanes cerddoriaeth gyfoes.

Ar ddechrau'r 1980au daeth syntheseiddwyr ar gael am byrsiau rhesymol a bu ffrwydriaid o grwpiau newydd yn eu defnyddio ac yn copïo llawer o steil Kraftwerk.

Hefyd, mae eu recordiau wedi 'u samplo ar nifer fawr o recordiau rap a thechno. Esiampl dda yw un o recordiau rap pwysig cyntaf Planet Rock gan Afrika Bambaataa (1982) sydd yn defnyddio Trans-Europe Express fel cefndir. [7]

Yn nodweddiadol o'r pwysigrwydd mae Kraftwerk yn cael eu hystyried, ymddangosodd erthygl Why Kraftwerk are still the world's most influential band yn The Guardian yn 2013.[8] Yn ôl cylgrawn yr NME The Beatles and Kraftwerk may not have the ring of The Beatles and the Stones, but nonetheless, these are the two most important bands in music history.[9]


Aelodau presennol[golygu | golygu cod y dudalen]

Kraftwerk yn Chicago
  • Ralf Hütter – prif lais, vocoder, syntheseiddwyr, allweddellau, (1970–present) organ, drymiau ac allweddellau, gitar bâs, gitarr (1970–1974)
  • Fritz Hilpert – offer taro electronig (1987–present)
  • Henning Schmitz – offer taro electronig, allweddellau (1991–present) sound engineering (1978–present)
  • Falk Grieffenhagen – technegydd fideo byw (2013–)

Cyn aelodau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Florian Schneider – syntheseiddwyr, lleisiau cefnir, vocoder, Lleisiau cyfrifiadurol, ffliwt, sacsoffôn, offer taro, gitarr, ffidl (1970–2008)
  • Houschäng Néjadepour – gitar (1970–71)
  • Plato Kostic (a.k.a. Plato Riviera) – gitar fâs (1970)
  • Peter Schmidt – drymiau (1970)
  • Karl "Charly" Weiss – drymiau (1970, died 2009)
  • Thomas Lohmann - drymiau (1970)
  • Andreas Hohmann – drymiau (1970)
  • Eberhard Kranemann – bass guitar (1970–71)[10]
  • Klaus Dinger – drums (1970–1971, died 2008)
  • Michael Rother – electric guitar (1971)
  • Emil Schult – gitar, ffidl (1973)
  • Wolfgang Flür – offer taro electronig (1973–1987)
  • Klaus Röder – gitar, ffidl(1974)
  • Karl Bartos – offer taro electronig, vibraphone, allweddellau byw (1975–1991)
  • Fernando Abrantes – offer taro electronig, syntheseiddwyr (1991)
  • Stefan Pfaffe – technegydd fideo byw (2008–2013)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]



Music template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.