Christian Prudhomme
Jump to navigation
Jump to search
Christian Prudhomme | |
---|---|
| |
Ganwyd |
11 Tachwedd 1960 ![]() Saint-Omer ![]() |
Dinasyddiaeth |
Ffrainc ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
newyddiadurwr, gweinyddwr chwaraeon ![]() |
Swydd |
cyfarwyddwr ![]() |
Gwobr/au |
Chevalier de la Légion d'Honneur ![]() |
Chwaraeon |
Gohebydd chwaraeon Ffrengig a chyfarwyddwr cyffredinol y Tour de France ers 2005 yw Christian Prudhomme (ganwyd 11 Tachwedd 1960).
Gyrfa cyn y Tour[golygu | golygu cod y dudalen]
Astudiodd Prudhomme yn ysgol gohebaeth ESJ yn Lille rhwng 1983 a 1985. Ymunodd â RTL (Radio-Télévision Luxembourg) ym 1985 gyda annogaeth ei diwtor, Michel Cellier, a oedd yn ohebydd ar gyfer RTL yn ardal y Nord. Ymunodd â RTL ar dreial ond ni gadwyd ef yno wedi i'r treial ddod i ben. Symudodd Prudhomme i RFO ac ar 3 Awst 1987 i'r sianel teledu, La Cinq, fel newyddiadurwr odan Pierre Corgioni. Adroddodd hanes y chwaraeon a ddiddorodd ef fwyaf, sef seiclo, rygbi, athletau a sgio.