Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC

Oddi ar Wicipedia
Ryan Giggs, enillydd 2009.

Seremoni wobrwyo yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC, a gynhelir pob mis Rhagfyr gan y BBC. Cynlluniwyd y gwobrau gan Paul Fox ym 1954, dim ond un gwobr oedd yn wreiddiol, ond mae 8 erbyn heddiw.

Gwobrau presennol[golygu | golygu cod]

Gwobr Crëwyd Disgrifiad[1] Deilydd presennol
Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC 1954 Gwobrwyir i chwaraewr sydd wedi cipio dychymyg y cyhoedd gyda'u campau. Geraint Thomas
Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Tramor BBC 1960 Gwobrwyir i chwaraewr o dramor sydd wedi gwneud yr argraff mwyaf ym myd chwaraeon. Francesco Molinari
Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Tîm BBC 1960 Gwobrwyir i dîm sydd wedi cael y llwyddiant mwyaf nodweddiadol mewn chwaraeon Prydeinig. Tîm Pêl-rwyd Lloegr
Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Cyflawniad Oes BBC 1996 Gwobrwyir i chwaraewr sydd wedi gwneud cyflawniad o bwys ar chwaraeon yn ystoed eu hoes. Billie Jean King
Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Hyfforddwr BBC 1999 Gwobrwyir i'r hyfforddwr a feirniadir i fod wedi cael y dylanwad mwyaf ar chwaraeon Prydeinig. Gareth Southgate
Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Helen Rollason BBC 1999 Gwobrwyir i rhywun sydd wedi gwneud cyflawniad rhagorol yng ngwyneb adfyd. Billy Monger
Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Ifanc BBC 1999 Gwobrwyir i chwaraewr ifanc sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol at chwaraeon Prydeinig. Kare Adenegan
Gwobr Arwr Di-glod Chwaraeon BBC 2003 Gwobrwyir i rhywun sydd wedi cynnig eu hamser a'u gallu am ddim er mwyn galluogi eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon. Kirsty Ewen

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.