Ynysoedd y Falklands
|
|||||
Arwyddair: "Desire the right" | |||||
Anthem: God Save the Queen | |||||
Prifddinas | Stanley | ||||
Dinas fwyaf | Stanley | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Saesneg | ||||
Llywodraeth | Brenhiniaeth Gyfansoddiadol | ||||
- Brenhines | Elisabeth II |
||||
- Llywodraethwr | Colin Roberts |
||||
- Prif weithredwr | Keith Padgett |
||||
Dechreuad y Wladfa |
2 Ionawr 1833 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
12,173 km² (4,700) 0 |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Dwysedd |
3,060 (25ain) 0.25/km² (229fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $75 miliwn (14ydd) $25,000 (amcangyfrif 2002) (heb safle) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (Dim) | Dim (Dim) – Dim | ||||
Arian cyfred | Punt y Falklands1 (FKP ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
(UTC-4) | ||||
Côd ISO y wlad | .fk | ||||
Côd ffôn | +500 |
||||
1gosodedig gyda'r Bunt Sterling |
Tiriogaeth sydd ym mherchnogaeth y Deyrnas Unedig yw Ynysoedd y Falklands neu Ynysoedd Malvinas (Saesneg: Falkland Islands, Sbaeneg: Islas Malvinas). Mae'r ynysoedd wedi eu lleoli yn hemisffer y de yng Nghefnfor yr Iwerydd, yn agos at yr Ariannin. Ymosododd byddin yr Ariannin ar yr ynysoedd ym 1982, a brwydrodd y Deyrnas Unedig i'w hadennill yn Rhyfel y Falklands. Mae dwy brif ynys, Dwyrain Falkland a Gorllewin Falkland, a 776 o ynysoedd llai.
Enw[golygu | golygu cod y dudalen]
Daw enw Ynysoedd y Falklands o Swnt Falkland, y sianel rhwng y ddwy brif ynys, a gafodd ei enwi ar ôl Anthony Cary, 5ed Is-iarll Falkland gan y Capten John Strong a laniodd ar yr ynysoedd ym 1690. Daw'r enw Malvinas o'r enw Ffrangeg Iles malouines, oherwydd dyfodiad llawer o deithwyr o Sant-Maloù yn Llydaw. Enwir y ddinas honno, yn ei thro, am Sant Malo o Lancarfan, Bro Morgannwg.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Darganfuwyd yr ynysoedd gan y Capten John Davis ar 9 Awst 1592, ond laniodd e ddim. Ym 1690, glaniodd y Capten John Strong a rhoi’r enw Falkland iddynt, ar ôl trysorydd y Llynges ar y pryd. Ym 1764, sefydlodd Ffrainc wladfa ar Ddwyrain Falkland ac enwi’r ynysoedd Les Iles Malouines. Ym 1765, sefydlodd Prydain gaer ar Ynys Saunders yn y gogledd orllewin. Ym 1766, trosglwyddodd Ffrainc Les Iles Malouines i Sbaen ac addaswyd yr enw yn Sbaeneg i Las Islas Malvinas. Ym 1774, rhoddodd y Saeson y gorau i Ynys Saunders. Ym 1816, hawliwyd Las Malvinas gan wladwriaeth newydd yr Ariannin a sefydlwyd presenoldeb milwrol yno rhwng 1820 ac 1833. Ym 1833, taflwyd yr Archentwyr allan ac ailfeddiannwyd y Falklands gan Brydain. Mae’r ynysoedd wedi aros yn Brydeinig hyd heddiw. I gadarnhau hawl Prydain i’r Falklands, cafodd nifer o bobl o Brydain eu perswadio i ymgartrefu ar yr ynysoedd. Mae poblogaeth yr ynysoedd heddiw (ac eithrio milwyr) tua 2,931 (2016).