Neidio i'r cynnwys

Gemau Ymerodraeth Prydain 1930

Oddi ar Wicipedia
Gemau Ymerodraeth Prydain 1930
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad aml-chwaraeon Edit this on Wikidata
Dyddiad1930 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd16 Awst 1930 Edit this on Wikidata
Daeth i ben23 Awst 1930 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadHamilton Edit this on Wikidata
Yn cynnwysrowing at the 1930 British Empire Games Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gemau 1af Ymerodraeth Prydain
Campau59
Seremoni agoriadol16 Awst
Seremoni cau23 Awst
II  >

Gemau Ymerodraeth Prydain 1930 oedd y cyntaf o'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad. Fe'i cynhaliwyd yn Hamilton, Ontario, Canada rhwng Awst 16–23, 1930.

Yn dilyn cyfarfod ymysg athletwyr a swyddogion gwledydd yr Ymerodraeth Brydeinig yng Ngemau Olympaidd 1928 yn Amsterdam penderfynwyd sefydlu gemau rhwng gwledydd yr Ymerodraeth Brydeinig. Canada gafodd ei dewis i gynnal y Gemau agoriadol fel y wlad fuddugol yn Nhlws Londsdale; cystadleuaeth a drefnwyd i ddathlu coroni Brenin Sior V ym 1911.

Gordon Smallacombe, athletwr o Ganada, enillodd y fedal aur cyntaf erioed yn y naid driphlyg.[1]

Chwaraeon

[golygu | golygu cod]

Timau yn cystadlu

[golygu | golygu cod]

Cafwyd 11 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig, 1930

Tabl Medalau

[golygu | golygu cod]
 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1  Lloegr 25 22 13 60
2 Canada 20 16 18 54
3 De Affrica 6 4 8 18
4  Seland Newydd 3 4 2 9
5  Awstralia 3 4 1 8
6  Yr Alban 2 3 5 10
7  Cymru 0 2 1 3
8 Gaiana Brydeinig 0 1 1 2
9 Iwerddon 0 1 0 1
Cyfanswm 59 57 49 165

Medalau'r Cymry

[golygu | golygu cod]

Dim ond dau aelod oedd yn nhîm Cymru ar gyfer y Gemau yn Hamilton gyda'r medalau i gyd yn dod gan y nofwraig Valerie Davies. Ni chafodd Gymru wahoddiad i yrru tîm athletau i Hamilton gan nad oedd gan Gymru gorff athletau cenedlaethol ar y pryd, ond llwyddodd y Cymro, Reg Thomas i ennill medal aur tra'n gwisgo fest Lloegr.[2] Yn yr un modd, enillodd Albert Love o Gaerdydd fedal efydd yn y sgwâr bocsio tra'n cynrychioli Lloegr oherwydd diffyg tîm bocsio Cymreig.[3]

Medal Enw Cystadleuaeth
Arian Valerie Davies Nofio 400llath dull rhydd
Arian Valerie Davies Nofio 100llath dull rhydd
Efydd Valerie Davies Nofio 100llath ar ei chefn

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Jamie Bradburn (21 July 2015). "The British Empire Games of 1930". Torontoist.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-31. Cyrchwyd 30 August 2017.
  2. "Welsh Sports Hall Of Fame, Reg Thomas". Welsh Sports Hall Of fame. Cyrchwyd 30 January 2022.
  3. "Hanes Gemau'r Gymanwlad, 1930: Hamilton, Canada". bbc.co.uk/chwaraeon. Cyrchwyd 30 August 2006.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Rhagflaenydd:
Cyntaf
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Llundain