Rhwyfo

Oddi ar Wicipedia
Rhwyfo
Enghraifft o'r canlynolchwaraeon olympaidd, math o chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathchwaraeon dŵr, watercraft rowing Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gyrru cwch neu long ar hyd dŵr â rhwyfau yw rhwyfo. Mae ei wreiddiau yn mynd nôl i'r Hen Aifft. Fel mabolgamp, mae cychod o rwyfwyr yn rasio yn erbyn ei gilydd, er enghraifft yn Ras Gychod Rhydychen a Chaergrawnt neu yn y Gemau Olympaidd.

Mae rhwyfo yn un o'r chwaraeon hynaf yn Gemau Olympaidd. Mae dynion wedi cymryd rhan mewn rhwyfo yn y gemau olympaidd ers 1900[1] a dechreuodd menywod gymeryd rhan yn 1976. Heddiw, mae yna 14 dosbarth o gwch yn cystadlu fel rhan o'r gemau olympaidd, ond mae pencampwriaethau'r byd yn cynnwys 22 dosbarth. Ers 2008 mae rhwyfo hefyd wedi ei gynnwys yn y Gemau Paralympaidd.

Ras rwyfo yn Jóansøka yn Vágur, Ynysoedd y Ffaroe, 2010

Rhwyfo yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Gweinyddir y gamp o rwyfo yng Nghymru gan Rhwyfo Cymru. Ceir hefyd Cymdeithas Rhwyfo Môr Cymru sy'n gyfrifol am weinyddu cystadlaethau rhwng timau ac agweddau eraill o faes y gamp a'r chwaraeon yng Nghymru.

Cwch Hir Celtaidd[golygu | golygu cod]

Ceir math o gwch rhwyfo sy'n boblogaidd gan glybiau rhwyfo ar hyd arfordir Cymru. Mae'r Cwch Hir Celtaidd yn dal rhwyfwyr unrhwyf bob yn ail a llyw ar gyfer rhwyfo. Maent yn cael eu defnyddio ar gyfer cystadlaethau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.

Ras Rwyfo'r Her Geltaidd[golygu | golygu cod]

Cynhelir Ras Rwyfo'r Her Geltaidd bob yn ail flwyddyn. Bydd cystadleuwyr yn rhwyfo mewn cychod hir Celtaidd a chychod tebyg, 12 mewn cwch heb gynnwys y llyw, rhwng tref Arklow yn Iwerddon ac Aberystwyth. Cynhaliwyd yr her gyntaf yn 1989 a'r ras gystadleuol gyntaf yn 1993.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "International Olympic Committee - History of rowing at the Olympic games" (PDF). Cyrchwyd 6 Mehefin 2017.
Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.