Føroyar

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ynysoedd Føroyar
Anthem: Tú alfagra land mítt
Ti, fy mhrydferth dir!
Lleoliad yng ngogledd Ewrop.
Lleoliad yng ngogledd Ewrop.
Prifddinas
(and Y ddinas fwyaf)
Tórshavn
62°00′N 06°47′W / 62.000°N 6.783°W / 62.000; -6.783
Ieithoedd swyddogol Nodyn:Dotlist
Grwpiau ethnig 
Demonym Faroese
Llywodraeth Dermocratiaeth drwy Lywodraeth dan frenhiniaeth gyfansoddiadol
 -  Brenhines Margrethe II
 -  High Commissioner Dan M. Knudsen
 -  Prifweinidog Kaj Leo Johannesen
Cyfreithiol Løgting
Autonomy o fewn Brenhiniaeth Denmarc
 -  Treaty of Kiel 14 Ionawr 1814 
 -  Hunan Lywodraeth 1 Ebrilll 1948 
Arwynebedd
 -  Cyf 1,399 km2 (180th)
540 mi sgwâr 
 -  Dŵr (%) 0.5
Poblogaeth
 -  Gorffennaf 2011 estimate 49,267[1] (206fed)
 -  Dwysedd 35/km2 
91/mi sgwâr
GDP (PPP) 2008 estimate
 -  Cyfanswm $1.642 biliwn 
 -  Y pen $33,700 
GDP (nominal) 2008 estimate
 -  Cyfanswm $2.45 biliwn 
 -  Y pen $50,300 
HDI (Human Development Index) (2011) 0.895 
Arian Faroese króna[d] (DKK)
Rhanbarth amser WET Amser +0)
 -  Haf (DST) WEST (UTC+1)
Lefel uchaf Gwlad (ar y we) .fo
Côd deialu +298

Grŵp o ynysoedd yng ngogledd Ewrop rhwng Môr Norwy a'r Cefnfor Iwerydd yw'r Føroyar, Ynysoedd Faroe neu Ynysoedd Ffaröe (Ffaröeg Føroyar, Daneg Færøerne). Arwynebedd y tir yw 1400 km². Y brifddinas yw Tórshavn (neu Thorhavn), ar ynys Streymoy.

Maen' nhw'n gorwedd tua hanner ffordd rhwng Norwy a Gwlad yr Iâ; yr ynysoedd agosaf i'r de yw Shetland. Maen' nhw'n dalaith hunanlywodraethol o Ddenmarc ers 1948. Maen' nhw wedi cymryd cyfrifoldeb am y rhan fwyaf o'u materion, ac eithrio amddiffyn a materion tramor.

Map o ynysoedd Føroyar

Yr Ynysoedd[golygu]

Tórshavn yw'r brifddinas, a chanddi boblogaeth o 19,000; yr ail ddinas yw Klaksvik, â phoblogaeth o ryw 6,000. Mae trwch gweddill y boblogaeth wedi'i gwasgaru ymysg y pentrefi arfordirol.

Preswylir 17 o'r 22 ynys. Y prif ynysoedd yw Streymoy, Eysturoy, a Vágar. Mae'r rhan fwyaf o'r ynysoedd yn fryniog ac mae'r gweithgareddau amaethyddol yn gyfyngiedig i fagu defaid a thyfu tatws. Mae pysgota a phrosesu pysgod yn ddiwydiannau o bwys.

Ardal yr ynysoedd yw 1,399 cilomedr sgwar (540 mi.sg), a nid oes afonydd na llynnoedd o bwys. Mae 1,117 cilomedr (694 mi) o arfordir, a nid oes ffin tirol gyda unrhyw wlad arall. Yr unig ynys nad oes ganddi drigolion yw Lítla Dímun.

Hanes[golygu]

Daeth trigolion gwreiddiol yr ynysoedd yno adeg y llychlynwyr; mae hanes y trefedigaetho i'w chael yn y Færeyinga Saga.

Porkeri, Ynysoedd Faroe

Diwylliant[golygu]

Mae diwylliant yr ynysoedd yn hannu o olion o'r hen ddiwylliant lychlynnol scandinafaidd wedi'u cymysgu â diwylliant draddodiadol ffermio a physgota ymgynhaliol.

Iaith gynhenid, a bellach prif iaith swyddogol yr ynys ydyw'r Ffaroeg, iaith Germanaidd sy'n ymdebygu rhywfaint i'r Islandeg.

Gweler hefyd[golygu]

Cysylltiadau allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. CIA - The World Factbook; adalwyd 13 Gorffennaf 2011.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: