Cwch Hir Celtaidd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cychod Hir Celtaidd Madryn a Mererid, Clwb Rhwyfo Pwllheli

Mae'r Cwch Hir Celtaidd yn gwch rhwyfo a ddefnyddir ar gyfer rhwyfo arfordirol a môr, hyfforddi ac hamdden. Mae ganddo le ar gyfer set o bedwar rhwyfwr unrhwyf (lle bydd y rhwyfwr ond yn defnyddio un rhwyf gyda rhwyfwr arall yn rhwyfo ar yr ochr arall, gyfochrog, neu bob yn ail iddo). Ceir hefyd llyw ("coxswain").

Mae gan y fath yma o gwch hanes hir ar hyd arfordir gorllewin Cymru.

Gweinyddu[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymdeithas Rhwyfo Môr Cymru yw'r corff sy'n gweinyddu a rheoli rasys Cychod Celtaidd. Ceir sawl Clwb Cychod Celtaidd ar draws Cymru.[1]

Adeiladu[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae cwmni "Dale Sailing" o Neyland yn Sir Benfro wedi eu dynodi'r adeiladwr yn 1999 ac mae dros 22 o gychod wedi eu hadeiladu ganddynt gyda 4 wedi mynd i Dubai a 12 arall ar archeb.[2]

Heriau Rhwyfo Môr mewn Cwch Hir Hir Celtaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Bydd Cychod Hir Celtaidd yn cymryd rhan mewn rasys megis Ras Rwyfo'r Her Geltaidd a gynhelir bob yn ail flwyddyn rhwng Arklow yn Iwerddon ac Aberystwyth yng Nghymru. Cynhaliwyd y ras gystadleuol gyntaf yn 1993.

Bu i Gychod Hirion Celtaidd hefyd rwyfo rhwng Porth Oer ger Aberdaron ym Mhenrhyn Llŷn a Phenrhyn Wichlow yn Swydd Wicklow yn Iwerddon yn 2006.[3]

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir clybiau cychod hir Celtaidd mewn sawl tref yng Ngymru:

  • Clwb Rhwyfo Cwch Hir Aberaeron sy'n gwahodd pobl i ymaelodi.[4]
  • Ceir gwersi a sesiynau rhwyfo Cychod Hir Celtaidd gan Glwb Antur Dyffryn Peris ar Lyn Peris, Llanberis.[5]
  • Erthygl gan Cerian o glwb rhwyfo Porth Llechog am dîm rhwyfo Cwch Hir Celtaidd, "Y Gogs Bach".[6]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Reynolds, Dave. "Welsh Sea Rowing Association". www.welshsearowing.org.uk. Cyrchwyd 2017-03-01.
  2. "Celtic Longboat Information". rendell-attic.org. Cyrchwyd 2017-03-01.
  3. http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4970000/newsid_4978400/4978454.stm,
  4. https://www.dewis.cymru/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=9549
  5. http://clwbantur.com/cy/rhwyfo/
  6. http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/safle/chwaraeon/pages/rhwyfo_cerian.shtml