Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1966

Oddi ar Wicipedia
Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1966
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad aml-chwaraeon Edit this on Wikidata
Dyddiad1966 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd4 Awst 1966 Edit this on Wikidata
Daeth i ben13 Awst 1966 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadKingston Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbadminton at the 1966 British Empire and Commonwealth Games Edit this on Wikidata
8fed Gemau'r Gymanwlad Brydeinig
Campau110
Seremoni agoriadol4 Awst
Seremoni cau13 Awst
VII IX  >

Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1966 oedd yr wythfed tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Kingston, Jamaica, oedd cartref y Gemau rhwng 4-13 Awst. Daeth y bleidlias i gynnal y Gemau yn y Caribî yn ystod Gemau Olympaidd Rhufain ym 1960 gyda Jamaica yn sicrhau 17 pleidlais, Caeredin 12 a Salisbury, Rhodesia 5.

Cafwyd newid i'r rhestr chwaraeon am y tro cyntaf ers 1950 wrth i badminton a saethu gymryd lle bowlio lawnt a rhwyfo.

Cafodd Hen Wlad fy Nhadau ei chwarae am y tro cyntaf i gyfarch medal aur gan Gymro wrth i Arglwydd Abertawe wrthod symud o'r podiwm ar ôl i God Save The Queen chwarae hyd nes bo'r band yn chwarae'r anthem Gymreig.[1]

Chwaraeon[golygu | golygu cod]

Timau yn cystadlu[golygu | golygu cod]

Cafwyd 34 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad, 1966 gyda Antigwa a Barbiwda, De Arabia a Tansanïa yn ymddangos am y tro cyntaf.

Tabl Medalau[golygu | golygu cod]

 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1 Baner Lloegr Lloegr 33 24 23 80
2 Baner Awstralia Awstralia 23 28 22 73
3 Baner Canada Canada 14 20 23 57
4 Baner Seland Newydd Seland Newydd 8 5 13 26
5 Ghana 5 2 2 9
6 Baner Trinidad a Tobago Trinidad a Tobago 5 2 2 9
7 Baner Pacistan Pacistan 4 1 4 9
8 Baner Cenia Cenia 4 1 3 8
9 Baner India India 3 4 3 10
10 Baner Nigeria Nigeria 3 4 3 10
11 Baner Cymru Cymru 3 2 2 7
12 Baner Maleisia Maleisia 2 2 1 5
13 Baner Yr Alban Yr Alban 1 4 4 9
14 Baner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon 1 3 3 7
15 Baner Ynys Manaw Ynys Manaw 1 0 0 1
16 Baner Jamaica Jamaica 0 4 8 12
17 Baner Bermiwda Bermiwda 0 1 0 1
18 Bahamas 0 1 0 1
19 Baner Gaiana Gaiana 0 1 0 1
20 Baner Wganda Wganda 0 1 0 1
21 Papua Gini Newydd 0 0 3 3
22 Barbados 0 0 1 1
Cyfanswm 110 110 120 340

Medalau'r Cymry[golygu | golygu cod]

Roedd 54 aelod yn nhîm Cymru.

Medal Enw Cystadleuaeth
Aur Lynn Davies Athletau Naid hir
Aur Arglwydd Abertawe Saethu Reiffl 303
Aur Kum Weng Chung Codi Pwysau Pwysau plu
Arian Clive Longe Athletau Decathlon
Arian Horace Johnson Codi Pwysau Pwysau canol
Efydd Ieuan Owen Codi Pwysau Pwysau ysgafn
Efydd Robert Reynolds Ffensio Epeé

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Rhagflaenydd:
Perth
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Caeredin