Gemau'r Gymanwlad 2006
| Enghraifft o: | edition of the Commonwealth Games |
|---|---|
| Dyddiad | 2006 |
| Dechreuwyd | 15 Mawrth 2006 |
| Daeth i ben | 26 Mawrth 2006 |
| Lleoliad | Melbourne |
| Yn cynnwys | badminton at the 2006 Commonwealth Games |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/018cs9 |
| 18ed Gemau'r Gymanwlad | |||
|---|---|---|---|
![]() | |||
| Campau | 17 | ||
| Seremoni agoriadol | 15 Mawrth | ||
| Seremoni cau | 26 Mawrth | ||
| Agorwyd yn swyddogol gan | Iarll Wessex | ||
| |||
Gemau'r Gymanwlad 2006 oedd y deunawfed tro i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Melbourne, Awstralia oedd cartref y Gemau rhwng 15 - 26 Mawrth. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Gemau'r Gymanwlad 1998 yn Kuala Lumpur ond nid oedd angen pleidlais wedi i Wellington, Seland Newydd dynnu'n ôl o'r ras gan adael Melbourne fel yr unig ymgeisydd.
Y tîm cartref oedd â'r tîm mwyaf gyda 535 o athletwyr a swyddogion a Montserrat oedd â'r tîm lleiaf wrth i'r ynys fechan yrru tri athletwr ac un swyddog a chyflwynwyd Pêl-fasged i'r Gemau am y tro cyntaf.
Uchafbwyntiau'r Gemau
[golygu | golygu cod]Roedd y Gemau'n llwyddiant ysgubol i'r tîm cartref wrth i Awstralia gipio 84 medal aur - record i Gemau'r Gymanwlad - gan gynnwys 16 o'r 19 medal aur oedd ar gael i ferched yn y pwll nofio a'r ddwy gystadleuaeth pêl-fasged, oedd yn ymddangos am y tro cyntaf, ond bu raid iddynt fodloni ar fedal arian yn y pêl-rwyd wrth i Seland Newydd lwyddo i ddod y wlad gyntaf (heb law am Awstralia) i ennill y gystadleuaeth yn y Gemau.
Daeth Alexandra Orlando o Ganada y pedwerydd person i ennill chwe medal aur yn yr un Gemau wrth iddi ennill pob cystadleuaeth Gymnasteg Rhythmig a llwyddodd Alleyne Francique i ennill unig fedal Grenada yn holl hanes y Gemau hyd yma wrth iddo gipio'r fedal arian yn y 400m i ddynion.
Ar y trac beicio, daeth Mark Cavendish i'r amlwg wrth i'r gwibiwr ennill medal aur cyntaf Ynys Manaw ers Gemau Ymerodraeth Prydain 1966 gyda buddugoliaeth yn y Ras scratch. Gwnaeth Chris Froome ei unig ymddangosiad yn y Gemau hefyd gan gynrychioli Cenia - daeth yn 17eg yn y Ras yn erbyn y cloc, yn 25ain yn y ras lôn ac yn 24ain yn y gystadleuaeth beicio mynydd.[1]
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]|
|
Timau yn cystadlu
[golygu | golygu cod]Cafwyd 72 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, 2002
Tabl Medalau
[golygu | golygu cod]| Safle | Cenedl | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
|---|---|---|---|---|---|
| 1 | 84 | 69 | 69 | 222 | |
| 2 | 36 | 40 | 34 | 110 | |
| 3 | 26 | 29 | 31 | 86 | |
| 4 | 22 | 17 | 11 | 50 | |
| 5 | 12 | 13 | 13 | 38 | |
| 6 | 11 | 7 | 11 | 29 | |
| 7 | 10 | 4 | 8 | 22 | |
| 8 | 7 | 12 | 10 | 29 | |
| 9 | 6 | 12 | 13 | 31 | |
| 10 | 6 | 5 | 7 | 18 | |
| 11 | 5 | 6 | 7 | 18 | |
| 12 | 4 | 6 | 7 | 17 | |
| 13 | 3 | 5 | 11 | 19 | |
| 14 | 3 | 1 | 2 | 6 | |
| 15 | 2 | 0 | 1 | 3 | |
| 15 | 2 | 0 | 1 | 3 | |
| 17 | 1 | 3 | 1 | 5 | |
| 18 | 1 | 1 | 0 | 2 | |
| 19 | 1 | 0 | 1 | 2 | |
| 19 | 1 | 0 | 1 | 2 | |
| 19 | 1 | 0 | 1 | 2 | |
| 22 | 1 | 0 | 0 | 1 | |
| 23 | 0 | 3 | 0 | 3 | |
| 24 | 0 | 2 | 0 | 2 | |
| 24 | 0 | 2 | 0 | 2 | |
| 26 | 0 | 1 | 2 | 3 | |
| 27 | 0 | 1 | 1 | 2 | |
| 27 | 0 | 1 | 1 | 2 | |
| 27 | 0 | 1 | 1 | 2 | |
| 30 | 0 | 1 | 0 | 1 | |
| 30 | 0 | 1 | 0 | 1 | |
| 30 | 0 | 1 | 0 | 1 | |
| 33 | 0 | 0 | 3 | 3 | |
| 34 | 0 | 0 | 2 | 2 | |
| 35 | 0 | 0 | 1 | 1 | |
| 35 | 0 | 0 | 1 | 1 | |
| 35 | 0 | 0 | 1 | 1 | |
| 35 | 0 | 0 | 1 | 1 | |
| 35 | 0 | 0 | 1 | 1 | |
| Cyfanswm | 245 | 244 | 254 | 743 | |
Medalau'r Cymry
[golygu | golygu cod]Roedd 143 aelod yn nhîm Cymru.
| Medal | Enw | Cystadleuaeth | |
|---|---|---|---|
| Aur | Michaela Breeze | Codi Pwysau | 63 kg (Cyfuniad) |
| Aur | David Davies | Nofio | 1500m Dull rhydd |
| Aur | David Phelps | Saethu | 50m Reiffl tra'n gorwedd |
| Arian | Julie Crane | Athletau | Naid uchel |
| Arian | Kevin Evans | Bocsio | dros 91 kg |
| Arian | Robert Weale | Bowlio Lawnt | Senglau |
| Arian | Elizabeth Morgan | Bowlio Lawnt | Senglau |
| Arian | David Eaton | Gymnasteg | Bar llorweddol |
| Efydd | Beverley Jones | Athletau | 100m T38 |
| Efydd | Hayley Tullett | Athletau | 1500m |
| Efydd | Nicole Cooke | Beicio | Ras lôn |
| Efydd | Geraint Thomas | Beicio | Ras bwyntiau |
| Efydd | Mohammed Nasir | Bocsio | o dan 48 kg |
| Efydd | Darren Lee Edwards | Bocsio | 57 kg |
| Efydd | Jamie Crees | Bocsio | 64 kg |
| Efydd | Johanne Brekke | Saethu | Reiffl 50m tra'n gorwedd |
| Efydd | David Phelps a Gruffudd Morgan |
Saethu | Parau reiffl 50m tra'n gorwedd |
| Efydd | David Roberts | Nofio | 100m Dull rhydd i'r anabl |
| Efydd | David Davies | Nofio | 400m Dull rhydd |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2002-07-25. Cyrchwyd 2013-09-28.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
| Rhagflaenydd: Manceinion |
Gemau'r Gymanwlad Lleoliad y Gemau |
Olynydd: Delhi Newydd |
