Kingston (Jamaica)
| Arwyddair | A city which hath foundations |
|---|---|
| Math | dinas, dinas fawr |
| Enwyd ar ôl | Kingston upon Thames |
| Poblogaeth | 937,700 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Andrew Swaby |
| Cylchfa amser | UTC−05:00 |
| Gefeilldref/i | |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Jamaiceg, Saesneg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Surrey County |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 22 km² |
| Uwch y môr | 9 ±1 metr |
| Gerllaw | Môr y Caribî |
| Yn ffinio gyda | Portmore |
| Cyfesurynnau | 17.9714°N 76.7931°W |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Kingston |
| Pennaeth y Llywodraeth | Andrew Swaby |
![]() | |
Prifddinas a dinas fwyaf Jamaica yw Kingston. Fe'i lleolir ar arfordir de-ddwyrain yr ynys ym Môr y Caribî. Mae'n wynebu ar harbwr naturiol a amddiffynnir gan y Palisadoes, rhimyn hir o dywod sy'n cysylltu Port Royal a Maes Awyr Rhyngwladol Norman Manley i weddill yr ynys. Yn Hemisffer y Gorllewin, Kingston yw'r ddinas Saesneg ei hiaith fwyaf i'r de o'r Unol Daleithiau.
Rhennir canol Kingston yn ddwy ran wrthgyferbyniol : y Downtown hanesyddol ond aflonydd, a New Kingston, lleoliad atyniad mwyaf yr ynys, sef Amgueddfa Bob Marley (ar safle ei hen gartref). Mae sawl seren reggae arall, yn cynnwys Buju Banton, Sean Paul, Bounty Killer, a Beenie Man, yn hanu o Kingston hefyd. Mae atyniadau eraill yn cynnwys traethau Hellshire a Lime Cay, Amgueddfa Genedlaethol Jamaica, adfeilion Port Royal, a Devon House, hen fansiwn a'i barc cysylltiedig a fu'n eiddo i filiwnydd croen du cyntaf Jamaica.
Yn ogystal â Maes Awyr Rhynwladol Norman Manley, gwasanaethir y ddinas gan Faes Awyr Tinson Pen.

