Gemau Ymerodraeth Prydain 1938
Enghraifft o'r canlynol | Digwyddiad aml-chwaraeon, digwyddiad mewn cyfres ![]() |
---|---|
Dyddiad | 1938 ![]() |
Dechreuwyd | 5 Chwefror 1938 ![]() |
Daeth i ben | 12 Chwefror 1938 ![]() |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad ![]() |
Lleoliad | Sydney ![]() |
Yn cynnwys | rowing at the 1938 British Empire Games ![]() |
![]() |
Gemau Ymerodraeth Prydain 1938 oedd y trydydd tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Sydney, De Cymru Newydd, Awstralia oedd cartref y Gemau rhwng 5-12 Chwefror.
Trefnwyd y gemau i gyd fynd gyda dathlu 150 mlynedd ers y sefydliad Prydeinig swyddogol cyntaf yn Awstralia.
Oherwydd y dirwasgiad a chost teithio i Awstralia, ni chafwyd cymaint o athletwyr â gafwyd yng Ngemau Llundain, 1934 ac er na chafwyd unrhyw gynrychiolaeth o Hong Cong, Jamaica na Newfoundland cafwyd athletwyr o Ceylon a Ffiji am y tro cyntaf.
Cafodd cystadlaethau rhwyfo eu hychwanegu i'r Gemau ar ôl peidio cael eu cynnwys yn Llundain.
Penderfynwyd cynnal Gemau Ymerodraeth Prydain 1942 ym Montréal, Canada, a Gemau 1946 yng Nghaerdydd, Cymru ond oherwydd yr Ail Ryfel Byd, ni chynhaliwyd y Gemau eto tan 1950.
Chwaraeon[golygu | golygu cod]
Timau yn cystadlu[golygu | golygu cod]
Cafwyd 15 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig, 1934 gyda Ffiji a Ceylon yn ymddangos am y tro cyntaf a chyda Trinidad a Tobago yn cystadlu fel tîm unedig.
Tabl Medalau[golygu | golygu cod]
Safle | Cenedl | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | ![]() |
25 | 19 | 22 | 66 |
2 | ![]() |
15 | 15 | 10 | 40 |
3 | ![]() |
13 | 16 | 15 | 44 |
4 | ![]() |
10 | 10 | 6 | 26 |
5 | ![]() |
5 | 7 | 13 | 25 |
6 | ![]() |
2 | 1 | 0 | 3 |
7 | ![]() |
1 | 0 | 0 | 1 |
8 | ![]() |
0 | 2 | 3 | 5 |
9 | ![]() |
0 | 1 | 0 | 1 |
10 | ![]() |
0 | 0 | 2 | 2 |
Cyfanswm | 71 | 71 | 71 | 213 |
Medalau'r Cymry[golygu | golygu cod]
Roedd 35 aelod yn nhîm Cymru.
Llwyddodd Jim Alford i dorri record y Gymanwlad wrth ennill ras y filltir mewn 4 munud 11.6 eiliad a cipiodd Denis Reardon aur yn y sgwâr bocsio. Ar y pryd roeddent yn cael eu hystyried fel y Cymry cyntaf i ennill medalau aur yn y Gemau, ond bellach, mae Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru yn ystyried medal aur Reg Thomas, Cymro enillodd ras y filltir tra'n gwisgo fest Lloegr yn 1930, fel medal Gymreig.[1]
Medal | Enw | Cystadleuaeth | |
---|---|---|---|
Aur | Jim Alford | Athletau | 1milltir |
Aur | Denis Reardon | Bocsio | Pwysau canol |
Arian | Jeanne Greenland | Nofio | 100llath ar ei chefn |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback.
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
Rhagflaenydd: Llundain |
Gemau'r Gymanwlad Lleoliad y Gemau |
Olynydd: Auckland |