Jazz Carlin

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Jazmin Carlin)
Jazz Carlin
Jazz Carlin yn 2009
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnJazmin Roxy Carlin
Llysenw"Jazz"
Ganwyd (1990-10-16) 16 Hydref 1990 (33 oed)
Swindon, Lloegr
Taldra1.75 m (5 ft 9 in) (5 ft 9 in)
Pwysau57 kg (126 lb; 9.0 st)
Camp
GwladCymru
ChwaraeonNofio
CampDull Rhydd
ClwbCaerfaddon
Diweddarwyd 11 Awst 2016.

Nofwraig Gymreig yw Jazmin Roxy "Jazz" Carlin (ganwyd 17 Medi 1990) sydd wedi cystadlu dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad a thros Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd. Mae hi'n cystadlu yng nghystadlaethau dull rhydd[1] ac yn ymarfer ym Mhrifysgol Caerfaddon[2].

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganed Carlin yn Swindon, Lloegr[1] cyn symud i Abertawe gyda'i rhieni, sydd yn hannu o Gymru, yn 2006. Bu'n ymarfer ym Mhwll Cenedlaethol Cymru[1]. Roedd yn aelod o dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad ym Melbourne, Awstralia yn 2006 gan orffen yn wythfed yn yr 800m dull rhydd ac yn drydydd yn ras rhagbrofol y 400m dull rhydd. Roedd hefyd yn aelod o'r tîm ras gyfnewid 4x200m dull rhydd orffennodd yn chweched.

Casglodd Carlin ei medal cyntaf yn un o prif bencampwriaeth nofio ym Mhencampwriaeth Nofio'r Byd 2009 yn Rhufain, Yr Eidal. Llwyddodd, ynghŷd â Joanne Jackson, Caitlin McClatchey a Rebecca Adlington, i gipio'r fedal efydd yn y ras gyfnewid 4x200m dull rhydd[3].

Yng Ngemau'r Gymanwlad 2010 yn Delhi Newydd, India cipiodd Carlin fedal arian yn y 200m dull rhydd a medal efydd yn y 400m dull rhydd[4] ac o'r herwydd cafodd ei henwebu ar gyfer gwobr Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru[1]

Pedair mlynedd yn ddiweddarach llwyddodd Carlin i gipio'r fedal aur yn yr 800m dull rhydd a'r fedal arian yn y 400m dull rhydd yng Ngemau'r Gymanwlad 2014 yn Glasgow, Yr Alban gan ddod y nofwraig Cymreig cyntaf i gipio medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad ers Pat Beavan yng Ngemau'r Gymanwlad 1974[5].

Yng Ngemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro, Brasil casglodd Carlin fedal arian yn y ras 400m ac 800m dull rhydd.[6]

Cystadlodd yng Ngemau’r Gymanwlad Arfordir Aur Awstralia yn 2018 ond methodd ac ennill medal. Dywedodd bryd hynny y byddai'n cymryd seibiant o'r gamp a bu'n dioddef o salwch ac anafiadau. Yn Chwefror 2019 cyhoeddodd ei bod am ymddeol o'r byd nofio cystadleuol.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Profile: Jazz Carlin". BBCSport.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-21. Cyrchwyd 2016-08-11.
  3. "2009 World Championships results: Women's 4x200m freestyle final" (PDF). 2009-07-30. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2009-10-04. Cyrchwyd 2016-08-11.
  4. "Commonwealth Games 2010: Carlin takes silver for Wales". BBC Sport. 2010-10-04.
  5. "Swimming: Jazz Carlin targeting a medal at Rio 2016 Olympics". BBC Sport.
  6. "Rio: Medal arian i Jazz Carlin". BBC Cymru Fyw. 2016-08-08.
  7. Jazz Carlin yn ymddeol o’r byd nofio , Golwg360, 27 Chwefror 2019.