J. J. Williams (chwaraewr rygbi)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth J.J. Williams (chwaraewr rygbi))
Jump to navigation Jump to search
J. J. Williams
Ganwyd 1 Ebrill 1948 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaeth chwaraewr rygbi'r undeb, cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd Edit this on Wikidata
Gwobr/au MBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/au Y Babariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli, Maesteg RFC, Bridgend Ravens, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
Safle Asgellwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeon Cymru Edit this on Wikidata

Mae John James "J. J." Williams (ganed 1 Ebrill 1948 yn Nantyffyllon) yn gyn-chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd ddeg ar hugain o gapiau dros Gymru fel asgellwr.

Addysgwyd J. J. Williams yn Ysgol Ramadeg Maesteg, a datblygodd yn athletwr penigamp, gan gynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nghaeredin yn 1970 a dod yn bencampwr sprintio Cymru yn 1971. Chwaraeodd rygbi i Ben-y-bont ar Ogwr cyn ymuno â Llanelli yn 1972.

Enillodd ei gap cyntaf i Gymru yn 1973. Ystyrid ef yn un o'r asgellwyr cyflymaf ym myd rygbi, a sgoriodd ddeuddeg cais yn ei 30 gêm i Gymru. Aeth ar daith gyda'r Llewod Prydeinig, gan chwarae mewn pedair gêm brawf ar y daith i Dde Affrica yn 1974 ac mewn tair gêm brawf ar y daith i Seland Newydd yn 1977. Roedd y daith i Ddde Affrica yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus yn hanes y Llewod, ac roedd gan J. J. ran fawr yn hyn. Sgoriodd ddau gais yn yr ail brawf ac yna dau eto yn y trydydd.