Mike Phillips

Oddi ar Wicipedia
Mike Phillips
Enw llawn William Michael Phillips
Dyddiad geni (1982-08-29) 29 Awst 1982 (41 oed)
Man geni Caerfyrddin
Taldra 191 cm (6 ft 3 in)
Pwysau 101 kg (15 st 13 lb)
Ysgol U. Ysgol Whitland
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Scrum-half
Clybiau proffesiynol
Blynydd. Clybiau Capiau (pwyntiau)
2001–05
2005–07
2007–11
2011–13
2013–16
2016–
Scarlets Llanelli
Gleision Caerdydd
Ospreys
Bayonne
Racing 92
Sale Sharks
64
48
60
49
57
(74)
(40)
(25)
(25)
(15)
yn gywir ar 14 Mai 2016.
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
2003–2015
2009,2013
Cymru
Y Llewod
94
5
(45)
(5)
yn gywir ar 8 Medi 2015.

Chwaraewr Rygbi'r Undeb i dîm Baiona a Chymru yw William Michael "Mike" Phillips (ganed 29 Awst 1982. Mae'n chwarae fel mewnwr.

Ganed ef yng Nghaerfyrddin, a bu'n chwarae fel blaenasgellwr i dîm rygbi Caerfyrddin. Yn ddiweddarach, symudodd i safle mewnwr; yn 6 troedfedd a 3 modfedd o daldra, mae'n anarferol o fawr i fewnwr.

Bu'n chwarae i Scarlets Llanelli, gan chwarae ei gêm gyntaf iddynt pan oedd yn 20 oed. Roedd yn cystadlu yn erbyn Dwayne Peel am safle'r mewnwr yma, a symudodd i dîm Gleision Caerdydd yn 2005. Yn Chwefror 2007 cyhoeddwyd ei fod yn symud i'r Gweilch. Credid y byddai'n ail ddewis fel mewnwr yno, gan ei fod yn cystadlu â Justin Marshall am y safle, ond llwyddodd i ennill ei le yn y tîm.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn 2003, yn erbyn Rwmania, gan sgorio cais. Roedd yn cystadlu â Dwayne Peel am safle'r mewnwr yn nhîm Cymru, a chyfyngodd hyn ar nifer ei gapiau am gyfnod. Ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008, ef a ddewiswyd yn hytrach na Peel gan yr hyfforddwr newydd Warren Gatland, a chwaraeodd ymhob gêm pan enillwyd y Gamp Lawn.