Delme Thomas
| Delme Thomas | |
|---|---|
| Ganwyd | 12 Medi 1942 Cymru |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
| Taldra | 191 centimetr |
| Pwysau | 104 cilogram |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli, Y Barbariaid, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
| Safle | Clo |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cyn-chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru yw William Delme Thomas (ganed 12 Medi 1942[1]), a enillodd 25 o gapiau dros Gymru fel clo.
Cafodd Thomas ei eni ym Mancyfelin, Sir Gaerfyrddin. Ymunodd a chlwb Llanelli yn 1961. Ef oedd capten Llanelli yn ystod eu tymor canmlwyddiant yn 1972-73, ac ef hefyd oedd capten Llanelli pan enillwyd y fuddugoliaeth enwog dros y Crysau Duon yn 1972. Cofir o hyd am ei araith emosiynol i'w gyd-chwaraewyr cyn y gêm yma.
Chwaraeodd i dim Ieuenctid Cymru yn ddeunaw oed, ac enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Awstralia yn 1967, a bu'n ddewis cyntaf fel clo hyd nes iddo ymddeol yn 1973. Chwaraeodd ran bwysig yn y tîm a gyflawnodd y Gamp Lawn yn 1971. Yn ei dymor olaf, ef oedd capten Cymru yn y gêm yn erbyn y Crysau Duon yng Nghaerdydd.
Aeth ar daith gyda'r Llewod Prydeinig dair gwaith, y tro cyntaf i Awstralia a Seland Newydd yn 1966, cyn iddo chwarae i Gymru. Chwaraeodd mewn dwy gêm brawf ar y daith yma, mewn dwy gêm brawf ar y daith i Dde Affrica yn 1968 a dwy arall ar y daith i Seland Newydd yn 1971.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records (yn Saesneg). Llundain: J. M. Dent & Sons Ltd. tt. 12:33. ISBN 0-460-07003-7.
- Gareth Hughes, One hundred years of scarlet (Clwb Rygbi Llanelli, 1983)