Jonathan Thomas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Jonathan Thomas
Jonathan Thomas.jpg
Ganwyd 27 Rhagfyr 1982 Edit this on Wikidata (35 oed)
Penfro Edit this on Wikidata
Galwedigaeth chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/au Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Gweilch, Swansea RFC Edit this on Wikidata
Safle flanker Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeon Cymru Edit this on Wikidata

Chwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymru yw Jonathan Thomas (ganed 27 Rhagfyr 1982). Mae'n chwarae i'r Gweilch fel blaenasgellwr, ac mae wedi cynrychioli Cymru nifer o weithiau.

Ganed Jonathan Thomas yn nhref Penfro. Bu'n chwarae rygbi i Glwb Rygbi Abertawe cyn trosglwyddo i'r Gweilch pan ddechreuwyd rygbi rhanbarthol yn 2003.

Ar ôl chwarae dros Gymru ar lefel dan-21, enillodd ei gap gyntaf dros Gymru yn erbyn Awstralia yn 2003. Daeth i sylw trwy ei berfformiad yn y gêm yn erbyn y Crysau Duon yng Ngwpan y Byd yr un flwyddyn. Roedd yn rhan allweddol o't tîm Cymreig a gyflawnodd y Gamp Lawn yn 2008.