Arthur Gould
Gwedd
Arthur Gould | |
---|---|
Ganwyd | 10 Hydref 1864 Casnewydd |
Bu farw | 2 Ionawr 1919 Casnewydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, swyddog gêm rygbi'r undeb, contractwr, commercial agent |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Richmond Rugby Club, Clwb Rygbi Casnewydd |
Safle | Cefnwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Chwaraewr rygbi'r undeb Cymreig oedd Arthur Joseph "Monkey" Gould (10 Hydref 1864 – 2 Ionawr 1919). Chwaraeodd 27 o weithiau dros Gymru, y rhan fwyaf ohonynt fel canolwr.
Ganed ef yng Nghasnewydd; cafodd y llysewnw "Monkey" am ei fod yn hoff iawn o ddringo coed pan oedd yn fachgen. Chwaraeodd dros Glwb Rygbi Casnewydd am 16 mlynedd o 1882 hyd 1898.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr ar 3 Ionawr, 1885, a'i gêm ryngwladol olaf, hefyd yn erbyn Lloegr, ar 9 Ionawr, 1897. Bu'n gapten Cymru 18 gwaith; record a barhaodd nes i Ieuan Evans ei thorri yn 1994.
Bu farw'n sydyn yn 54 oed, a dywedid fod ei gynhebrwng y mwyaf i'w weld yng Nghymru hyd ar angladd David Lloyd George. Chwaraeodd ei frawd, Bob, 11 gwaith dros Gymru.