Scott Williams
Jump to navigation
Jump to search
Enw llawn | Scott Williams |
---|
Chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymraeg yw Scott Williams (ganwyd 10 Hydref 1990, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin). Mae'n chwarae fel canolwr i dîm Cymru a'r Gweilch, ar ôl treulio bron i ddegawd gyda Sgarlets Llanelli.
Blynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Chwaraeodd dros Hendy-gwyn ar Daf cyn ymuno â thîm Llanelli. Ymunodd Williams â Scarlets Llanelli yn 2009.
Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]
Cynrychiolodd Williams dimau o dan 16, o dan 18 ac o dan 20 Cymru. Gwnaeth ei ymdangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn y Barbariad ym mis Mehefin 2011. Mae'n siaradwr Cymraeg rhugl.
Fe'i dewiswyd i chwarae yn ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2011, Seland Newydd. Fe sgoriodd bedwar cais yn ystod y twrnament.