Stadiwm Wembley
![]() | |
Math | stadiwm pêl-droed ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Brent |
Agoriad swyddogol | 9 Mawrth 2007 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.55556°N 0.27944°W ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Cymdeithas Bêl-droed Lloegr ![]() |
Stadiwm pêl-droed cenedlaethol Lloegr yw Stadiwm Wembley. Fe'i lleolir yn Wembley, rhan o fwrdeistref Brent yng ngorllewin Llundain. Cynhelir rownd derfynol Cwpan Lloegr (neu Gwpan yr FA) a gemau cartref tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr yno.
Agorodd y stadiwm presennol, a gynlluniwyd gan y penseiri HOK Sport (a gynlluniodd Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd) a Foster and Partners, yn 2007. Saif ar safle stadiwm cynharach a agorwyd ym 1923; dymchwelwyd hwn yn 2003. Tra'r oedd Stadiwm y Mileniwm yn cael ei adeiladu yng Nghaerdydd chwaraewyd gemau cartref tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru yn hen stadiwm Wembley, a thra oedd y stadiwm newydd yn cael ei adeiladu cynhaliwyd rownd derfynol Cwpan yr FA yng Nghaerdydd. Cynhaliwyd gemau pêl-droed Gemau Olympaidd yr Haf 2012 yno hefyd.