Stadiwm Wembley (1923)
![]() Twin Towers Stadiwm Wembley | |
Enwau blaenorol | Empire Stadium British Empire Exhibition Stadium |
---|---|
Lleoliad | Wembley, Llundain, Lloegr |
Cyfesurynnau | 51°33′20″N 0°16′47″W / 51.55556°N 0.27972°WCyfesurynnau: 51°33′20″N 0°16′47″W / 51.55556°N 0.27972°W |
Perchennog | Wembley Company |
Eisteddleoedd | 82,000 (127,000 yn wreiddiol) |
Cynulleidfa;(uchafswm) | 126,047 (Bolton Wanderers vs West Ham United – Rownd Derfynol Cwpan Lloegr 1923) |
Arwynebedd | Glaswellt a thrac |
Cost codi | |
Tywarchen gyntaf | 1922 |
Agorwyd | 28 April 1923 |
Adfer | 1963 |
Caewyd | 7 Hydref 2000 |
Dymchwelwyd | 2002–2003 |
Rebuilt | Agorwyd y Stadiwm Wembley newydd yn ei le yn 2007 |
Costau adeiladu | £750,000 GBP (1923) |
Pensaer/i | Syr John William Simpson a Maxwell Ayrton Syr Owen Williams (peiriannydd) |
Tenants | |
Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr (1923–2000) London Monarchs (1991–1992) Tîm speedway Wembley Lions (1946–1957, 1970–1971) Arsenal (gemau UEFA, 1998–2000) Leyton Orient FC (1930) |
Roedd y Stadiwm Wembley gwreiddiol (/ˈwɛmbli/ ; a adnabyddir hefyd fel Stadiwm yr Ymerodraeth) yn stadiwm bêl-droed ym Mharc Wembley, Llundain, a oedd yn sefyll ar yr un safle a'i olynydd.[1]
Cynhaliwyd rownd derfynol Cwpan Lloegr yn Wembley yn flynyddol o 1923, yn ogystal â rownd derfynol Chwpan Cynghrair Lloegr yn flynyddol. Hefyd, cynhaliwyd pum rownd derfynol Cwpan Ewrop, Rownd Derfynol Cwpan y Byd 1966, a rownd derfynol Ewro 96. Ymysg y campau eraill a gafodd eu cynnal yno mae Gemau Olympaidd yr Haf 1948, rownd derfynol Cwpan Her rygbi'r gynghrair, a Rowndiau Terfynol Cwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair 1992 a 1995. Cafodd nifer o ddigwyddiadau cerddorol eu cynnal yno hefyd, gan gynnwys cyngerdd elusennol Live Aid ym 1985.
Torrwyd tywarchen gyntaf y stadiwm gan Frenin Siôr V, ac fe’i hagorwyd gyntaf i’r cyhoedd ar 28 Ebrill 1923. Trawsnewidiwyd llawer o dirwedd wreiddiol Parc Wembley Humphry Repton ym 1922–23 yn ystod paratoadau ar gyfer Arddangosfa Ymerodraeth Prydain 1924–25. Fe'i gelwid yn gyntaf yn Stadiwm Arddangosfa'r Ymerodraeth Brydeinig [2] neu'n syml yn Stadiwm yr Ymerodraeth, ac fe'i adeiladwyd gan Syr Robert McAlpine gyfer Arddangosfa'r Ymerodraeth Brydeinig [3] ym 1924 (wedi'i ymestyn i 1925).[4][5][6][7]
Costiodd y stadiwm £750,000 ac fe'i hadeiladwyd ar safle ffoledd cynharach o'r enw Watkin's Tower. Y penseiri oedd Syr John Simpson a Maxwell Ayrton a'r prif beiriannydd oedd Syr Owen Williams. Y bwriad yn wreiddiol oedd dymchwel y stadiwm ar ddiwedd yr Arddangosfa, ond fe’i achubwyd ar awgrym Syr James Stevenson, Albanwr a oedd yn gadeirydd ar bwyllgor trefnu Arddangosfa'r Ymerodraeth. Defnyddiwyd y maes ar gyfer pêl-droed mor gynnar â'r 1880au [8]
Ar ddiwedd yr arddangosfa, dechreuodd entrepreneur Arthur Elvin (a ddaeth yn Syr Arthur Elvin yn ddiweddarach) brynu'r adeiladau adfail fesul un, a'u dymchwel a gwerthu'r sgrap. Roedd y stadiwm wedi mynd i ddwylo'r derbynnydd ar ôl penderfynu ei fod yn "anhyfyw yn ariannol".[9] Cynigiodd Elvin brynu'r stadiwm am £127,000, gan roi blaendal o £12,000 a thalu'r balans ynghyd â'r llog oedd yn daladwy dros ddeng mlynedd.[10]
Pêl-droed[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Wembley yn fwyaf adnabyddus am gynnal gemau pêl-droed, ar ôl cynnal Rownd Derfynol Cwpan FA yn flynyddol yn ogystal â nifer o gemau tîm rhyngwladol Lloegr.
Rownd Derfynol y Ceffyl Gwyn[golygu | golygu cod y dudalen]
Adeiladwyd Stadiwm yr Ymeodraeth mewn union 300 diwrnod ar gost o £750,000. Wedi'i ddisgrifio fel arena chwaraeon fwyaf y byd, roedd yn barod bedwar diwrnod yn unig cyn Rownd Derfynol y "Ceffyl Gwyn" ym 1923. Nid oedd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi ystyried mynediad drwy docyn, gan danamcangyfrif yn fawr nifer y cefnogwyr a gyrhaeddodd y 104 giât ar ddiwrnod y gêm. Fodd bynnag, ar ôl y gêm, bu mynediad i pob digwyddiad, ar wahân i gêm ailchwarae 1982,[11] drwy docyn.
Y digwyddiad cyntaf a gynhaliwyd yn y stadiwm oedd rownd derfynol Cwpan Loegr ar 28 Ebrill 1923 rhwng Bolton Wanderers a West Ham United. Gelwir hyn yn Rownd Derfynol y Ceffyl Gwyn. Cymaint oedd awydd cefnogwyr ac arsylwyr achlysurol i fynychu'r rownd derfynol yn y stadiwm genedlaethol newydd nes bod nifer helaeth o bobl wedi crwydro drwy'r 104 o gatiau tro i'r stadiwm, gan fynd heibio'r capasiti swyddogol o 127,000. Gorlifodd y torfeydd ar y cae gan nad oedd lle ar y terasau. Mae amcangyfrifon o nifer y cefnogwyr a oedd yn bresennol yn amrywio o 240,000[12] i ymhell dros 300,000.[13] Amcangyfrifir bod 60,000 arall wedi'u cloi y tu allan i'r gatiau. Bu'n rhaid i'r gymdeithas bêl-droed i ad-dalu 10% o gyfanswm arian y giât i gefnogwyr nad oeddent yn gallu cyrraedd y terasau. [ angen dyfynnu ]
Rownd Derfynol Matthews[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd Rownd Derfynol Cwpan FA 1953 rhwng Blackpool a Bolton Wanderers ei galw’n “Rownd Derfynol Matthews” ar ôl asgellwr Blackpool, Stanley Matthews. Yn 38 oed, roedd yn gwneud ei drydedd ymddangosiad a'i ymgais olaf i ennill medal Cwpan Lloegr.[14] Yn ystod y chwe blynedd flaenorol, methodd ag ennill medal enillydd yn erbyn Manchester United ym 1948 a Newcastle United ym 1951 . Roedd y gêm cynnwys hat-tric gan Stan Mortensen i Blackpool ym muddugoliaeth 4–3 ei dîm, gyda Matthews bron ar ei ben ei hun yn troi’r ornest o blaid Blackpool, wedi iddynt fod 3-1 ar ei hôl fi i Bolton Wanderers cyn brwydro'n yn ôl i ennill yr ornest. Dyna oedd yr unig hat-tric a sgoriwyd erioed mewn rownd derfynol Cwpan Lloegr yn y Wembley gwreiddiol.
Chwaraewyd rownd derfynol Cwpan Lloegr yno ym mis Ebrill neu fis Mai tan 2000 (ac eithrio ailchwarae'r rownd derfynol yn 1970 pan oedd Chelsea yn drech na Leeds United yn Old Trafford). Roedd hefyd yn lleoliad ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan Amatur Lloegr, Cwpan Cynghrair Lloegr (heblaw am y blynyddoedd cynnar pan setlwyd hwn dros ddwy gymal gartref ac oddi cartref) ac yn y blynyddoedd diweddarach Cwpan yr Aelodau Cyswllt a rowndiau terfynol gemau ail-gyfle y Gynghrair Bêl-droed (ym mlynyddoedd cynnar y gemau ail-gyfle roeddent yn gemau gartref ac oddi cartref). Chwaraewyd rownd derfynol Cwpan Elusen Middlesex 1988 yno hefyd.[15]
Gemau rhyngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyn stadiwm Wembley 1923, roedd gemau pêl-droed rhyngwladol wedi cael eu chwarae gan Loegr mewn amrywiol stadia. Am y 27 mlynedd gyntaf, unig gemau rhyngwladol Lloegr a chwaraewyd yn Wembley oedd gemau yn erbyn yr Alban, gyda gemau eraill yn cael eu chwarae mewn mannau eraill tan 1951. Y tîm cyntaf heblaw'r Alban i wynebu Lloegr yn Wembley oedd yr Ariannin.[16]
Ym 1956 a 1971, dyma oedd lleoliad gemau cartref tîm pêl-droed cenedlaethol Prydain Fawr ar gyfer y gemau rhagbrofol ar gyfer Gemau Olympaidd yr Haf erbyn Bwlgaria .[17]
Yn 1966, hwn oedd prif leoliad Cwpan y Byd FIFA . Cynhaliwyd naw gêm yno, gan gynnwys y rownd derfynol, lle enillodd Lloegr 4–2 ar ôl amser ychwanegol yn erbyn Gorllewin yr Almaen .
Saith mlynedd yn ddiweddarach, Wembley oedd y lleoliad ar gyfer gêm gyfeillgar wedi'i drefnu'n arbennig rhwng timau o'r enw "Y Tri" a "Y Chwech" i ddathlu'r Deyrnas Unedig sy'n ymuno â'r Undeb Ewropeaidd . Gorffennodd yr ornest 2–0 i "Y Tri".
Ym 1996, hwn oedd prif leoliad Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 1996, gan gynnal pob un o gemau Lloegr, yn ogystal â rownd derfynol y twrnamaint, lle enillodd yr Almaen Bencampwriaeth Ewropeaidd UEFA am y trydydd tro ar ôl trechu'r Weriniaeth Tsiec 2-1 gyda'r gôl euraidd rhyngwladol cyntaf yn hanes pêl-droed. Yn gynharach roedd yr Almaen wedi trechu Lloegr ar giciau o’r smotyn yn y rownd gynderfynol ar ôl gêm gyfartal 1–1, gyda Gareth Southgate yn methu un o'r cic o'r smotyn i Loegr.
Collodd Lloegr ei dwy gêm gystadleuol olaf Lloegr a chwaraewyd yn y stadiwm o 0-1 yn erbyn yr Alban a'r Almaen yn y drefn honno.
Chwaraeon eraill[golygu | golygu cod y dudalen]
Rygbi'r gynghrair[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghamp rygbi'r gynghrair, cynhaliwyd rownd derfynol y Gwpan Her yn Wembley o 1929 ymlaen.[18] Roedd y stadiwm hefyd yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan y gamp ar gyfer gemau rhyngwladol mawr, fel Prydain Fawr yn erbyn Awstralia. Y dorf fwyaf ar gyfer rownd derfynol y Gwpan Her yn Wembley oedd ym 1985 pan gurodd Wigan Hull FC 28–24 o flaen torf o 99,801.[19]
Gemau Olympaidd yr Haf 1948[golygu | golygu cod y dudalen]
Wembley oedd prif leoliad Gemau Olympaidd yr Haf 1948, gyda Fanny Blankers-Koen ac Emil Zátopek ymhlith yr enillwyr nodedig mewn athletau. Cynhaliodd y Stadiwm hefyd rowndiau cyn-derfynol a rowndiau terfynol y twrnameintiau hoci a phêl-droed Olympaidd, digwyddiad Prix des Nations y gystadleuaeth marchogaeth, a gêm arddangos lacrosse.
Rygbi'r undeb[golygu | golygu cod y dudalen]
Er nad oedd y lleoliad yn draddodiadol yn cynnal gemau rygbi'r undeb, chwaraeodd Lloegr gêm gyfeillgar yn erbyn Canada ar 17 Hydref 1992, gan fod eu stadiwm cartref rheolaidd yn Twickenham yn cael ei ailddatblygu. Chwaraeodd Cymru eu gemau cartref Pum Gwlad a'r hydref yn Wembley (gan na allant ddefnyddio Stadiwm Twickenham) tra bod Parc Arfau Caerdydd yn cael ei ailadeiladu fel Stadiwm y Mileniwm ar ddiwedd y 1990au (cytunbed a ad-dalwyd ar gyfer Cwpanau FA yn ystod y gwaith o adeiladu'r Stadiwm Wembley newydd). Chwaraewyd cyfanswm o saith gêm ryngwladol.
Dyddiad | Cystadleuaeth | Tîm cartref | Tîm oddi cartref | Torf | ||
---|---|---|---|---|---|---|
17 Hydref 1992 | Cyfres Ryngwladol yr Hydref 1992 | Lloegr | 26 | Canada | 13 | |
29 Tachwedd 1997 | Cyfres Ryngwladol yr Hydref 1997 | Cymru | 7 | Seland Newydd | 42 | 76,000 |
5 Ebrill 1998 | Pencampwriaeth y Pum Gwlad 1998 | 0 | Ffrainc | 51 | 75,000 | |
7 Mawrth 1998 | 19 | Yr Alban | 13 | 72,000 | ||
14 Tachwedd 1998 | Cyfres Ryngwladol yr Hydref 1998 | 20 | De Affrica | 28 | 55,000 | |
20 Chwefror 1999 | Pencampwriaeth y Pum Gwlad 1999 | 23 | Iwerddon | 29 | 76,000 | |
11 Ebrill 1999 | 32 | Lloegr | 31 | 76,000 |
Cerddoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Daeth y stadiwm yn lleoliad cerddorol ym mis Awst 1972 gyda The London Rock and Roll Show, cyngerdd llawn sêr. Yn ddiweddarach, cynhaliodd nifer o gyngherddau a digwyddiadau, y mwyaf enwog yn eu mysg oedd cymal Prydain o Live Aid, a oedd yn cynnwys perfformwyr fel David Bowie, Queen, Paul McCartney, Elton John, The Who, Dire Straits ac U2, a gynhaliwyd yn y stadiwm ar 13 Gorffennaf 1985. Perfformiodd Phil Collins yn Wembley, yna cymerodd hofrennydd i Faes Awyr Heathrow yn Llundain a mynd ar British Airways Concorde i Philadelphia, Pennsylvania, i berfformio yng nghymal America Live Aid yn Stadiwm JFK ar yr un diwrnod.
Cyngherddau elusennol eraill a gynhaliwyd yn y stadiwm oedd cyngerdd Human Rights Now!, Cyngerdd Teyrnged Pen-blwydd 70 Nelson Mandela, Cyngerdd Nelson Mandela: Teyrnged Ryngwladol ar gyfer De Affrica Rydd, Cyngerdd Teyrnged Freddie Mercury ar gyfer Ymwybyddiaeth o AIDS a chyngerdd elusennol NetAid .
Perfformiodd Michael Jackson 15 gwaith yn Wembley, y nifer mwyaf o weithiau gan unrhyw artist yn hanes Stadiwm Wembley, gan werthu dros 1.1 miliwn o docynnau yn y broses.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Campbell, Denis (13 June 1999). "Foster topples the Wembley towers". The Guardian. Cyrchwyd 2 March 2012.
- ↑ Staff (17 June 1924). "Asks Premier to Stop Rodeo Steer Roping; British Society Appeals 'in Name of Humanity' Against Contest of American Cowboys". The New York Times.
- ↑ Sunday Tribune of India (newspaper) Article on exhibition (2004)
- ↑ British Pathe (agency) Archifwyd 2011-06-11 yn y Peiriant Wayback. Film of British Empire Exhibition, reel one
- ↑ British Pathe (agency) Archifwyd 2011-06-11 yn y Peiriant Wayback. Film of British Empire Exhibition, reel two
- ↑ British Pathe (agency) Archifwyd 2011-06-11 yn y Peiriant Wayback. Film of British Empire Exhibition, reel three
- ↑ British Pathe (agency) Archifwyd 2011-06-11 yn y Peiriant Wayback. Film of British Empire Exhibition, reel four
- ↑ "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 May 2009. Cyrchwyd 18 May 2009.CS1 maint: archived copy as title (link). Wembley Stadium.
- ↑ de Lisle, Tim (14 March 2006). "The height of ambition". The Guardian. Cyrchwyd 29 September 2008.
- ↑ Jacobs, N and Lipscombe, P (2005). Wembley Speedway: The Pre-War Years. Stroud: Tempus Publishing. ISBN 0-7524-3750-X.
- ↑ Collett, Mike (2003). The Complete Record of The FA Cup. t. 35. ISBN 1-899807-19-5.
- ↑ Bateson, Bill; Albert Sewell (1992). News of the World Football Annual 1992/93. Harper Collins. ISBN 0-85543-188-1.
- ↑ Matthews, Tony (2006). Football Firsts. Capella. ISBN 1-84193-451-8.
- ↑ "The Matthews Final". BBC News. 24 February 2000. Cyrchwyd 20 July 2009.
- ↑ Francis, Tony (22 August 2005). "Future returns to the past". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 14 January 2010.
- ↑ [1].
- ↑ Barker, Philip (June 2003). "Wembley Stadium – An Olympic Chronology 1923–2003" (PDF). Journal of Olympic History. LA84 Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF format) ar 2012-07-17. Cyrchwyd 14 January 2010.
- ↑ "The History Of Rugby League". Rugby League Information. napit.co.uk. Cyrchwyd 2 January 2014.
- ↑ 1954 Challenge Cup Final at Rugby League Project