Ysgol Gymraeg Pwll Coch

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ysgol Gymraeg Pwll Coch
Logo Ysgol Gymraeg Pwll Coch.png
Arwyddair Anelu at Ragoriaeth
Sefydlwyd 1996
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mr Christopher Newcombe
Lleoliad Rhodfa Lawrenny, Lecwydd, Caerdydd, Cymru, CF11 8BR
AALl Cyngor Caerdydd
Disgyblion 520 (yn 2018, gan gynnwys 64 o ddisgyblion rhan-amser yn y dosbarth meithrin)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–11
Llysoedd Cadair Idris, Epynt, Preseli a'r Wyddfa
Lliwiau Coch a llwyd
Gwefan http://www.ysgolpwllcoch.co.uk

Ysgol gynradd Gymraeg yn ardal Lecwydd yng nghymuned Treganna, Caerdydd yw Ysgol Gymraeg Pwll Coch.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd yr ysgol ym 1996 dan arweiniad y brifathrawes Miss Anna Roberts. Am dair blynedd gyntaf ei bodolaeth, lleolid yr ysgol mewn adeilad ar safle Ysgol Uwchradd Fitzalan. Ym Medi 1999, symudodd i adeilad newydd ar dir gyferbyn â Fitzalan ar Lawrenny Avenue. Hi oedd yr ysgol Gymraeg gyntaf yn y brifddinas i dderbyn adeilad newydd pwrpasol.

Cynyddodd nifer y disgyblion yn gyflym ac ym Medi 2000 derbyniwyd dau ddosbarth mynediad i'r ysgol. Gan hynny bu'n rhaid codi cabanau dros dro ar dir yr ysgol.[2] Yn 2006, cwblhawyd estyniad sylweddol ar gyfer yr ysgol uchaf a chyrhaeddodd yr ysgol ei llawn dwf gyda dau ddosbarth ym mhob blwyddyn yn 2008.[3]

Yn sgil diffyg darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ardal ehagach bu'n rhaid i'r ysgol dderbyn tri dosbarth mynediad yn 2011 a 2012 ac fe godwyd cabanau dros dro ar eu cyfer. Erbyn 2018 roedd dros 520 o ddisgyblion yn yr ysgol.

Mrs Meinir Howells oedd pennaeth yr ysgol o fis Ebrill 2009 tan Gorffennaf 2016. Mae Mr Christopher Newcombe yn bennaeth ers mis Medi 2016.

Ym mis Chwefror 2019, agorodd Canolfan Adnoddau Arbenigol, Yr Hafan, yn yr ysgol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu dwys. Agorwyd Yr Hafan yn swyddogol gan Y Gwir Anrh Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru, ar Ddydd Gwener 22ain o Dachwedd 2019.

Daw enw'r ysgol o'r Pwll Coch, sef pwll yn afon Elái. Rhoddodd y pwll ei enw i bentref bychan o'r un enw a safai ger tafarn Tŷ Pwll Coch. Mynn traddodiad fod y pwll wedi llenwi â gwaed yn dilyn Brwydr Sain Ffagan yn 1648. Nid yw'r ardal hon bellach yn rhan o ddalgylch yr ysgol.

Cyffredinol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae dalgylch presennol yr ysgol yn cynnwys Grangetown a rhannau o Glan'rafon (gan gynnwys y rhan fwyaf o Bontcanna), Treganna, a Thre-biwt.  Mae'r ysgol yn rhan o glwstwr Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.

Yn 2019, deuai tua 10% o'r disgyblion o gartrefi Cymraeg gydag o leiaf un o’r rhieni yn siarad Cymraeg a thua 60% o’r disgyblion o gartrefi di-Gymraeg. Deuai tua 25% o gefndir ethnig lleiafrifol.[4]

Nododd adroddiad arolygiad Estyn ar yr ysgol yn 2018 fod y 'staff yn creu ethos hapus, gofalgar a chynhwysol yn yr ysgol, lle mae pawb yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi ... Mae ansawdd yr addysgu ar draws yr ysgol yn dda ... mae rhan fwyaf y disgyblion yn gwneud cynnydd cadarn, yn cyflawni’n dda ac yn defnyddio eu medrau i safon uchel erbyn diwedd cyfnod allweddol 2... Mae arweinwyr yn hynod effeithiol ...Mae safonau ymddygiad yn gyson uchel'.[4]

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, a'r Cynghorydd Sarah Merry: 'Llongyfarchiadau i Mr Newcombe, yr holl staff, disgyblion, llywodraethwyr a phawb sydd yn ymwneud ag Ysgol Pwll Coch yn llwyddo i ennill cystal canlyniadau da yn arolygon Estyn. Gwn fod pawb yn yr ysgol wedi rhoi cymaint o waith caled er mwyn sicrhau'r llwyddiant hwn, ac rwy hefyd yn gwybod am yr ymrwymiad a'r penderfyniad sydd ganddynt i weithio tuag at ragoriaeth yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at gael ychwanegu fy llongyfarchion yn bersonol pan fyddaf yn ymweld nesaf ag Ysgol Pwll Coch.' [5]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]