Glan'rafon
Math | cymuned, maestref |
---|---|
Poblogaeth | 13,771, 7,622 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.479°N 3.189°W |
Cod SYG | W04001003 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mark Drakeford (Llafur) |
AS/au y DU | Alex Barros-Curtis (Llafur) |
Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw Glan'rafon (Saesneg: Riverside).[1]
Roedd cymuned Glan'rafon yn cynnwys dwy ardal dra gwahanol, sef Pontcanna i'r gogledd o Cowbridge Road East a De Glan'rafon i'r de o'r ffordd honno. Ar lafar defnyddir 'Riverside' (neu 'Glan'rafon') gan amlaf i gyfeirio at yr ail o'r ardaloedd hyn. Roedd creu cymuned Pontcanna newydd yn 2016.[2]
Mae'r ardal i'r de o Cowbridge Road East yn cynnwys strydoedd o dai teras yn bennaf, ac fe'i nodweddir gan ei hamrywiaeth ethnig, gyda chymunedau sylweddol o bobl o dras Bangladeshaidd a Tseiniaidd, yn arbennig o gwmpas Tudor Street.
Er ei bod yn un a ardaloedd tlotaf Caerdydd, mae llawer i'w gynnig gan yr ardal, gyda nifer o siopau Tseiniaidd, Halal, Indiaidd, ac Indiaidd Gorllewinol yn gwerthu dewis eang o fwydydd. Mae Cymdeithas Marchnad Cymuned Glan'rafon wedi datblygu cryn dipyn yn y blynyddoedd diweddar, gan greu Marchnad ffermwyr ar gyfer pob dydd Sul, sydd wedi tyfu'n sylweddol.
Y Gymraeg
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 nodwyd bod 13.7% o'r boblogaeth dros dair blwydd oed yn medru'r Gymraeg, sef 1475 o bobl. Roedd hyn yn gynnydd bach ar ffigyrau cyfrifiad 2001, sef 13.4%.[3]
Ymysg y sefydliadau Cymraeg yn yr ardal, mae siop llyfrau Cymraeg 'Caban' ar Kings Road ac adwaenir tafarn y Mochyn Du (yng Ngerddi Sophia) yn dafarn sy'n denu llawer o gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.
Agorodd capel Cymraeg yn Severn Road yn 1867 [1] Archifwyd 2015-02-08 yn y Peiriant Wayback. Caeodd y capel hwnnw'n 1979 a mosg yw'r adeilad bellach.
Roedd dyfodiad stiwdio teledu HTV i Bontcanna, a gynhyrchodd raglenni Cymraeg, yn hwb i'r iaith yn yr ardal.
Llywodraeth
[golygu | golygu cod]Mae ward Glan'rafon yn rhan o etholaeth seneddol Gorllewin Caerdydd. Mae'n ffinio â Gabalfa i'r gogledd; Cathays i'r dwyrain; Grangetown i'r de; a Threganna a Llandaf i'r gorllewin.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Ivor Novello, cyfansoddwr, cantor ac actor
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfeiriadau diwylliannol
[golygu | golygu cod]Mae'r cerddor Gwenno yn cyfeirio at strydoedd mewn ardal Glan'rafon yn ei chân Despenser St, oddi ar yr Ymbelydredd EP.[8][9][10]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; argraffwyd 2008; tudalen 117
- ↑ The City and County of Cardiff (Communities) Order – 2016 No. 1155 (W. 277) (PDF). Welsh Statutory Instruments. 2016.
- ↑ Comisiynydd y Gymraeg: Cyfrifiad 2011: canlyniadau yn ôl Cymuned Archifwyd 2015-01-06 yn y Peiriant Wayback; gwelwyd 24 Ionawr 2015.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
- ↑ https://soundcloud.com/gwenno/despenser-st[dolen farw]
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-28. Cyrchwyd 2015-01-25.
- ↑ http://caniadur.info/wici/Despenser_St[dolen farw]
- Adamsdown
- Caerau
- Castell
- Cathays
- Cyncoed
- Y Ddraenen
- Yr Eglwys Newydd
- Gabalfa
- Glan'rafon
- Grangetown
- Hen Laneirwg
- Llandaf
- Llanedern
- Llanisien
- Llanrhymni
- Llys-faen
- Y Mynydd Bychan
- Pen-twyn
- Pen-tyrch
- Pen-y-lan
- Pontcanna
- Pontprennau
- Radur a Threforgan
- Y Rhath
- Rhiwbeina
- Sain Ffagan
- Y Sblot
- Tongwynlais
- Tre-biwt
- Tredelerch
- Treganna
- Trelái
- Tremorfa
- Trowbridge
- Y Tyllgoed
- Ystum Taf