Adamsdown
Math | maestref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 10,371, 11,609 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 106.68 ha |
Cyfesurynnau | 51.4853°N 3.1593°W |
Cod SYG | W04000837 |
Cod OS | ST196769 |
Cod post | CF24 |
AS/au y DU | Jo Stevens (Llafur) |
Ardal a chymuned yn ne-ddwyrain Caerdydd yw Adamsdown. Dywedir iddi gael ei henwi ar ôl Adam Kygnot, porthor yng Nghastell Caerdydd tua 1330.[1]
Mae nifer o strydoedd yr ardal wedi eu henwi ar ôl metalau, cerrig gwerthfawr a thermau seryddol.
Lleolir nifer o sefydliadau pwysig yn yr ardal, megis Llys Ynadon, Carchar Caerdydd, Clafdy Brenhinol Caerdydd ac Ysgol Diwylliannau Celfyddydol a Diwylliannol Prifysgol De Cymru a champws Gerddi Howard Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Ymhlith addoldai yr ardal mae Eglwys Sant Garmon, Synagog y diwygiad a sawl teml Sikh. Yno hefyd y mae Ysgol Gynradd Adamsdown.
Enwau Cymraeg
[golygu | golygu cod]Adamsdown yw'r ffurf arferol yn y Gymraeg, a honno a ddefnyddir gan Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Mae'r Gwyddoniadur hefyd yn nodi bodolaeth y ffurf Gymraeg Waunadda (t. 117), ond ymddengys mai bathiad diweddar yw'r ffurf honno. Nid oes tystiolaeth fod Adam Kygnot (gan gymryd mai ef a roes ei enw i'r ardal) erioed wedi ei alw'n 'Adda'.
Enw Cymraeg arall sydd wedi ei ddefnyddio am yr ardal yw Y Sblot Uchaf.[2] Yn wreiddiol fferm ydoedd y Sblot Uchaf (neu 'Upper Splott') ar safle'r Great Eastern Hotel diweddarach (a ddymchwelwyd yn 2009) ar gornel Sun Street a Metal Street.[3]
Y ffurf Adamsdown, fodd bynnag, yw'r un arferol yn y Gymraeg fel yn y Saesneg, a honno a ddefnyddir gan Gyngor Caerdydd.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 'Schedule of place names: A - F', Cardiff Records: volume 5 (1905), pp. 337-369. URL: http://www.british-history.ac.uk/report.aspx?compid=48203 Archifwyd 2013-09-19 yn y Peiriant Wayback Gwelwyd: 29 Mehefin 2013.
- ↑ Owen John Thomas, 'Yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd c.1800-1914', tt. 191–3, yn Geraint H. Jenkins (gol.), Iaith Carreg Fy Aelwyd (Caerdydd, 1998).
- ↑ 'Schedule of place names: S - Z', Cardiff Records: volume 5 (1905), pp. 413-437. URL: http://www.british-history.ac.uk/report.aspx?compid=48206 Gwelwyd: 29 Mehefin 2013.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
- Adamsdown
- Caerau
- Castell
- Cathays
- Cyncoed
- Y Ddraenen
- Yr Eglwys Newydd
- Gabalfa
- Glan'rafon
- Grangetown
- Hen Laneirwg
- Llandaf
- Llanedern
- Llanisien
- Llanrhymni
- Llys-faen
- Y Mynydd Bychan
- Pen-twyn
- Pen-tyrch
- Pen-y-lan
- Pontcanna
- Pontprennau
- Radur a Threforgan
- Y Rhath
- Rhiwbeina
- Sain Ffagan
- Y Sblot
- Tongwynlais
- Tre-biwt
- Tredelerch
- Treganna
- Trelái
- Tremorfa
- Trowbridge
- Y Tyllgoed
- Ystum Taf